Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Archwiliad meddygol ar gyfer Lwfans Byw i'r Anabl – beth sy'n digwydd nesaf

Bydd y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn gwneud penderfyniad ynghylch eich budd-dal, gan ystyried adroddiad y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Cewch wybod am y penderfyniad ar ôl iddo gael ei wneud. Os byddwch yn anghytuno â’r penderfyniad, gallwch ofyn i rywun arall edrych arno eto.

Gwneud penderfyniad

Hawlio Lwfans Byw i’r Anabl yn barod ac am roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau – cael gwybod mwy

Bydd y Gwasanaethau Meddygol yn anfon yr adroddiad at yr unigolyn yn y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr sy'n gyfrifol am wneud penderfyniad ynghylch eich hawliad. Mae’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Bydd y sawl sy’n gwneud y penderfyniad yn ystyried yr adroddiad ynghyd â’r holl wybodaeth arall a ddarparwyd ar gyfer eich hawliad. Bydd yn penderfynu a fydd yn cymeradwyo eich hawliad ai peidio, a pha lefel o Lwfans Byw i’r Anabl y gallech ei chael.

Cewch lythyr yn nodi ei benderfyniad.

Cyfrinachedd

Bydd yr holl wybodaeth feddygol sy’n ymwneud â’ch hawliad, gan gynnwys adroddiad y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ar yr archwiliad meddygol, yn gyfrinachol. Ni fydd yn cael ei datgelu i neb y tu allan i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Weithiau, mae'n bosib y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am anfon rhywfaint o wybodaeth am eich archwiliad meddygol at eich meddyg teulu lleol. Dan yr amgylchiadau hynny, bydd y Gwasanaethau Meddygol yn ysgrifennu atoch a gofyn a ydych chi'n fodlon iddynt roi'r wybodaeth i'ch meddyg.

Ni fyddant yn rhoi’r wybodaeth i’ch meddyg os nad ydych am iddynt wneud hynny.

Pryd gewch chi wybod am y penderfyniad ynghylch eich budd-dal

Fel arfer, bydd angen oddeutu 40 diwrnod gwaith i brosesu hawliad am Lwfans Byw i'r Anabl, o'r diwrnod y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau'n derbyn eich ffurflen hawlio. Gallwch ddilyn hynt eich hawliad drwy gysylltu â’r Llinell Gymorth Anabledd.

Ffôn: 08457 123 456

Ffôn testun: 08457 224 433

Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 7.30am a 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

E-bost: dcpu.customer-services@dwp.gsi.gov.uk

Os ydych yn anhapus â'ch archwiliad meddygol

Os ydych chi’n anhapus â’r gwasanaeth a ddarparwyd gan Atos Healthcare, rhowch wybod iddynt cyn gynted â phosib. Siaradwch â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu ag aelod o staff Atos Healthcare. Byddant yn ceisio datrys eich anfodlonrwydd. Gallwch chi hefyd ofyn am daflen ynglŷn â gofal cwsmeriaid sy’n egluro trefn gwyno Atos Healthcare a sut mae gwneud cwyn.

Gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Anabledd i gael cyngor am sut i gwyno wrth y Gwasanaethau Meddygol.

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad ynghylch y budd-dal

Os ydych chi'n meddwl y gwnaed y penderfyniad anghywir am eich hawliad am fudd-dal, neu os ydych chi'n anghytuno â lefel y budd-dal a ddyfarnwyd i chi, gallwch wneud y canlynol:

  • gofyn i'r swyddfa a wnaeth y penderfyniad ei esbonio
  • gofyn am gael rhywun arall i ailystyried y penderfyniad

apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys annibynnol

Adroddiad y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol

Cewch ofyn am gopi o adroddiad y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol unrhyw bryd.

Os byddwch chi'n apelio yn erbyn y penderfyniad am eich budd-dal, byddwch yn gallu gweld adroddiad y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol fel rhan o'r broses apelio.

Archwiliadau meddygol pellach

Byddwch yn cael dyfarniad Lwfans Byw i’r Anabl naill ai am gyfnod penodol neu amhenodol. Bydd y sawl sy’n gwneud y penderfyniad yn pennu cyfnod eich dyfarniad gan ystyried ai anabledd neu salwch parhaol sydd gennych ynteu a fydd eich anghenion o bosib yn newid.

Os am gyfnod penodol y dyfarnwyd eich lwfans, fe'ch gwahoddir i wneud hawliad newydd cyn i'r dyfarniad ddod i ben. Gelwir hyn yn ‘gais i adnewyddu’. Prosesir ceisiadau i adnewyddu yn yr un modd yn union â hawliadau newydd, felly, mae'n bosib y gofynnir i chi gael archwiliad meddygol eto.

Os mai am gyfnod amhenodol y dyfarnwyd y budd-dal i chi, gan amlaf, ni fydd yn rhaid i chi wneud cais i adnewyddu. Weithiau, gellir adolygu dyfarniadau amhenodol, ac efallai y bydd rhaid i chi gael archwiliad meddygol arall fel rhan o'r adolygiad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU