Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Byw i'r Anabl – archwiliad meddygol

Efallai y gofynnir i rai pobl sy'n gwneud hawliad am Lwfans Byw i'r Anabl gael archwiliad meddygol. Fel arfer, y rheswm am hyn yw bod angen rhagor o wybodaeth cyn y gellir gwneud penderfyniad ynglŷn â’r hawliad.

Gwybodaeth am yr archwiliad meddygol

Hawlio Lwfans Byw i’r Anabl yn barod ac am roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau – cael gwybod mwy

Mae archwiliad meddygol yn cynnwys cyfweliad ac, weithiau, archwiliad corfforol gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol ym maes ymwybyddiaeth o anabledd.

Mae'r archwiliad meddygol yn debygol o fod yn wahanol i'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl gan eich meddyg eich hun. Nid gwneud diagnosis na thrafod y driniaeth ar gyfer eich cyflwr meddygol yw diben archwiliad gweithiwr gofal iechyd proffesiynol y Gwasanaethau Meddygol. Yn hytrach, mae’n asesu sut mae'ch cyflwr yn effeithio arnoch chi. I wneud hyn, mae'n bosib na fydd angen i'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gynnal archwiliad corfforol.

Pwy sy’n gwneud beth

Dyma'r bobl a'r sefydliadau a fydd yn rhan o broses yr archwiliad meddygol:

  • y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr – sy'n rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau – sy'n delio â hawliadau am fudd-daliadau
  • Gwasanaethau Meddygol Atos Healthcare, sy’n trefnu archwiliadau meddygol ar ran y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr
  • y 'sawl sy’n gwneud y penderfyniad' – person nad yw'n weithiwr meddygol yn y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr sy'n gyfrifol am wneud penderfyniad am eich hawliad am fudd-dal
  • y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n cynnal yr archwiliad meddygol

Rhesymau dros gael archwiliad meddygol

Mae'n bosib bod sawl rheswm dros ofyn i chi gael archwiliad meddygol. Nid yw'n golygu bod yr wybodaeth roddoch chi ar eich ffurflen hawlio yn cael ei hystyried yn amheus nac y bydd eich hawliad yn cael ei wrthod. Un o'r rhesymau posib dros gael archwiliad meddygol yw gweld a ydych chi'n cael y swm llawn o fudd-dal y mae gennych yr hawl i’w gael.

Pan fyddwch chi'n gwneud hawliad am Lwfans Byw i'r Anabl am y tro cyntaf, anfonir ffurflen hawlio atoch i'w llenwi. Bydd y sawl sy’n gwneud y penderfyniad yn asesu'ch ffurflen hawlio ar ôl i chi ei llenwi, a rhaid i’r person hwnnw benderfynu:

  • a ddylid cymeradwyo'ch hawliad
  • a oes gennych chi'r hawl i gael un elfen o'r budd-dal neu'r ddwy ohonynt (sef yr elfen symudedd a'r elfen ofal), a
  • faint o fudd-dal y mae gennych chi hawl i’w gael

Mae'n bosib y bydd y sawl sy’n gwneud y penderfyniad yn gofyn am archwiliad meddygol os bydd angen rhagor o wybodaeth arno cyn gallu gwneud penderfyniad, neu os yw’n ansicr ynghylch unrhyw fanylion.

Gall y sawl sy’n gwneud y penderfyniad gymeradwyo'ch hawliad heb archwiliad meddygol os yw’n hapus â'r wybodaeth sydd ganddo.

Rheolau arbennig – os oes gennych salwch angheuol

Os oes gennych glefyd sy’n gwaethygu’n raddol ac na ddisgwylir yn rhesymol i chi fyw'n hwy na chwe mis arall, ceir rheolau arbennig. Bydd y rhain yn eich helpu i gael eich budd-dal yn gyflym ac yn rhwydd. Mae'n annhebygol iawn y gofynnir i chi gael archwiliad meddygol.

Archwiliadau meddygol pan fyddwch eisoes yn cael y Lwfans Byw i'r Anabl

Cael y swm cywir o fudd-dal – 'Rhaglen Taliad Cywir'

Os ydych chi eisoes yn cael Lwfans Byw i'r Anabl, mae'n bosib y gofynnir i chi gael archwiliad meddygol fel rhan o'r Rhaglen Taliad Cywir.

Dan y Rhaglen Taliad Cywir, gellir adolygu unrhyw ddyfarniad Lwfans Byw i'r Anabl er mwyn sicrhau bod rhywun yn cael y swm cywir o fudd-dal.

Dim ond os bydd yr adolygiad yn dangos newid yn eich hawl cyfredol y newidir eich dyfarniad cyfredol ar gyfer budd-daliadau. Os bydd hyn yn digwydd, caiff eich dyfarniad ei addasu'n briodol, felly gall y swm a gewch fod yn fwy neu'n llai. Os nad oes unrhyw newidiadau sylweddol, bydd eich dyfarniad yn aros yr un fath ag o'r blaen.

Ceisiadau i adnewyddu ac adolygu

Os dyfarnwyd fudd-dal i chi am gyfnod penodol, bydd rhaid i chi wneud cais arall i adnewyddu eich budd-dal ychydig cyn i'ch hawl ddod i ben. Gelwir hyn yn ‘gais i adnewyddu’. Ymdrinnir â cheisiadau i adnewyddu yn yr un modd yn union â hawliadau newydd, felly, mae'n bosib y gofynnir i chi gael archwiliad meddygol.

Os mai am gyfnod amhenodol y dyfarnwyd y budd-dal i chi, gan amlaf, ni fydd yn rhaid i chi wneud cais i adnewyddu. Weithiau, gellir adolygu dyfarniadau amhenodol, ac efallai y bydd rhaid i chi gael archwiliad meddygol arall fel rhan o'r adolygiad.

Eich hawliau mewn archwiliad meddygol

Fel arfer, cynhelir yr archwiliad meddygol yn eich cartref eich hun (neu yn lle bynnag rydych chi'n byw), neu mewn Canolfan Archwiliad Meddygol yn agos i lle rydych chi’n byw. Fe ddylech gael saith niwrnod o rybudd cyn yr archwiliad, ond fe allech ofyn am apwyntiad cyn hynny petai'n well gennych.

Os byddwch yn colli eich apwyntiad cyntaf ar gyfer archwiliad, cewch gynnig ail apwyntiad. Os collwch chi ddau apwyntiad, neu os gwrthodwch gael archwiliad meddygol, mae'n bosib y gwrthodir eich cais am fudd-dal.

Mae gennych yr hawl i'r canlynol:

  • i gael ffrind, perthynas neu weithiwr cefnogi gyda chi yn yr archwiliad meddygol
  • i ofyn am gyfieithydd os oes angen un arnoch
  • i ofyn am gael archwiliad gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol o'r un rhyw â chi

Rhaid i chi roi gwybod i'r Gwasanaethau Meddygol ymlaen llaw os ydych chi'n dymuno cael cyfieithydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol o'r un rhyw â chi. Byddant yn gwneud eu gorau i ddod o hyd i un i chi, ond ni fydd hyn bob tro'n bosib mewn rhai ardaloedd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU