Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheolau mewnfudo a chredydau treth

Os ydych chi’n gaeth i 'reolau mewnfudo', fel arfer ni fyddwch yn gallu cael credydau treth. Ond weithiau bydd rheolau arbennig yn berthnasol, a'r rheini'n golygu ei bod yn dal yn bosib i chi hawlio. Er enghraifft, mae’n bosib y byddwch yn gallu hawlio os ydych chi'n dod o wlad sydd â chytundeb â'r Gymuned Ewropeaidd, megis Twrci neu Foroco.

Beth yw ystyr ‘rheolau mewnfudo’?

Rydych chi’n gaeth i 'reolau mewnfudo' os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r Swyddfa Gartref yn rhoi caniatâd i chi aros yn y DU (a elwir yn 'hawl i ddod i mewn neu i aros') – ond rhoddir y caniatâd hwn i chi ar y sail nad ydych yn hawlio budd-daliadau, credydau treth na chymorth â thai a delir gan lywodraeth y DU (sef 'ddim yn cael hawlio arian cyhoeddus')
  • mae angen caniatâd arnoch i aros yn y DU – eto, gelwir hyn yn 'hawl i ddod i mewn neu i aros' – ond nid ydych wedi cael y caniatâd hwnnw
  • gwrthodwyd caniatáu i chi aros yn y DU – ond rydych wedi apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw, ac ni phenderfynwyd ar eich apêl eto
  • rhoddwyd caniatâd i chi aros yn y DU – ond ar yr amod bod rhywun arall, fel ffrind, cyflogwr neu berthynas (y cyfeirir atynt yn aml fel eich 'noddwr'), yn eich cefnogi

Sut ydych chi'n gwybod a ydych chi'n gaeth i reolau mewnfudo?

Efallai bod eich pasbort wedi cael ei stampio pan gyrhaeddoch chi'r DU.

Bydd y stamp yn dangos telerau eich arhosiad yn y DU.

Er enghraifft, efallai bod eich pasbort wedi cael ei stampio gyda'r geiriau 'ddim yn cael hawlio arian cyhoeddus'.

Rhywun y mae’r rheolau mewnfudo yn berthnasol iddo – enghraifft

Mae Anisha a’i phlant yn dod o India, ac maent yn aros gyda theulu ei chwaer gerllaw Llundain. Mae Anisha am ymgartrefu yn y DU, ond nid yw wedi cael caniatâd i aros yma’n barhaol.

Mae’r rheolau mewnfudo yn berthnasol i Anisha, felly ni chaiff hawlio credydau treth.

Pryd nad ydych yn gaeth i reolau mewnfudo

Nid ydych yn gaeth i reolau mewnfudo os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n un o ddinasyddion y DU
  • rydych chi'n un o ddinasyddion Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
  • rydych chi'n un o ddinasyddion gwlad sy'n rhan o Ardal Economaidd Ewrop (gweler isod) neu'r Swistir
  • rydych chi wedi gwneud cais am loches ac wedi cael gwybod gan y Swyddfa Gartref y cewch aros yn y DU fel ffoadur
  • mae’r Swyddfa Gartref wedi rhoi gwybod i chi y cewch aros yn y DU am gyfnod amhenodol

Gwledydd yn Ardal Economaidd Ewrop

Mae gwledydd Ardal Economaidd Ewrop fel a ganlyn: yr Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Romania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden a'r Weriniaeth Tsiec.

Rydych chi'n gaeth i reolau mewnfudo – pryd allwch chi gael credydau treth?

Mae gennych chi bartner

Gallwch gael credydau treth os oes gennych chi bartner yn y DU:

  • nad yw'n gaeth i reolau mewnfudo
  • sy'n gaeth i reolau mewnfudo, ond y mae unrhyw un o'r adrannau isod yn berthnasol i'w amgylchiadau neu ei hamgylchiadau

Bydd dal yn rhaid i chi ddiwallu’r rheolau cymhwyso arferol, megis yr oriau rydych chi’n eu gweithio a’ch incwm.

Dydych chi 'ddim yn cael hawlio arian cyhoeddus' ac mae eich arian o dramor yn dod i ben am gyfnod byr

Gallech gael credydau treth am hyd at 42 diwrnod os bydd yr arian a gewch o dramor fel arfer yn dod i ben am gyfnod byr. Ond bydd yn rhaid i chi fod yn debygol o ddechrau cael eich arian o dramor eto'n fuan, a bod gennych ganiatâd i aros yn y DU o hyd.

Rydych wedi cael caniatâd i aros yn y DU – ar yr amod bod rhywun arall yn eich cefnogi

Mae'n bosib y gallwch gael credydau treth o hyd os bydd rhywun arall yn gyfrifol am eich cynhaliaeth pan fyddwch yn y DU. Mae hyn yn golygu y bydd yn talu am eich cynnal ac yn darparu lle i fyw i chi. Yn aml, gelwir yr unigolyn hwn yn 'noddwr' a gall fod yn ffrind, cyflogwr neu berthynas. Ond mae'n rhaid i bob un o'r canlynol fod yn berthnasol:

  • mae eich noddwr wedi rhoi datganiad ysgrifenedig i'r Swyddfa Gartref yn dweud ei fod yn eich noddi chi
  • mae eich noddwr wedi cael caniatâd i aros yn y DU
  • rydych chi wedi bod yn byw yn barhaol yn y DU am o leiaf bum mlynedd, naill ai ers i chi ddod i'r DU neu ers i chi ddechrau cael eich noddi (pa ddyddiad bynnag yw'r hwyraf)

Efallai y byddwch yn dal yn gallu cael credydau treth os ydych chi wedi bod yn byw yn y DU am lai na phum mlynedd, ond:

  • bod eich noddwr wedi marw
  • bod eich holl noddwyr – os oedd gennych chi fwy nag un – wedi marw

Rydych chi o Algeria, Moroco, San Marino neu Tunisia

Os ydych chi'n dod o un o'r gwledydd hyn, dim ond Credyd Treth Plant y byddwch yn gallu ei gael. Fyddwch chi ddim yn gallu cael Credyd Treth Gwaith.

I gael Credyd Treth Plant, bydd yn rhaid i chi fod yn gyfrifol am blentyn, a bydd yn rhaid i un o'r canlynol fod yn wir:

  • rydych chi'n gweithio yn y DU yn gyfreithlon
  • rydych chi wedi ymddeol oherwydd eich bod wedi cyrraedd oedran pensiwn
  • nid ydych yn gweithio mwyach oherwydd eich bod yn gofalu am blant neu'n feichiog
  • nid ydych yn gweithio mwyach oherwydd eich bod yn sâl, yn anabl, wedi cael damwain yn y gwaith, wedi cael salwch diwydiannol, neu oherwydd bod eich partner wedi marw

Rydych chi'n dod o Croatia neu Gyn-weriniaeth Iwgoslafia Macedonia

Os ydych chi'n un o ddinasyddion Croatia neu Gyn-weriniaeth Iwgoslafia Macedonia, efallai y bydd modd i chi gael Credyd Treth Gwaith ar yr amod eich bod yn bresennol yn gyfreithlon yn y DU.

Fel arfer, ni allwch chi gael Credyd Treth Plant oni bai i chi fod yn cael taliadau ar gyfer eich plant drwy Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm.

Rydych chi'n dod o Dwrci

Fel arfer gallwch gael Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith.

I gael Credyd Treth Gwaith, bydd yn rhaid i chi fod yn gyfrifol am blentyn – a bydd yn rhaid i un o'r canlynol fod yn wir:

  • rydych chi'n gweithio yn y DU yn gyfreithlon
  • rydych chi wedi ymddeol oherwydd eich bod wedi cyrraedd oedran pensiwn
  • nid ydych yn gweithio mwyach oherwydd eich bod yn gofalu am blant neu'n feichiog
  • nid ydych yn gweithio mwyach oherwydd eich bod yn sâl, yn anabl, wedi cael damwain yn y gwaith, wedi cael salwch diwydiannol, neu oherwydd bod eich partner wedi marw

I gael Credyd Treth Gwaith mae angen i chi fod yn bresennol yn gyfreithlon yn y DU ac yn un o ddinasyddion Twrci.

Os gwnaethoch chi geisio lloches cyn 5 Chwefror 2006

Efallai y byddwch yn dal yn gallu cael Credyd Treth Plant os oeddech yn cael cymorth ariannol ar gyfer eich plant drwy Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU