Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Mynd dramor dros dro a hawlio credydau treth

Er mwyn hawlio credydau treth, mae angen i chi fyw yn y DU fel arfer. Fodd bynnag, gallech fod yn gymwys o hyd os byddwch yn mynd dramor dros dro, er enghraifft ar wyliau neu ar gyfer triniaeth feddygol. Os ydych yn disgwyl mynd dramor am fwy nag 8 neu 12 wythnos, gallai hyn effeithio ar eich hawl i gael credydau treth.

Mynd dramor am hyd at 8 neu 12 wythnos

Ar yr amod nad ydych yn disgwyl bod dramor am fwy na 52 wythnos o'r adeg y byddwch yn gadael, byddwch yn cadw eich credydau treth am:

  • hyd at 12 wythnos os byddwch yn mynd dramor er mwyn i chi, eich partner neu'ch plentyn gael triniaeth feddygol
  • hyd at 12 wythnos os byddwch yn mynd dramor am fod eich partner, eich plentyn neu berthynas agos i chi neu'ch partner wedi marw
  • hyd at 8 wythnos os byddwch yn gadael y wlad am unrhyw reswm arall, fel gwyliau neu daith fusnes

Os byddwch yn aros dramor am fwy nag 8 neu 12 wythnos, bydd eich credydau treth fel arfer yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 8 neu 12 wythnos. Os byddwch yn dychwelyd o fewn y cyfnod o 8 neu 12 wythnos, bydd eich credydau treth fel arfer yn parhau fel ag o'r blaen.

Os bydd angen i chi aros dramor am fwy nag 8 neu 12 wythnos, rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth o fewn mis. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â'r Llinell Gymorth Credyd Treth. Gallech fod yn gymwys i gael credydau treth o hyd os byddwch yn cadw cysylltiadau â'r DU. Er enghraifft:

  • rydych yn cael budd-daliadau penodol neu Bensiwn y Wladwriaeth y DU ac rydych yn byw mewn gwlad Ewropeaidd arall gyda phlentyn
  • rydych yn gweithio ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU, ond mae eich teulu'n byw mewn gwlad Ewropeaidd arall

Mynd dramor am hyd at flwyddyn

Rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth o fewn mis os byddwch yn mynd dramor am gyfnodau o hyd at flwyddyn. Os na fyddwch yn gwneud hynny, efallai y telir gormod o arian (gordaliad) i chi y gallech orfod ei dalu'n ôl. Hefyd, efallai y codir cosb o hyd at £300 arnoch.

Gallwch roi gwybod am newidiadau drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Sut bydd yr absenoldeb yn effeithio ar eich credydau treth - yr 8 neu 12 wythnos gyntaf

Efallai y cewch eich trin fel petaech yn y DU o hyd am yr 8 neu 12 wythnos gyntaf y byddwch dramor. Mae hyn yn dibynnu ar y rheswm rydych yn mynd dramor, fel y nodir yn yr adran gyntaf un uchod. Ond rhaid nad ydych yn disgwyl bod dramor am fwy na 52 wythnos ar yr adeg y byddwch yn gadael.

Os ydych wedi gwneud cais ar y cyd, bydd eich taliadau'n parhau am y cyfnod hwnnw o amser fel arfer.

Ar ôl yr 8 neu 12 wythnos gyntaf - yr effaith ar gredydau treth

Bydd eich hawliad credydau treth yn dod i ben fel arfer, ond gallech fod yn gymwys i gael credydau treth o hyd os byddwch yn cadw cysylltiadau â'r DU. Er enghraifft:

  • rydych yn cael budd-daliadau penodol neu Bensiwn y Wladwriaeth y DU ac rydych yn byw mewn gwlad Ewropeaidd arall gyda phlentyn
  • rydych yn gweithio ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU, ond mae eich teulu'n byw mewn gwlad Ewropeaidd arall

Mynd dramor am flwyddyn neu fwy - neu'n barhaol

Os ydych yn disgwyl mynd dramor am flwyddyn neu fwy, neu'n barhaol, rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth cyn i chi adael. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Ni fyddwch fel arfer yn parhau i fod yn gymwys i gael credydau treth o'r dyddiad y byddwch yn gadael y DU, oni bai bod gennych gysylltiadau â'r DU o hyd. Er enghraifft:

  • rydych yn cael budd-daliadau penodol neu Bensiwn y Wladwriaeth y DU ac rydych yn byw mewn gwlad Ewropeaidd arall gyda phlentyn
  • rydych yn gweithio ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU, ond mae eich teulu'n byw mewn gwlad Ewropeaidd arall

Gweision y Goron a gaiff eu hanfon dramor

Pan fyddwch yn gweithio i lywodraeth y DU, er enghraifft, fel gwas sifil neu aelod o'r lluoedd arfog rydych yn un o weision y Goron. Os bydd rhaid i chi weithio dramor efallai y byddwch yn gallu hawlio credydau treth, fel petaech chi'n byw yn y DU.

Morwyr a gweithwyr ar y môr

Os ydych yn forwr neu'n weithiwr ar y môr, byddwch yn gallu parhau i hawlio credydau treth pan fyddwch y tu allan i'r DU. Ond rhaid i bob cyfnod y byddwch yn gweithio y tu allan i'r DU fod yn 8 wythnos neu lai. Cewch eich trin fel petaech yn y DU cyn belled â'ch bod o fewn dyfroedd tiriogaethol y DU - 12 milltir o'r marc distyll.

Os byddwch yn gweithio y tu allan i'r terfyn hwn, ni fydd yn effeithio ar eich credydau treth, oni bai eich bod oddi cartref am fwy nag 8 wythnos.

Enghraifft

Mae Ahmed yn gweithio ar gwch pysgota sydd bob amser y tu allan i ddyfroedd y DU. Mae'n gweithio am bedair wythnos, yna mae gartref am bedair wythnos, ac nid yw byth yn disgwyl bod i ffwrdd am fwy na 52 wythnos pan fydd y tu allan i ddyfroedd y DU. Gan fod y cyfnodau y mae'n gweithio y tu allan i'r DU yn llai nag 8 wythnos, gall barhau i hawlio credydau treth.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU