Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pobl sydd newydd gyrraedd y DU - ydych chi'n gymwys i gael credydau treth?

Os ydych wedi dod i fyw i'r DU o wlad arall mae'n bosib y cewch gredydau treth. Ond i fod yn gymwys i’w cael bydd yn rhaid i chi fodloni ambell reol sy’n ymwneud â ‘phreswylio’.

Pwy all gael credydau treth?

I gael credydau treth, fel arfer bydd angen i chi:

  • fod yn y DU
  • bod yn ‘preswylio fel arfer’ yn y DU – felly yma mae eich prif gartref

I gael Credyd Treth Plant, rhaid i chi hefyd gael 'yr hawl i breswylio' yn y DU.

Bod yn y DU

I gael credydau treth, fel arfer bydd yn rhaid i chi fod yn y DU. Byddwch yn dal yn gallu bod yn gymwys os ydych allan o’r wlad am gyfnodau byr, dros dro megis gwyliau.

‘Preswylio fel arfer’

I gael credydau treth mae’n rhaid i chi fod yn preswylio fel arfer yn y DU. Byddwch fel rheol yn ‘preswylio fel arfer’:

  • os mai yn y DU y mae eich prif gartref
  • os ydych wedi dewis byw a setlo yma
  • os mai dim ond am gyfnodau byr y byddwch yn mynd dramor – ar wyliau er enghraifft

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn penderfynu a ydych yn preswylio fel arfer ai peidio drwy edrych ar eich holl amgylchiadau.

Preswylio fel arfer - enghraifft

Mae Aleksy, ei wraig a’i fab wedi symud i’r DU yn barhaol o Wlad Pwyl. Mae Aleksy’n gweithio fel datblygwr eiddo hunangyflogedig ac mae ei fab ar gofrestr yr ysgol leol. Mae prif gartref Aleksy yn y DU ac mae’r teulu wedi dewis byw a setlo yma. Felly ystyrir eu bod yn preswylio fel arfer yn y DU, ac fe gânt wneud hawliad am gredydau treth.

Meddu ar 'hawl i breswylio’ yn y DU

Mae gennych hawl i breswylio yn y DU os ydych:

  • yn un o ddinasyddion y DU
  • Ynysoedd y Sianel
  • Ynys Manaw
  • Weriniaeth Iwerddon

Os ydych chi o wlad arall, gwnewch yn siŵr bod gennych hawl i breswylio drwy ddefnyddio'r tabl isod. Mae’r wybodaeth yn yr tabl yn berthnasol o 1 Mai 2011 ymlaen.

O ble ydych chi

Pryd bydd gennych hawl i breswylio yn y DU

Awstria, Gwlad Belg, y Weriniaeth Tsiec, Cyprus, Denmarc, Estonia, Y Ffindir, Ffrainc, Yr Almaen, Groeg, Hwngari, Gwlad yr Iâ, Iwerddon, Yr Eidal, Latfia, Liechtenstein, Lithiwania, Lwcsembwrg, Malta, Yr Iseldiroedd, Norwy, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Sweden,
Y Swistir

Os yw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi'n gweithio i gyflogwr neu'n hunangyflogedig yn y DU
  • rydych chi'n chwilio am waith ac rydych chi wedi cofrestru â'r Ganolfan Byd Gwaith
  • gallwch gynnal eich hun a’ch teulu yn ariannol – ac mae gennych yswiriant salwch cyfun ar eich cyfer chi ac ar gyfer eich teulu

Mae hefyd gennych hawl i breswylio os yw un o’r pethau uchod yn berthnasol i aelod o’r teulu yr ydych yn dibynnu arnynt - er enghraifft, eich partner.

Bwlgaria, Romania

Os yw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n gweithio, a chawsoch ddogfen awdurdodi gweithwyr cyn dechrau gweithio
  • rydych chi’n hunan-gyflogedig yn y DU
  • rydych chi wedi dod i’r DU fel rhan o’r Rhaglen Mudwyr Sgilgar Iawn ac mae gennych dystysgrif cofrestru
  • rydych yn chwilio am waith, gallwch gynnal eich hun a’ch teulu yn ariannol – ac mae gennych yswiriant salwch cyfun ar eich cyfer chi ac ar gyfer eich teulu
  • rydych chi wedi cofrestru â'r Ganolfan Byd Gwaith ac, am o leiaf 12 mis cyn bod yn ddi-waith, roeddech mewn swydd a oedd wedi'i hawdurdodi gan y Swyddfa Gartref

Mae hefyd gennych hawl i breswylio os yw un o’r uchod yn berthnasol i aelod o’r teulu yr ydych yn dibynnu arno – er enghraifft, eich partner.

Dim un o’r gwledydd uchod

Os oes gennych ganiatâd i ddod i’r DU ac i aros yno.

Mewnfudo a chredydau treth

Mae’n bosib na fyddwch yn gallu cael credydau treth os ydych chi'n ddarostyngedig i ‘reolau mewnfudo’. Yn gyffredinol mae hyn yn golygu un o’r canlynol:

  • mae gennych chi ganiatâd i aros yn y DU ar yr amod nad ydych chi'n hawlio budd-daliadau
  • mae angen caniatâd arnoch i aros ond nid yw'r caniatâd hwnnw gennych chi

Weithiau, os ydych yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo, efallai y gallech ddal i hawlio credydau treth. Er enghraifft os ydych yn dod o wlad y mae gan y DU gytundeb â hi sy’n cynnwys credydau treth, megis Twrci.

Os ydych chi wedi dod i’r DU ond na ddaeth eich teulu gyda chi

Os ydy eich teulu yn byw yn un o wledydd eraill Ardal Economaidd Ewrop efallai byddwch chi'n gallu hawlio credydau treth ar eu cyfer.

Os ydych chi wedi dod i'r DU o wlad sydd y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir, a bod eich teulu wedi aros yn eu gwlad eu hun, ni chewch hawlio ar eu cyfer. Gallwch hawlio credydau treth ar eu cyfer pan fyddant yn cyrraedd y DU.

Cymorth a chyngor

Mae'n bwysig cael y cyngor iawn am eich statws mewnfudo penodol.

Mae mwy o wybodaeth, gan gynnwys rhifau ffôn cyswllt, ar gael ar wefan Asiantaeth Ffiniau'r DU.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU