Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rydych chi wedi colli’ch swydd – ydy eich Credyd Treth Gwaith yn cael ei effeithio?

Os ydych chi wedi bod yn cael Credyd Treth Gwaith a’ch bod wedi colli’ch swydd, mae’n bosib na fydd eich taliadau’n dod i ben ar unwaith. Fel arfer, bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth os ydych wedi colli’ch swydd – fel arall, mae’n bosib y cewch gormod o gredydau treth.

Beth mae ‘colli swydd’ yn ei olygu?

Mae colli’ch swydd yn golygu na fydd eich cyflogwr yn rhoi gwaith i chi. Mae’n bosib y bydd hyn dros dro neu am byth, ac weithiau, ni fydd eich cyflogwr yn gallu rhoi gwybod i chi am faint fyddwch chi heb waith.

Os yw eich oriau wedi’u lleihau ond eich bod yn gweithio o hyd, nid ydych wedi colli’ch swydd.

Os bydd eich cyflogwr yn terfynu'ch cyflogaeth dros dro ac yn dweud mai dros dro ydyw

Cewch eich trin fel eich bod yn gweithio o hyd am hyd at bedair wythnos o’r dyddiad y byddwch yn colli’ch swydd. Os na fyddwch yn mynd yn ôl i’r gwaith ar ôl hynny cewch eich trin fel eich bod yn ddi-waith. Er enghraifft, os ydych wedi colli’ch swydd tan yr hysbysir chi’n wahanol neu os ydych wedi colli’ch swydd yn llwyr. Os yw hyn yn digwydd, bydd gennych chi fis i roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth o’r dyddiad y cawsoch wybod y newyddion.

Gallwch gysylltu â’r Swyddfa Credyd Treth drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Enghraifft 1

Colla John Smith ei swydd am bedair wythnos ar 8 Ionawr. Mae ei gyflogwr yn dweud wrtho y gallai ddisgwyl mynd yn ôl i’r gwaith ar 5 Chwefror. Mae John yn ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth i roi gwybod am hyn. Mae hefyd yn dweud pryd y mae’n disgwyl cael mynd yn ôl i’r gwaith.

Ar 5 Chwefror, mae’n mynd i’r gwaith. Ond, nid yw ei gyflogwr yn gwybod a fydd John yn gallu mynd yn ôl i’r gwaith o gwbl. Mae John yn ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth i ddweud ei fod nawr wedi colli’i swydd am gyfnod amhenodol. Bydd yn cael Credyd Treth Gwaith hyd at 5 Mawrth.

Os byddwch yn colli’ch swydd tan yr hysbysir chi’n wahanol neu os byddwch yn colli’ch swydd yn llwyr

Yn ystod y pedair wythnos gyntaf i chi golli’ch swydd, efallai y bydd eich cyflogwr yn dweud wrthych:

  • eich bod wedi colli’ch swydd tan yr hysbysir chi’n wahanol
  • eich bod wedi colli’ch swydd yn llwyr

Os yw'r naill sefyllfa neu'r llall yn digwydd, cewch eich trin fel eich bod yn ddi-waith o’r dydd y bydd eich cyflogwr yn rhoi gwybod i chi. Cewch gredydau treth am bedair wythnos ar ôl y dyddiad hwnnw.

Bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth eich bod wedi colli’ch swydd tan yr hysbysir chi’n wahanol neu eich bod wedi colli’ch swydd yn llwyr. Bydd angen i chi wneud hyn o fewn mis i’r dydd y bydd eich cyflogwr yn rhoi gwybod i chi. Gallwch gysylltu â’r Swyddfa Credyd Treth drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Enghraifft 2

Colla Anne Jones ei swydd ar 8 Ionawr. Mae ei chyflogwr yn dweud wrthi y gallai ddisgwyl mynd yn ôl i’r gwaith ar 1 Chwefror. Mae Anne yn ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth i ddweud ei bod wedi colli ei swydd dros dro.

Ar 26 Ionawr, mae ei chyflogwr yn dweud wrthi nad yw'n gwybod a fydd hi'n gallu mynd yn ôl i'r gwaith o gwbl. Mae Anne yn ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth i ddweud ei bod nawr wedi colli’i swydd am gyfnod amhenodol. Caiff Anne ei thrin fel ei bod yn ddi-waith. Bydd hi’n cael Credyd Treth Gwaith hyd at 23 Chwefror (pedair wythnos ar ôl 26 Ionawr).

Enghraifft 3

Ar 8 Ionawr, caiff Anita Roberts wybod ei bod yn colli’i swydd am gyfnod amhenodol. Nid yw ei chyflogwr yn gwybod a fydd hi’n gallu mynd yn ôl i’r gwaith o gwbl. Mae Anita’n ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth i ddweud ei bod wedi colli’i swydd am gyfnod amhenodol. Bydd Anita yn cael Credyd Treth Gwaith hyd at 5 Chwefror.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU