Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Plant ag anableddau - allwch chi gael Credyd Treth Plant ychwanegol?

Os oes gan eich plentyn anabledd, neu os ydych chi'n gyfrifol am blentyn ag anabledd, efallai eich bod yn gymwys i gael Credyd Treth Plant ychwanegol

Pwy all gael yr arian ychwanegol?

Gallwch gael Credyd Treth Plant ychwanegol os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • telir Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich plentyn
  • cofrestrwyd bod eich plentyn yn ddall
  • daeth eich plentyn oddi ar y gofrestr dall yn y 28 wythnos cyn i chi hawlio credydau treth

Os telir yr Elfen Ofal Cyfradd Uchaf y Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich plentyn, efallai y byddwch chi'n cael taliad ychwanegol am ei anabledd difrifol.

Rydych chi'n dal yn gymwys i gael yr arian ychwanegol hyd yn oed os yw'r Lwfans Byw i'r Anabl yn stopio oherwydd bod eich plentyn yn mynd i'r ysbyty.

Faint o arian gewch chi?

Mae faint o gredydau treth ychwanegol y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar faint o ofal y mae ei angen ar eich plentyn. Yn y flwyddyn dreth hon - 6 Ebrill 2012 i 5 Ebrill 2013 - gallech gael oddeutu:

  • £2,950 y flwyddyn, mae hynny tua £57 yr wythnos, os yw eich plentyn yn anabl
  • £4,140 y flwyddyn, mae hynny tua £80 yr wythnos, os oes gan eich plentyn anabledd difrifol

Mae'r swm a gewch chi hefyd yn dibynnu ar faint o arian arall rydych chi'n ei gael.

Dydy'r Lwfans Byw i'r Anabl ddim yn cyfrif fel incwm pan fydd eich credydau treth yn cael eu cyfrifo.

Mae budd-daliadau eraill fel Lwfans Gofalwr yn cyfrif fel incwm a gallant ostwng eich taliadau credyd treth.

I gael gwybod mwy am faint allech ei gael, defnyddiwch y cyfrifiannell ar-lein neu ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth.

Sut mae hawlio

Os nad ydych yn cael credydau treth ar hyn o bryd

I hawlio bydd angen i chi lenwi ffurflen hawlio. Dim ond drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth y gallwch gael ffurflen hawlio. Dylech chi anfon eich ffurflen hawlio i mewn cyn gynted â'ch bod chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael credydau treth.

Os ydych eisoes yn cael credydau treth

Os ydych chi nawr eisiau hawlio credydau treth ychwanegol oherwydd bod gan eich plentyn anabledd, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth. Dylech chi wneud hyn cyn gynted â'ch bod yn gwybod y bydd Lwfans Byw i'r Anabl (neu'r Elfen Ofal Cyfradd Uwch) yn cael ei dalu ar gyfer eich plentyn. Cysylltwch â’r llinell gymorth o fewn mis i gael gwybod er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gallu ôl-ddyddio eich taliadau i'r dyddiad cynharaf posibl.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU