Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Newidiadau i'ch oriau gwaith a chredydau treth

Rhaid i chi weithio nifer ofynnol o oriau yr wythnos i gael Credyd Treth Gwaith. Os bydd eich oriau gwaith arferol yn newid, dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith. Gallech ddechrau cael Credyd Treth Gwaith, neu efallai y bydd eich taliadau presennol yn newid.

Nifer yr oriau gwaith arferol

Nid oes gennych blant

Os nad ydych yn gyfrifol am blant, mae angen i chi weithio'r oriau canlynol er mwyn cael Credyd Treth Gwaith:

  • os ydych yn 25 oed neu’n hŷn, mae angen i chi wneud gwaith â thâl am o leiaf 30 awr yr wythnos
  • os oes gennych anabledd a'ch bod yn 16 oed neu'n hŷn, mae angen i chi wneud gwaith â thâl am o leiaf 16 awr yr wythnos
  • os ydych yn 60 neu’n hŷn, mae angen i chi wneud gwaith â thâl am o leiaf 16 awr yr wythnos

Os oes gennych blant

Os ydych yn gyfrifol am blant, mae angen i chi fod yn 16 oed o leiaf a gweithio'r oriau canlynol er mwyn cael Credyd Treth Gwaith:

  • os ydych yn sengl, mae angen i chi wneud gwaith â thâl am o leiaf 16 awr yr wythnos
  • os ydych yn rhan o gwpwl, mae angen i'ch oriau gwaith â thâl ar y cyd fod o leiaf 24 awr yr wythnos, gydag un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythno

Felly, os ydych yn rhan o gwpwl ac mai dim ond un ohonoch sy'n gweithio, bydd angen i'r unigolyn hwnnw weithio o leiaf 24 awr yr wythnos.

Os yw eich oriau gwaith ar y cyd yn llai na 24 awr yr wythnos, gallwch gael Credyd Treth Gwaith o hyd os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • mae un ohonoch yn 60 oed neu'n hŷn ac yn gweithio o leiaf 60 awr yr wythnos
  • mae un ohonoch yn anabl ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • mae un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos ac mae gan yr unigolyn arall hawl i gael Lwfans Gofalwr - hyd yn oed os nad yw'n cael unrhyw daliadau am ei fod yn cael budd-daliadau eraill yn lle hynny
  • mae un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, ac mae’r llall yn 'analluog', yn glaf mewnol mewn ysbyty, neu yn y carchar (yn bwrw dedfryd o garchar neu wedi'i gadw yn y ddalfa tra'n aros am dreial neu ddedfryd)

Os ydych bellach yn gweithio llai o oriau

Os ydych yn gweithio llai o oriau dros dro, fel arfer gallwch barhau i gael eich taliadau credydau treth arferol am bedair wythnos. Bydd hyn yn dechrau o'r dyddiad y lleihawyd eich oriau. Gall hyn ddigwydd cyn belled â'ch bod yn disgwyl i'ch oriau ddychwelyd i'r oriau arferol ar ôl pedair wythnos.

Os yw eich oriau wedi'u lleihau hyd nes y cewch rybudd pellach neu'n barhaol, gallwch barhau i gael yr un taliadau credydau treth am bedair wythnos. Bydd hyn yn dechrau o'r dyddiad y caiff eich oriau eu lleihau. Gall hyn ddigwydd cyn belled â'ch bod yn parhau i fodloni'r amodau cymhwyso eraill ar gyfer Credyd Treth Gwaith.

Ar ôl pedair wythnos, efallai y bydd eich credydau treth yn:

  • dod i ben os na fyddwch yn gymwys mwyach
  • lleihau os byddwch yn gymwys o hyd i gael rhai taliadau

Beth sydd angen i chi ei wneud

Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth o fewn mis os byddwch yn gweithio llai na'r nifer ofynnol o oriau gwaith â thâl ar gyfer eich amgylchiadau. I ganfod yr oriau gwaith gofynnol, gweler 'Nifer yr oriau gwaith arferol' ar frig y dudalen hon.

Bydd angen i chi hefyd gysylltu o fewn mis os bydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn digwydd:

  • roeddech chi neu'ch partner yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos ac rydych bellach yn gweithio llai na 30 awr yr wythnos
  • rydych yn rhan o gwpwl â phlant, ac mae eich oriau gwaith ar y cyd bellach yn llai na 30 awr yr wythnos

Gallwch roi gwybod am unrhyw un o'r newidiadau hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Os nad ydych yn gweithio mwyach

Os byddwch yn rhoi'r gorau i weithio'n gyfan gwbl, dim ond am bedair wythnos arall o ddyddiad y newid y caiff Credyd Treth Gwaith ei dalu i chi.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth o fewn mis:

  • os byddwch yn rhoi'r gorau i weithio yn gyfan gwbl naill ai fel cyflogai neu fel unigolyn hunangyflogedig
  • os nad ydych yn gweithio mwyach a'ch bod yn disgwyl y bydd bwlch o bedair wythnos neu fwy cyn y byddwch yn dechrau swydd arall

Rhaid i chi roi gwybod am y newidiadau hyn o fewn mis, neu efallai y telir gormod o arian (gordaliad) i chi y gallech orfod ei dalu'n ôl. Hefyd, efallai y codir cosb o hyd at £300 arnoch.

Gallwch roi gwybod am y newidiadau drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Os ydych bellach yn gweithio mwy o oriau

Efallai y cewch fwy o arian os bydd eich oriau wedi'u cynyddu. Dim ond hyd at fis y gellir ôl-ddyddio unrhyw gynnydd yn eich taliadau felly sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod am y newid ar unwaith.

Os bydd eich incwm wedi cynyddu, efallai na fydd yn effeithio ar eich credydau treth cyfredol. Ond bydd yn effeithio ar faint y dylech gael eich talu ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith:

  • os ydych yn gyfrifol am blant, ac roeddech yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos, ond eich bod bellach yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos
  • os oeddech yn gweithio llai na 30 awr yr wythnos a'ch bod bellach yn gweithio 30 awr neu fwy yr wythnos
  • os ydych yn rhan o gwpwl â phlant a bod eich oriau gwaith ar y cyd bellach yn 30 awr neu fwy yr wythnos - gydag un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • os ydych yn rhan o gwpwl â phlant, a bod eich oriau gwaith ar y cyd bellach yn 24 awr neu fwy yr wythnos - gydag un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos

Mae'n well dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am y newidiadau hyn o fewn mis. Y rheswm dros hyn yw os yw'r newid yn debygol o gynyddu eich taliadau credydau treth, dim ond hyd at fis y gellir ôl-ddyddio'r cynnydd.

Hefyd, dylech ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith os bydd eich cynnydd mewn oriau yn golygu bod eich incwm yn debygol o godi.

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Os byddwch yn dechrau gweithio

Efallai nad ydych yn gweithio, ond eich bod eisoes yn cael credydau treth, efallai am fod eich partner yn gweithio, neu am fod gennych blant. Os byddwch yn dechrau gweithio - naill ai fel cyflogai neu'n hunangyflogedig - dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth o fewn mis. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth. Nid yw'n gwneud gwahaniaeth faint o oriau rydych yn eu gweithio, bydd angen i chi roi gwybod am y newid o hyd.

Os ydych wedi dechrau gweithio i gyflogwr, rhowch gyfeiriad llawn swyddfa dalu eich cyflogwr yn ogystal â'r cyfeirnod treth TWE pan fyddwch yn cysylltu â’r llinell gymorth. Dylai'r cyfeirnod TWE fod ar eich slip cyflog diweddaraf, neu gofynnwch i'ch cyflogwr os nad ydych yn siŵr.

Efallai na fydd eich enillion yn gwneud gwahaniaeth i'r credydau treth rydych yn eu cael ar hyn o bryd. Ond byddant yn effeithio ar yr hyn y mae gennych yr hawl i'w gael ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU