Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Mae gan eich plentyn blentyn - pwy sy'n cael hawlio Credyd Treth Plant?

Os yw’ch plentyn yn cael babi, efallai y gallant hawlio Credydau Treth Gwaith eu hunain os ydynt yn 16 oed neu hŷn. Ond os byddant yn gwneud hyn, ni fyddwch chi’n gallu hawlio ar eu cyfer hefyd. Neu os yw’r ddau blentyn yn byw gyda chi, efallai y gallwch hawlio am y ddau ohonynt yn lle.

Pryd caiff eich plentyn hawlio

Ar yr amod bod eich plentyn yn 16 neu'n hŷn, ac yn gyfrifol am y babi, cânt wneud hawliad Credyd Treth Plant eu hunain.

Gellir ôl-ddyddio hawliad eich plentyn i'r dyddiad y cafodd y babi ei eni, ar yr amod eu bod yn gwneud hawliad cyn pen un mis. Os byddant yn oedi efallai y gallant golli arian. Er enghraifft, os cafodd y babi ei eni ar 1 Ionawr ond dim ond ar 1 Mehefin derbyniwyd hawliad eich plentyn, dim ond o 1 Mai ymlaen y byddant yn cael eu talu.

Os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith ar gyfer eich plentyn yn barod ac maen nhw’n penderfynu gwneud hawliad eu hunain, ni fyddwch chi’n gallu hawlio ar eu cyfer hefyd. Felly mae'n well dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am y babi newydd cyn gynted ag sy'n bosibl drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth. Bydd angen i chi wneud hyn cyn pen un mis – neu mae'n bosib y cewch eich talu gormod o gredydau treth a bydd yn rhaid i chi eu talu’n ôl.

Allwch chi hawlio credydau treth am y ddau blentyn?

Efallai y byddwch yn dal yn cael Credyd Treth Gwaith ar gyfer eich plentyn os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • os ydynt dan 16 oed
  • os ydynt dros 16 ond dan 20, ac mewn addysg neu hyfforddiant sy'n gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith

Os ydych chi'n gofalu am blentyn eich plentyn hefyd, gallwch gael Credyd Treth Plant ar gyfer y ddau blentyn.

Cysylltiadau defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU