Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Babi newydd - pa gredydau treth y mae gennych hawl iddynt?

Os oes gennych chi fabi newydd, efallai y byddwch chi'n gallu cael fwy o arian os ydych eisoes yn cael credydau treth. Neu gallwch hawlio Credyd Treth Plant am y tro cyntaf. Gallwch hefyd cael cymorth drwy Gredyd Treth Gwaith gyda chost gofal plant. Gwnewch eich hawliad o fewn tri mis i’r dyddiad y cafodd eich babi ei eni.

Os ydych chi eisoes yn hawlio credydau treth

I hawlio am y babi newydd, dylech ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth. Ar ôl i chi ddweud wrthynt am eich babi, byddant yn anfon hysbysiad dyfarniad newydd atoch chi. Bydd hyn yn cynnwys manylion llawn eich taliadau newydd. Gwnewch yn siŵr bod eich manylion yn gywir ar yr hysbysiad dyfarniad newydd.

Beth fydd yn digwydd i’ch credydau treth?

Os oes eisoes gennych blant ac yn cael Credyd Treth Plant, gallwch hawlio Credyd Treth Gwaith ar gyfer eich babi newydd hefyd.

Os mai hwn yw eich babi cyntaf, gallwch hawlio Credyd Treth Plant am y tro cyntaf,

Os ydych chi wedi cael fwy nag un babi – er enghraifft efeilliaid, byddwch yn gallu hawlio credydau treth ar gyfer y ddau babi.

Os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Gwaith, gallwch barhau i’w hawlio pan fyddwch yn cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu. Ond bydd yn rhaid i’r ddau ganlynol fod yn berthnasol:

  • roeddech chi'n gweithio'r nifer sylfaenol o oriau ar gyfer eich amgylchiadau yn syth cyn i'ch absenoldeb ddechrau – fel arfer 30 awr yr wythnos os nad oes gynnych blant yn barod
  • rydych yn mynd yn ôl i'r gwaith wedyn

Os ydych chi'n hawlio credydau treth am y tro cyntaf

Gallwch hawlio Credyd Treth Plant am eich babi newydd.

Os ydych chi wedi cael fwy nag un babi – er enghraifft efeilliaid, byddwch yn gallu hawlio credydau treth ar gyfer y ddau babi.

Os byddwch chi’n dechrau gweithio am y tro cyntaf ar ôl genedigaeth eich babi, neu eich bod yn mynd yn ôl i’r gwaith, efallai y gallwch gael Credyd Treth Gwaith hefyd. Gall hwn gynnwys taliad ychwanegol i’ch helpu gydag unrhyw gostau gofal plant am eich babi newydd.

Sut mae hawlio

Bydd angen i chi lenwi ffurflen hawlio. Gallwch dim ond â chael ffurflen hawlio drwy ffonio’r Llinell gymorth Credyd Treth. Byddant hefyd yn gallu rhoi syniad i chi o faint efallai y byddwch yn gallu ei gael.

Mae’n helpu os allwch roi eich rhif Budd-dal Plant pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen hawlio. Os nad ydych wedi cael rhif eto, dylech gyflwyno'r hawliad a rhoi'r rhif i'r Swyddfa Credyd Treth wedyn. Gall hyn olygu y bydd yn cymryd ychydig yn fwy o amser i ddelio â'ch hawliad.

Faint allech chi ei gael?

I gael syniad o faint allwch ei gael, gallwch ddefnyddio’r tablau hawliau ‘yn fras’. Mae’r tablau’n canllaw cyflym i faint allech ei gael ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol – yn gorffen ar 5 Ebrill 2013. Dilynwch y ddolen isod sy’n gymwys i’ch sefyllfa chi.

Gallwch hefyd ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein i gael syniad o faint efallai y bydd gennych hawl iddo – mae’n cymryd 10-15 munud.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddfa Credyd Treth

Rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newidiadau eraill a allai effeithio ar eich taliadau. Er enghraifft:

  • mae partner newydd yn symud i mewn atoch chi neu rydych chi'n gwahanu oddi wrth eich partner
  • rydych chi'n hawlio Credyd Treth Gwaith a dydych chi ddim yn mynd yn ôl i'r gwaith ar ôl eich absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am newidiadau fel hyn cyn pen mis, efallai y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn talu gormod i chi. Fel rheol byddant yn gofyn i chi ad-dalu unrhyw ordaliadau ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb hefyd.

Gallwch roi gwybod am newidiadau drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Os caiff eich plentyn fabi

Efallai rydych chi'n hawlio Credyd Treth Plant am blentyn dan 16 oed sy'n dod yn rhiant. Gallwch hawlio ar gyfer eich plentyn a'r babi newydd - ar yr amod eu bod yn byw gyda chi.

Os yw eich plentyn dros 16 oed ac yn cael babi, gallant hawlio Credyd Treth Plant eu hunain. Ond os byddant yn gwneud hyn, ni fyddwch yn gallu hawlio ar eu cyfer hefyd. Neu, os ydy’r ddau ohonynt yn byw gyda chi, mae’n bosib y gallech wneud cais am y ddau blentyn yn lle.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU