Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Archwiliad meddygol ar gyfer Lwfans Byw i'r Anabl – beth mae'n ei olygu

Diben eich archwiliad meddygol ar gyfer Lwfans Byw i’r Anabl yw rhoi darlun cyffredinol o sut mae’ch salwch neu’ch anabledd yn effeithio arnoch dros gyfnod o amser. Nid yw’n rhoi ciplun o’ch iechyd ar ddiwrnod eich apwyntiad.

Beth mae’r archwiliad meddygol yn ei olygu

Hawlio Lwfans Gweini yn barod ac am roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau – cael gwybod mwy

Mae'n bwysig dweud wrth y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os yw eich cyflwr yn newid o dro i dro ac ai diwrnod da ynteu ddiwrnod gwael yw'r diwrnod hwnnw.

Cyn eich archwiliad meddygol, mae'n beth da meddwl sut mae eich salwch neu'ch anabledd yn effeithio ar eich bywyd bob dydd. Efallai yr hoffech feddwl am y pethau hyn:

  • faint o help y mae ei angen arnoch yn ystod y dydd ac yn ystod y nos
  • pa broblemau y byddwch chi'n eu hwynebu wrth symud o gwmpas
  • os ydych chi’n gallu gwneud mwy ar rai diwrnodau nag ar ddiwrnodau eraill, sut y byddech chi'n disgrifio'ch diwrnod arferol

Pa bethau y bydd angen i chi fynd gyda chi

Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn am gael gweld rhai dogfennau sy’n dangos pwy ydych chi cyn dechrau'r archwiliad, er mwyn cadarnhau mai chi yw'r person y mae fod i ymweld ag ef.

Bydd eich pasbort, os oes gennych un, yn ddogfen ddigonol ar ei phen ei hun. Neu fe ofynnir i chi ddangos tair dogfen a all gynnwys eich tystysgrif geni, trwydded yrru lawn, eich polisi aswiriant bywyd a datganiadau banc.

Yn ystod eich archwiliad meddygol, mae'n bosib y cewch chi brawf golwg neu brawf clyw, os yw hyn yn berthnasol i'ch anabledd. Mae'n bosib y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am eich gweld yn defnyddio unrhyw gymhorthion y byddech chi fel arfer yn eu defnyddio.

Beth fydd yn digwydd yn yr archwiliad meddygol

Faint o amser fydd yr archwiliad yn ei gymryd?

I roi syniad bras i chi, fe ddylech ganiatáu oddeutu awr ar gyfer eich archwiliad. Weithiau, gellir cwblhau archwiliadau meddygol mewn llai o amser o lawer, yn enwedig os mai dim ond ar un mater penodol y mae’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn edrych arno.

Y cyfweliad

Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn eich holi am y math o help sydd ei angen arnoch ac am unrhyw broblemau a gewch chi wrth symud o gwmpas. Mae'n bwysig rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch chi i'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Os bydd rhywun arall yn dod i'r archwiliad meddygol gyda chi i fod yn gefn i chi, mae'n bosib y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn am eich caniatâd i holi'r person hwnnw ar wahân. Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ysgrifennu datganiad i gofnodi'r hyn a ddywedoch yn y cyfweliad. Bydd yr wybodaeth hon yn rhoi darlun cliriach o'ch anghenion i'r sawl sy’n gwneud y penderfyniad.

Yr archwiliad corfforol

Mae'n bosib y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn penderfynu y byddai archwiliad corfforol yn ddefnyddiol. Dylai bob amser esbonio beth fydd hyn yn ei olygu yn gyntaf a gwneud yn siŵr eich bod yn fodlon i'r archwiliad fynd yn ei flaen. Mae'n bwysig dweud wrth y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os byddwch chi'n teimlo unrhyw boen, neu’n teimlo’n annifyr. Ni fydd yn gofyn i chi wneud dim byd sy'n peri poen neu annifyrrwch i chi.

Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol hefyd yn ysgrifennu adroddiad am yr archwiliad ac yn ei ddychwelyd at y sawl sy'n gwneud y penderfyniad. Fel arfer, ysgrifennir yr adroddiad hwn ar ôl yr archwiliad, ac ni fyddwch yn ei weld cyn iddo gael ei gyflwyno i'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad.

Adroddiad y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol

Cewch ofyn am gopi o adroddiad y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gan y swyddfa sy'n delio â'ch hawliad. Byddan nhw'n ei anfon atoch drwy’r post.

Allweddumynediad llywodraeth y DU