Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Os oes arnoch eisiau i rywun weithredu ar eich rhan ar gyfer credydau treth

Os ydych chi'n cael trafferthion wrth ddelio â'ch credydau treth, gallwch ofyn i rywun arall eich helpu. Ond bydd angen i chi eu hawdurdodi cyn y gallant siarad â'r Swyddfa Credyd Treth ar eich rhan.

Pwy all weithredu ar eich rhan?

Ceir amrywiol fathau o bobl neu gyrff a fyddai’n gallu gweithredu ar eich rhan. Yn aml iawn, fe'u gelwir yn 'gyfryngwyr', a gallant gynnwys:

  • mudiadau gwirfoddol megis Canolfannau Cyngor Ar Bopeth
  • cyfaill neu berthynas
  • rhywun sy'n egluro pethau i chi os ydych chi’n cael trafferth deall Saesneg, er enghraifft cyfieithydd, sydd hefyd, o bosib, yn gyfaill neu’n berthynas i chi

Gallwch chi hefyd gael cynghorydd proffesiynol sy'n cael ei dalu, megis cyfrifydd, twrnai neu gynghorydd treth i'ch helpu chi. Gelwir y rhain yn aml yn 'asiantau' yn hytrach na chyfryngwyr. Os ydych chi am wneud hyn, mae yna drefniadau gwahanol y bydd angen i chi eu dilyn.

I gael gwybod rhagor, dilynwch y ddolen isod.

Beth all ‘cyfryngwr’ ei wneud i chi

Gall cyfryngwr:

  • siarad â'r Swyddfa Credyd Treth am eich hawliad
  • helpu i lenwi'r ffurflenni
  • ateb unrhyw gwestiynau ar eich rhan
  • hwyluso'r broses o wneud hawliad neu adnewyddu eich hawliad

Ni all gael y taliad ar eich rhan gan fod hwnnw’n mynd yn syth i’ch cyfrif banc chi.

Pryd fydd angen i chi awdurdodi cyfryngwr

Bydd angen i chi awdurdodi rhywun i weithredu ar eich rhan os byddwch, er enghraifft:

  • am i rywun ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth ar eich rhan er mwyn cael cyngor unwaith yn unig am eich hawliad credydau treth
  • am iddynt ddelio â'ch materion credyd treth dros gyfnod o amser

Nid oes angen i chi awdurdodi rhywun i weithredu ar eich rhan os mai'r unig beth y mae arnoch eisiau iddynt ei wneud yw cael cyngor cyffredinol i chi. Y rheswm am hyn yw na fyddant yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol ynglŷn â chi na'ch hawliad, nac yn rhoi gwybodaeth o'r fath chwaith.

Sut mae awdurdodi cyfryngwr i weithredu ar eich rhan

Awdurdodi unwaith yn unig

Gallwch awdurdodi rhywun am hyd alwad ffôn yn unig. Ond bydd angen i chi bod gyda'r unigolyn pan fyddwch yn cysylltu â’r Llinell Gymorth Credyd Treth. Bydd gofyn i chi gadarnhau pwy ydych chi ac awdurdodi’r cyfryngwr i siarad ar eich rhan yn ystod yr alwad ffôn.

Awdurdod am hyd at 12 mis

Beth i’w wneud

Awgrymiadau i’ch helpu

Cam 1 – Llenwch ffurflen TC689 Rhoi awdurdod i gyfryngwr weithredu ar eich rhan

  • ar gyfer hawliadau ar y cyd, bydd angen i'r ddau ohonoch lofnodi'r ffurflen os ydych am i'r cyfryngwr weithredu ar ran y ddau ohonoch
  • os ydych am roi awdurdod i rywun am lai na 12 mis – neu am fwy na 12 mis – gwnewch yn sir eich bod yn rhoi'r dyddiad y bydd y cyfnod yn dod i ben ar y ffurflen TC689‎‎‎‏‏‏‏
  • gallwch anfon llythyr yn hytrach na hynny – ar yr amod eich bod yn darparu'r un wybodaeth â honno y gofynnir amdani ar ffurflen TC689

Cam 2 – Gofynnwch i'r cyfryngwr o'ch dewis lenwi'r manylion ar gefn y ffurflen

Cam 3 – Ar ôl ei llenwi, anfonwch ffurflen TC689 neu'r llythyr i'r Swyddfa Credyd Treth, Preston, PR1 0SB

  • derbynnir ffurflenni wedi'u llungopïo, ond mae'n rhaid i bob llofnod fod yn wreiddiol
  • gwnewch eich hawliad am gredydau treth os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod


Beth sy'n digwydd ar ôl i chi anfon eich awdurdod?

Bydd yn rhaid i chi ddelio â'ch materion credyd treth eich hun nes bod y Swyddfa Credyd Treth wedi cael eich ffurflen hawlio a'r ffurflen TC689 wedi'i llenwi. Felly peidiwch ag oedi cyn eu dychwelyd. Yn y cyfamser, bydd yn dal yn bosib i'r unigolyn sy'n gweithredu ar eich rhan gysylltu â'r Llinell Gymorth Credyd Treth. Ond bydd angen i chi bod gyda nhw pan fyddant yn ffonio.

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn delio â'r broses awdurdodi cyn gynted ag y bo modd. Fel arfer, bydd hyn yn cymryd tua 48 awr o’r adeg y bydd y Swyddfa’n cael eich llythyr neu'r ffurflen TC689 wedi'i llenwi.

Newidiadau sy’n effeithio ar eich awdurdod

Newid

Beth i’w wneud

Mae gennych hawliad am gredydau treth ar y cyd, ac rydych wedi rhoi eich awdurdod ar y cyd, ond wedi gwahanu oddi wrth eich partner

  • dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth eich bod wedi gwahanu oddi wrth eich partner
  • gwnewch hawliad newydd am gredydau treth
  • llenwch a dychwelyd ffurflen TC689 newydd

Rydych chi am i gorff neu berson gwahanol weithredu ar eich rhan

  • dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn gynted ag y bo modd
  • llenwch a dychwelyd ffurflen TC689 newydd neu anfonwch lythyr yn rhoi'r un wybodaeth

Rydych am newid y dyddiad mae'r awdurdod yn dod i ben

  • ysgrifennwch at y Swyddfa Credyd Treth, Preston PR1 0SB – ni fydd angen i chi lenwi ffurflen TC689 newydd

Adnewyddu’r awdurdod

Os ydych chi am adnewyddu'r awdurdod, bydd angen i chi lenwi a dychwelyd ffurflen TC689 newydd. Neu gallwch anfon llythyr gan roi'r un wybodaeth â honno sydd ar ffurflen TC689. Derbynnir ffurflenni wedi'u llungopïo, ond mae'n rhaid i bob llofnod fod yn wreiddiol

Dylech adnewyddu mewn da bryd – yn ddelfrydol, o leiaf ddau ddiwrnod cyn i’r terfyn amser ddod i ben – er mwyn sicrhau na fydd awdurdod eich cyfryngwr yn dod i ben.

Cysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth

Os oes angen mwy o help arnoch, gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Os nad ydych yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf, gallwch ofyn am gael siarad â rhywun a fydd yn gallu cyfieithu i chi. Gallwch ddefnyddio eich cyfieithydd eich hun os ydych eisiau, ond mae’n rhaid iddynt fod gyda chi pan fyddwch yn ffonio.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU