Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes gennych chi fabi newydd neu os ydych chi'n gyfrifol am unrhyw blant dan 16 oed, efallai y gallwch gael Credyd Treth Plant. Gallwch hefyd fod yn gymwys os oes gennych blant rhwng 16 a 19 oed, ar yr amod eu bod nhw mewn mathau penodol o addysg neu hyfforddiant.
Fel rheol cewch chi hawlio Credyd Treth Plant am:
Os oes gennych chi fabi, gellir ôl-ddyddio eich taliadau i'r dyddiad y cafodd y babi ei eni – ond dim ond os byddwch yn hawlio o fewn un mis. Er enghraifft, os cafodd eich babi ei eni ar 1 Ionawr ond dim ond ar 1 Mehefin y derbynnir eich hawliad, dim ond o 1 Mai ymlaen y cewch eich talu.
Ar ôl 31 Awst ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 16, gallwch dal hawlio Credyd Treth Plant amdanynt ar yr amod:
Bydd addysg neu hyfforddiant yn cyfri ar gyfer Credyd Treth Plant os yw’n addysg amser llawn nad yw’n ‘addysg uwch’, neu hyfforddiant ‘cymeradwy’. Er enghraifft, Safon Uwch neu Ddysgu Sylfaen.
Cewch hawlio Credyd Treth Plant os ydych chi'n gyfrifol am blentyn. Gallai hyn fod, er enghraifft:
Ceir eithriadau i hyn. Er enghraifft, os yw plentyn o dramor yn byw gyda chi fel myfyriwr cyfnewid, ni allwch fel arfer hawlio Credyd Treth Plant ar ei gyfer. Mae hyn oherwydd nid yw fel arfer yn byw gyda chi a’i fod yn y DU am ei addysg yn unig.
Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi'n gyfrifol am blentyn, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth i gael cyngor.
Gall plentyn gael ei leoli gyda chi ar gyfer ei fabwysiadu neu ei faethu. Gallwch hawlio Credyd Treth Plant amdanynt ar yr amod nad ydych chi ddim yn cael arian gan:
Os ydych chi'n cael arian gan unrhyw un o’r rhain, dylech ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth i gael gwybod a allwch chi hawlio.
Dim ond un cartref sy'n cael hawlio Credyd Treth Plant am blentyn.
Efallai y byddwch chi’n gofalu am blentyn sy'n byw gyda chi weithiau ac yn byw gyda rhywun arall weithiau. Ni all y ddau ohonoch gael Credyd Treth Plant am yr un plentyn, felly bydd yn rhaid i chi benderfynu pwy ddylai ei hawlio.
Chewch chi ddim hawlio Credyd Treth Plant os nad yw'r plentyn yn byw gyda chi o gwbl - hyd yn oed os ydych chi'n talu cynhaliaeth.
Os na allwch chi gytuno pwy fydd yn hawlio
Os na allwch chi gytuno pwy fydd yn hawlio, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn penderfynu ar eich rhan. Byddant yn cysylltu â'r ddau ohonoch chi er mwyn iddynt allu gweithio allan pwy sydd â'r prif gyfrifoldeb dros y plentyn. Byddant yn edrych ar bethau sy'n cynnwys sawl diwrnod mae'r plentyn yn byw gyda chi a ble mae'r plentyn yn cadw'r rhan fwyaf o'i ddillad a'i deganau.
Os ydych eisoes yn cael credydau treth ar gyfer eich plentyn
Os yw rhywun arall yn hawlio am y plentyn rydych chi'n cael credydau treth ar ei gyfer, efallai y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn i chi ddweud wrthynt pam eich bod yn meddwl mai chi sydd â'r prif gyfrifoldeb dros y plentyn hwnnw.
Os na allwch chi gytuno ar bwy ddylai hawlio, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn penderfynu drosoch chi. Byddwch yn dal yn cael yr arian wrth iddyn nhw wneud eu penderfyniad.
Efallai byddwch chi'n gallu hawlio Credyd Treth Plant ar gyfer eich plentyn os ydych chi’n byw yn y DU ac os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
Os ydych chi a’ch plentyn yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, nid ydych yn gallu hawlio credydau treth fel arfer. Ond weithiau y mae rheolau arbennig yn gymwys sy’n golygu ei bod yn dal yn bosib i chi hawlio Budd-dal Plant. Er enghraifft, os yw eich partner yn un o Weision y Goron wedi’i leoli dramor, ac rydych chi wedi mynd yno gyda nhw, neu os ydych chi’n cael budd-daliadau neu Bensiwn y Wladwriaeth yn y DU.
Gwledydd yn Ardal Economaidd Ewrop
Y gwledydd sydd yn Ardal Economaidd Ewrop ynghyd â'r DU yw'r Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Groeg, Gwlad Belg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Romania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden a'r Weriniaeth Tsiec.
Newidiadau mae'n rhaid rhoi gwybod amdanynt cyn pen mis
Rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth cyn pen mis os bydd eich plentyn:
Os na fyddwch chi'n rhoi gwybod am y newidiadau hyn, efallai y byddwch chi'n cael gormod o gredydau treth. Os bydd y Swyddfa Credyd Treth yn rhoi gormod o arian i chi, fel rheol bydd yn rhaid i chi dalu'r arian yn ôl. Efallai byddan nhw hefyd yn codi cosb arnoch chi.
Newidiadau mae'n rhaid rhoi gwybod amdanynt cyn gynted â phosib
Rhowch wybod i’r Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosib os:
Newid mae'n rhaid rhoi gwybod amdanynt cyn pen tri mis
Rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth cyn pen tri mis os bydd eich plentyn yn 16 neu 17, ac y mae’r ddau’r canlynol yn digwydd:
Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech golli allan ar gyfnod ychwanegol o Gredyd Treth Gwaith ar gyfer eich plentyn, o hyd i at 20 wythnos.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs