Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cosbau credydau treth

Efallai y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn rhoi cosb ariannol i chi os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir i'r Swyddfa, neu os na fyddwch yn dweud wrth y Swyddfa am newid yn eich amgylchiadau. Ond bydd yn cysylltu â chi i ddweud wrthych - ni fydd byth yn rhoi cosbau awtomatig.

Pam y gallech gael cosb ariannol

Gall y Swyddfa Credyd Treth roi cosb ariannol i chi am y rhesymau canlynol:

  • rydych wedi rhoi'r wybodaeth anghywir i'r Swyddfa - naill ai'n fwriadol neu drwy beidio â bod yn ddigon gofalus
  • nid ydych wedi dweud wrth y Swyddfa am newidiadau yn eich amgylchiadau pan ddylech fod wedi gwneud hynny
  • nid ydych wedi rhoi'r wybodaeth neu'r dystiolaeth y gofynnwyd amdani

Rhoi'r wybodaeth anghywir

Os byddwch wedi rhoi'r wybodaeth anghywir i'r Swyddfa Credyd Treth ac rydych wedi cael gormod o gredydau treth, gallech gael cosb ariannol o hyd at £3,000.
Gall y Swyddfa Credyd Treth roi cosb ariannol i chi os byddwch wedi rhoi gwybodaeth anghywir i'r Swyddfa:

  • yn fwriadol - gan roi gwybodaeth anghywir yn 'dwyllodrus'
  • am nad oeddech yn ddigon gofalus - gan roi gwybodaeth anghywir drwy 'esgeulustod'

Os byddwch yn sylweddoli eich bod wedi gwneud camgymeriad o ran y wybodaeth a roddwyd gennych, dylech roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith. Os ydych eisoes yn cael credydau treth, bydd yn defnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf a roddwch i gyfrifo a ddylech fod yn cael mwy neu lai. Os bydd gennych hawl i lai o gredydau treth, bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian na ddylech fod wedi'i gael.

Ni fydd y Swyddfa Credyd Treth yn rhoi cosb ariannol i chi os byddwch wedi cymryd gofal rhesymol, ond wedi gwneud camgymeriad o hyd ac wedi hawlio gormod o gredydau treth.

Peidio â dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am newidiadau

Mae'r credydau treth a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch incwm.

Rhaid i chi roi gwybod am rai newidiadau yn eich amgylchiadau o fewn mis - er enghraifft rhoi'r gorau i weithio neu os bydd eich plentyn yn gadael addysg llawn amser.

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar amser, y mae’n bosib y byddwch yn cael eich talu gormod o gredydau treth. Os yw hyn yn digwydd, gall y Swyddfa Credyd Treth roi cosb ariannol o hyd at £300 i chi.

Peidio â rhoi gwybodaeth neu dystiolaeth

Os bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn am wybodaeth neu dystiolaeth gennych rhaid i chi ei hanfon i'r Swyddfa. Efallai y bydd angen y wybodaeth er enghraifft i'w helpu i wneud gwiriad credydau treth (sef 'ymholiad' neu 'archwiliad').

Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth neu'r dystiolaeth, gall y Swyddfa Credyd Treth roi cosb ariannol o hyd at £300 i chi. Gall roi cosb ychwanegol o hyd at £60 y diwrnod i chi nes y byddwch yn ei rhoi.

Rhowch wybod i'r Swyddfa os bydd gennych reswm da dros beidio â rhoi'r wybodaeth hon. Er enghraifft, efallai bod eich dogfennau wedi cael eu dinistrio neu rydych wedi bod yn sâl.

Ceisiadau ar y cyd

Os ydych wedi gwneud cais ar y cyd â'ch partner, mae'r ddau ohonoch yn gyfrifol am y wybodaeth a roddwch. Gall y Swyddfa Credyd Treth roi cosb i chi fel pâr o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • gallai'r naill neu'r llall ohonoch fod wedi dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am newid yn eich amgylchiadau
  • roedd y ddau ohonoch yn gyfrifol am roi gwybodaeth anghywir

Os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir amdanoch chi eich hun ac ni allai eich partner fod wedi gwybod bod y wybodaeth yn anghywir, bydd y Swyddfa Credyd Treth ond yn rhoi'r gosb ariannol i chi.

Swm eich cosb ariannol

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn rhoi gwybod i chi os bydd o'r farn y dylech dalu cosb ariannol. Bydd yn dweud wrthych:

  • pam ei bod yn rhoi cosb i chi
  • uchafswm y gosb y gall ei chodi arnoch

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn ystyried lleihau uchafswm y gosb os bydd rheswm dros wneud hynny - gall siarad â chi ynglŷn â hyn.

Pan fydd y Swyddfa Credyd Treth yn cyfrifo faint y bydd yn lleihau uchafswm y gosb, bydd bob amser yn ystyried:

  • pa mor barod i helpu rydych wedi bod
  • a ydych wedi bod yn barod i roi'r wybodaeth sydd ei hangen ar y Swyddfa i gyfrifo faint o gredydau treth y dylech fod wedi'u cael
  • faint yn ormod o gredydau treth rydych wedi'u hawlio
  • a ydych wedi cael cosb ariannol o'r blaen

Sut i dalu eich cosb

Yn dibynnu ar eich sefyllfa, gallwch wneud un cyfandaliad, neu dalu mewn rhandaliadau. Unwaith y bydd y Swyddfa Credyd Treth wedi cytuno ar y trefniant, bydd yn gofyn i chi lofnodi llythyr sy'n nodi'r canlynol:

  • y cyfanswm y mae'n rhaid i chi ei dalu
  • y dyddiad terfynol erbyn pryd y mae'n rhaid i chi dalu'r arian, neu nifer y rhandaliadau a phryd y mae'n rhaid i chi eu gwneud


Bydd yn anfon llythyr terfynol atoch i dderbyn y trefniant. Mae'r llythyrau hyn yn gyfystyr â chontract. Os byddwch yn gwrthod talu, bydd yn cymryd camau cyfreithiol i gael yr arian sy'n ddyledus gennych.

Talu llog

Efallai y codir llog arnoch os bydd un o'r canlynol yn gymwys:

  • rydych wedi cael gormod o gredydau treth am eich bod wedi rhoi'r wybodaeth anghywir drwy 'esgeulustod' (nid oeddech yn ddigon gofalus)
  • rydych yn talu cosb ariannol yn hwyr

Os byddwch yn anghytuno â'r gosb ariannol

Cysylltwch â'r Swyddfa Credyd Treth os byddwch yn anghytuno â'r gosb ariannol rydych wedi'i chael. Os na fydd yn cytuno â chi, bydd yn anfon hysbysiad cosb atoch.

Yna gallwch apelio neu ofyn i gynrychiolydd apelio ar eich rhan. Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU