Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Byw i'r Anabl – pwy sy'n gymwys

Gallech fod yn gymwys i gael Lwfans Byw i’r Anabl os ydych yn cael trafferth cerdded neu os oes angen help gyda’ch gofal personol arnoch. Mae’n rhaid bod gennych yr anghenion hyn ers tri mis a'ch bod yn disgwyl y bydd arnoch angen yr help hwn, neu y bydd gennych yr anawsterau hyn am o leiaf chwe mis arall.

Os oes gennych anghenion gofal

Hawlio Lwfans Byw i’r Anabl yn barod ac am roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau – cael gwybod mwy

I gael elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl, mae’n rhaid i'ch anabledd fod yn ddigon difrifol fel eich bod naill ai:

  • angen help gyda phethau fel ymolchi, gwisgo, bwyta, mynd i'r tŷ bach a’i ddefnyddio,neu gyfleu eich anghenion
  • angen goruchwyliaeth er mwyn eich atal rhag rhoi eich hun neu eraill, mewn perygl sylweddol
  • angen rhywun gyda chi pan fyddwch yn cael dialysis
  • eich bod yn methu â pharatoi a choginio pryd bwyd ar eich cyfer eich hun (petai'r cynhwysion gennych), os ydych yn 16 oed neu'n hŷn

Mae tair cyfradd i'r elfen ofal, gan ddibynnu ar sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch:

Y gyfradd is
Os oes arnoch angen help am ran o'r diwrnod neu os na allwch baratoi pryd o fwyd.

Y gyfradd ganol
Os oes angen help arnoch gyda gofal personol yn aml neu oruchwyliaeth drwy gydol y dydd yn unig, neu help gyda gofal personol neu rywun i gadw golwg arnoch yn ystod y nos yn unig, neu rywun i fod gyda chi tra rydych yn cael dialysis.

Y gyfradd uwch

Os oes angen help neu oruchwyliaeth arnoch yn aml drwy gydol y dydd a'r nos.

Gallwch gael Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich anghenion gofal, hyd yn oed os nad oes rhywun yn rhoi’r gofal y mae ei angen arnoch, a hyd yn oed os ydych yn byw ar eich pen eich hun.

Os oes gennych anghenion symudedd

I gael elfen symudedd Lwfans Byw i'r Anabl, mae’n rhaid i'ch anabledd fod yn ddigon difrifol i chi fod ag unrhyw un o’r anawsterau cerdded canlynol, hyd yn oed pan fyddwch yn gwisgo neu'n defnyddio offer rydych yn ei ddefnyddio fel arfer:

  • oherwydd anabledd corfforol rydych yn methu â cherdded – neu bron yn methu â cherdded – heb i hynny wneud i chi deimlo’n anghyfforddus iawn, neu gallai ymdrechu i gerdded beryglu eich bywyd neu beri i’ch iechyd ddirywio
  • nid oes gennych draed neu goesau
  • asesir eich bod yn 100 y cant yn anabl oherwydd nad ydych yn gweld a ddim yn llai na 80 y cant yn anabl oherwydd byddardod a bod angen i chi gael rhywun gyda chi pan fyddwch yn mynd o'r tŷ
  • mae gennych nam meddyliol difrifol a phroblemau ymddygiad difrifol, ac rydych yn gymwys i gael cyfradd uwch yr elfen ofal
  • mae angen arweiniad neu oruchwyliaeth arnoch gan berson arall y rhan fwyaf o’r amser pan fyddwch mewn lleoedd sy'n anghyfarwydd i chi
  • bod opthamolegydd ymgynghorol wedi eich cofrestru fel bod gennych nam difrifol ar eich golwg, a’ch bod rhwng 3 a 64 oed ar 11 Ebrill 2011; mae’n rhaid hefyd bod eich acwiti gweledol wedi’i gywiro yn llai na 3/60 ar ei orau, neu fod eich acwiti gweledol wedi'i gywiro yn 3/60 neu fwy ar ei orau, ond yn llai na 6/60 a’ch bod wedi colli eich maes golwg perifferol yn llwyr, ac nad yw eich maes golwg canolog yn fwy na deg gradd ar ei orau

Mae dwy gyfradd i'r elfen symudedd, gan ddibynnu ar sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch:

Y gyfradd is
Os oes angen arweiniad neu oruchwyliaeth arnoch pan fyddwch yn mynd o’r tŷ.

Y gyfradd uwch

Os oes gennych unrhyw rai o'r anawsterau cerdded eraill, mwy difrifol.

Efallai y bydd gennych hawl i gael yr elfen ofal yn unig neu’r elfen symudedd yn unig, neu efallai y bydd gennych hawl i gael y ddwy elfen.

Os ydych yn hawlio ar gyfer plentyn anabl

Mae'n rhaid bod angen llawer mwy o help neu oruchwyliaeth ar eich plentyn nag ar blant eraill yr un oed.

Gallwch hawlio ar gyfer anghenion gofal cyn bod plentyn yn dri mis oed. Fodd bynnag, ni thelir budd-dal nes y bydd y plentyn yn dri mis oed, oni bai y caiff ei dalu o dan 'reolau arbennig' (gweler isod).

Gallwch hawlio am anghenion symudedd o pan fydd eich plentyn yn dair oed os yw eich plentyn:

  • yn methu â cherdded, neu’n bron â methu â cherdded
  • yn peryglu ei hun wrth geisio cerdded

Rheolau arbennig – os ydych yn derfynol wael

Os oes gennych glefyd sy’n gwaethygu ac na ddisgwylir yn rhesymol i chi fyw am fwy na chwe mis, gallwch gael Lwfans Byw i’r Anabl yn gyflymach. Gallwch gael cyfradd uwch yr elfen ofal beth bynnag yw eich anghenion gofal. Gallwch hefyd gael yr elfen ofal ac (os byddwch yn bodloni'r amodau) yr elfen symudedd heb orfod aros tri mis.

Dan y rheolau arbennig, gallwch wneud hawliad ar ran rhywun heb yn wybod iddo neu heb ei ganiatâd. Os bydd yn bodloni'r amodau perthnasol, caiff lythyr i ddweud y bydd yn cael Lwfans Byw i'r Anabl. Ni fydd y llythyr yn sôn am y rheolau arbennig.

I hawlio o dan y rheolau arbennig hyn, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen hawlio Lwfans Byw i’r Anabl
  • cael ffurflen DS1500 wedi’i chwblhau ar wahân gan eich meddyg, eich arbenigwr neu’ch ymgynghorydd i’w hanfon gyda’r cais

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ofalu am rywun sy’n derfynol wael yn yr adran ‘gofalu am rywun’.

Eich amgylchiadau

Mae eich hawl i gael Lwfans Byw i’r Anabl a'r swm a gewch yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddoch i'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr (DCS). Os bydd yr wybodaeth hon yn newid, eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth y DCS. Gallant wirio a ydych yn parhau i fod yn gymwys i gael y budd-dal ac a yw'r swm cywir yn cael ei dalu i chi.

Os ydych yn ansicr pa newidiadau y mae angen i chi roi gwybod i'r DCS amdanynt, darllenwch Lwfans Byw i’r Anabl – eich amgylchiadau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU