Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Byw i'r Anabl – cyfraddau a sut i’w hawlio

Telir Lwfans Byw i'r Anabl ar wahanol gyfraddau, gan ddibynnu ar sut mae'r anabledd yn effeithio arnoch chi. Gallwch gael pecyn cais mewn sawl ffordd. Gallwch hefyd hawlio ar-lein.

Cyfraddau

Mae dwy ran i Lwfans Byw i'r Anabl – yr elfen ofal a'r elfen symudedd. Efallai mai dim ond un elfen a gewch neu’r ddwy.


Elfen Ofal

Cyfradd wythnosol

Cyfradd uwch

£77.45

Cyfradd canol

£51.85

Cyfradd is

£20.55


Elfen Symudedd

Cyfradd wythnosol

Cyfradd uwch

£54.05

Cyfradd is

£20.55

Bydd eich amgylchiadau unigol yn effeithio ar faint a gewch. Mae'r pecyn cais yn rhoi rhai enghreifftiau o wahanol lefelau o anghenion gofal a symudedd.

Sut i hawlio

Canfod a allwch gael Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer oedolion

Gwnewch gais ar unwaith – os byddwch yn oedi, gallech golli arian.

Gallwch hawlio ar-lein neu gael pecyn cais drwy:

  • ffonio'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau
  • lawrlwytho'r ffurflen gais oddi ar y dudalen hon

Ceir dwy ffurflen (DLA1AW). Un ffurflen os ydych yn hawlio ar gyfer rhywun sy’n 16 oed neu’n hŷn, a ffurflen arall os ydych yn hawlio ar gyfer rhywun sy’n iau nag 16 oed.

Ym mis Ebrill 2007, cyflwynwyd ffurflen newydd ar gyfer hawlio Lwfans Byw i'r Anabl (oedolion). Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu'r fersiwn ar-lein, a bydd ar gael cyn gynted â phosibl.

Yn y cyfamser, mae'n dal yn bosib i chi hawlio ar-lein neu gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais newydd oddi ar y dudalen hon.

Hawlio ar-lein

I wneud cais am Lwfans Byw i'r Anabl ar-lein, dilynwch y ddolen isod a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrîn.

Ffonio'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau

Gwasanaeth rhadffôn cyfrinachol yw hwn i bobl anabl a gofalwyr. Gallwch ffonio'r Llinell Ymholiadau a gofyn iddynt anfon pecyn cais atoch. Gallant anfon y pecyn cais atoch mewn fformat gwahanol os oes angen – er enghraifft, mewn Braille.

Gallant hefyd drefnu i rywun eich helpu i lenwi’r ffurflen os oes angen. Cofiwch efallai y bydd angen i’r person y byddwch yn siarad ag ef drefnu i rywun arall eich ffonio’n ôl.

Ffôn: 0800 88 22 00

Ffôn testun: 0800 24 33 55

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth Cyfnewid Testun.

Mae'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar agor rhwng 8.30am a 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os byddwch yn gofyn am ffurflen gan y Llinell Ymholiadau Budd-daliadau, ystyrir mai dyddiad eich cais yw eich dyddiad hawlio, sef o’r dyddiad pan ellir talu Lwfans Byw i'r Anabl, ar yr amod bod y ffurflen a gewch yn cael ei dychwelyd o fewn chwe wythnos i'r dyddiad hwnnw. Os byddwch yn oedi wrth hawlio, efallai y byddwch yn colli arian.

Ni fydd gan y sawl a fydd yn ateb eich galwad eich manylion personol, ond bydd yn gallu rhoi cyngor cyffredinol i chi. Ni ddylid cymryd y cyngor hwn fel penderfyniad am eich cais.

Lawrlwytho ffurflen gais oddi ar y we i'w hargraffu gartref

Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen gais oddi ar y we i'w hargraffu a'i llenwi â beiro. Mae nodiadau'n dod gyda phob ffurflen a fydd yn eich helpu i'w llenwi ac yn dweud wrthych at bwy i'w hanfon. Yn y naill achos neu'r llall, dyddiad y cais fydd y dyddiad pan fydd y ffurflen yn cyrraedd eich swyddfa leol.

Lawrlwytho ffurflen gais i'w llenwi ar eich cyfrifiadur

Gallwch lenwi ffurflen gais ar eich cyfrifiadur. Rydym yn argymell i chi gadw'r ffurflen ar eich cyfrifiadur cyn ei llenwi: y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw de-glicio'r llygoden ar y ddolen isod a dewis yr opsiwn 'Save Target As'. Allwch chi ddim cadw'r ffurflen ar ôl i chi ei hagor mewn porwr rhyngrwyd.

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, gallwch ei hargraffu a'i llofnodi. Sylwch nad yw'r ffurflenni ar-y-sgrîn yn berthnasol i Ogledd Iwerddon.

Problemau technegol gyda ffurflen gais

Os byddwch yn cael problemau technegol, er enghraifft, wrth lwytho'r ffurflen, wrth symud o gwmpas y ffurflen neu wrth argraffu copi caled – cysylltwch â'r ddesg gymorth eWasanaethau:

Ffôn: 0845 601 80 40

Ffôn testun: 0845 601 80 39

E-bost: eservicehelpdesk@dwp.gsi.gov.uk

Mae'r ddesg gymorth eWasanaethau ar agor rhwng 8.00 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Codir y gyfradd leol am bob galwad.

Unwaith i chi wneud eich cais

Mae’n bwysig rhoi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau

Ar ôl i chi wneud eich cais, gallwch gael cyngor am Lwfans Byw i'r Anabl gan linell gymorth Lwfans Byw i'r Anabl, a ddylai allu cael gafael ar eich cofnodion.


Ffôn: 08457 123 456

Ffôn testun: 08457 22 44 33

Mae'r llinellau ar agor rhwng 7.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.


E-bost:

dcpu.customer-services@dwp.gsi.gov.uk


Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth Cyfnewid Testun.
Fel arfer, bydd yn cymryd oddeutu 40 diwrnod gwaith i ddelio â chais newydd, oni wneir y cais o dan y rheolau arbennig. Os felly, bydd yn cael sylw'n gyflymach o lawer.

Yr effaith ar fudd-daliadau a hawliadau eraill

Os bydd eich cais am Lwfans Byw i'r Anabl yn llwyddiannus, efallai y bydd rhagor o arian yn cael ei dalu gyda'r canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant

Os oes rhywun yn cael Lwfans Gofalwr am ddarparu gofal i chi, efallai na fyddwch yn cael swm ychwanegol am anabledd difrifol gydag unrhyw un o’r budd-daliadau a'r credydau hyn.

Am ragor o wybodaeth, dylech gysylltu â'r swyddfa sy'n delio â'ch cais am y budd-dal neu'r credyd dan sylw, neu gysylltu â'r Llinell Gymorth Lwfans Byw i'r Anabl.

Gellir cael y wybodaeth hon, a chyngor am Lwfans Gofalwr, mewn taflenni y gellir eu lawrlwytho oddi ar y we drwy'r ddolen isod. Gallwch eu hargraffu a'i rhoi i'ch gofalwr, os oes gennych chi ofalwr.

Os ydych yn teimlo y gwnaed y penderfyniad anghywir am eich cais

Os byddwch chi'n meddwl y gwnaed y penderfyniad anghywir am eich cais am fudd-dal, gofynnwch i'r swyddfa a wnaeth y penderfyniad esbonio’r penderfyniad. Gallwch hefyd ofyn am iddynt ailystyried y penderfyniad. Os ydych chi’n dal yn anfodlon, gan amlaf gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad.

Os ydych chi’n anfodlon â'r gwasanaeth

Os oes gennych unrhyw sylwadau am y modd y deliwyd â’ch cais am fudd-dal neu'r gwasanaeth a gawsoch, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr.

Allweddumynediad llywodraeth y DU