Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Credydau treth ar gyfer gweithwyr trawsffiniol

Os ydych chi'n teithio'n rheolaidd i neu o wlad arall i weithio, efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Treth Gwaith. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n teithio o Weriniaeth Iwerddon i weithio yn y DU. Neu efallai eich bod yn byw yn y DU ond yn teithio i Ffrainc i weithio. Os oes gennych chi blentyn, efallai y cewch chi Gredyd Treth Plant hefyd.

Allwch chi gael credydau treth?

Mae pu’nai a fyddwch yn gallu cael credydau treth ai peidio yn dibynnu ar y canlynol:

  • eich amgylchiadau, er enghraifft sawl awr ydych chi'n gweithio bob wythnos neu os oes gennych chi blant
  • faint o arian sydd gennych yn dod i mewn - eich incwm

Pa gredydau treth allwch chi eu cael?

Mae’n bosib y gallech gael Credyd Treth Gwaith os bydd y naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych chi’n byw mewn gwlad arall ac yn teithio i weithio yn y DU - sy'n golygu ei bod yn rhaid i chi wneud eich gwaith eich hun yn y DU, ac nid yw'n ddigon dim ond gweithio i gyflogwr sy'n seiliedig yn y DU
  • rydych chi’n byw yn y DU, ond yn teithio dramor i weithio – ond bydd angen i chi ddychwelyd i’r DU yn rheolaidd, er enghraifft yn ddyddiol neu’n wythnosol

Os ydych i ffwrdd yn y wlad arall am fwy nag wyth wythnos ar y tro, bydd eich Credyd Treth Gwaith yn dod i ben.

Ni fyddwch yn gallu cael Credyd Treth Gwaith os ydych chi’n gweithio yn y DU yn anghyfreithlon.

Os oes gennych bartner – ac rydych chi’n gymwys am Gredyd Treth Gwaith

Os ydych chi’ch dau yn byw mewn gwlad arall, ac y mae un ohonoch yn teithio i weithio yn y DU, byddwch fel arfer yn cael Credyd Treth Gwaith fel unigolyn sengl. Ond os ydych chi a’ch partner yn gweithio yn y DU, byddwch yn cael Credyd Treth Gwaith fel cwpl.

Os ydych chi’ch dau fel arfer yn byw yn y DU ac y mae un ohonoch neu’r ddau ohonoch yn teithio dramor yn rheolaidd i weithio, byddwch yn cael Credyd Treth Gwaith fel cwpl.

Os oes gennych blant

Byddwch chi a'ch partner - os oes gennych chi un – fel arfer yn gallu cael Credyd Treth Plant ar gyfer eich plant os:

  • ydych chi'n gweithio yn y DU
  • ydych chi'n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol fel gweithiwr yma
  • ydy eich plentyn yn byw yn un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir ac yn byw gyda chi, gyda'ch partner neu rywun arall ac maent yn dibynnu arnoch chi i'w cefnogi

Chewch chi ddim hawlio Credyd Treth Plant ar gyfer plentyn sy'n byw'r tu allan i Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir. Eithriad i hyn yw os ydych chi neu'ch partner yn un o Weision y Goron sy'n byw dramor.

Gallwch fel arfer hawlio cymorth tuag at eich costau gofal plant drwy Gredyd Treth Gwaith (yr ‘elfen gofal plant’) cyn belled â bod un o’r canlynol yn berthnasol:

  • bod eich plant wedi'u cofrestru mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy yn y DU
  • bod eich plant mewn gofal plant sydd wedi’i gymeradwyo gan gynllun achredu’r Weinyddiaeth Amddiffyn dramor – os ydych chi neu'ch partner yn un o Weision y Goron sy'n byw dramor

Gwledydd yn Ardal Economaidd Ewrop

Y gwledydd sydd yn Ardal Economaidd Ewrop ynghyd â'r DU yw'r Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Groeg, Gwlad Belg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Romania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden a'r Weriniaeth Tsiec.

Faint o arian allech chi ei gael?

Mae faint allech chi ei gael yn dibynnu ar eich incwm ac amgylchiadau. Gallai eich incwm gynnwys budd-daliadau eraill a gewch, o bosib o wledydd eraill. Po lleiaf eich incwml, y fwyaf o gredydau treth gallech eu cael.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Newidiadau i gredydau treth o 6 Ebrill

Cael gwybod am y newidiadau sy’n digwydd i gredydau treth o 6 Ebrill 2012 – a sut allai eich hawl gael ei effeithio

Sut i hawlio

Ble i gael y ffurflen hawlio credydau treth a phwy ddylai wneud yr hawliad

Allweddumynediad llywodraeth y DU