Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 5 Medi 2012

Paratoi i adnewyddu eich credydau treth

Pan gewch chi eich pecyn adnewyddu credydau treth, bydd angen i chi ddarllen y ffurflenni yn ofalus iawn. Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod gan y Swyddfa Credyd Treth y manylion cywir ar gyfer eich amgylchiadau personol. I wneud hyn, byddai’n ddefnyddiol i chi gael y gwaith papur priodol wrth law.

Beth i’w wneud pan gewch eich pecyn adnewyddu

Cyn gynted ag y cewch chi eich pecyn adnewyddu, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn y pecyn yn gywir
  • dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth os oes unrhyw beth wedi newid neu os yw’r wybodaeth a ddangosir yn anghywir

Os anfonwyd ffurflen Datganiad Blynyddol TC603D neu TC603D2 atoch chi, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth y gofynnir amdani erbyn 31 Gorffennaf – neu erbyn y dyddiad a ddangosir yn eich pecyn. Gallwch wneud hyn drwy:

  • gysylltu â’r Llinell Gymorth Credyd Treth
  • llenwi’r ffurflen a’i dychwelyd i'r Swyddfa Credyd Treth yn yr amlen ymateb a ddarparwyd

Ni allwch ddarparu’r wybodaeth ar-lein.

Cyn cysylltu â’r Llinell Gymorth, dylech gasglu’r gwaith papur perthnasol ynghyd. Os na fydd gennych chi’r gwaith papur wrth law, mae’n bosib y bydd rhaid i chi ffonio’n ôl.

Beth i’w wneud os na chewch becyn adnewyddu

Cysylltwch â’r Llinell Gymorth Credyd Treth os nad ydych wedi derbyn eich pecyn erbyn 30 Mehefin 2012.

Bydd y Llinell Gymorth Credyd Treth yn anfon y ffurflen adnewyddu angenrheidiol atoch chi. Bydd gennych 30 diwrnod i ddychwelyd y ffurflen. Byddwch yn dal i gael y taliadau – hyd yn oed ar ôl 31 Gorffennaf. Ond unwaith i chi gael y ffurflen, gwnewch yn sicr eich bod yn ymateb erbyn y dyddiad a ddangosir neu bydd eich taliadau yn dod i ben.

Ni allwch gael y pecyn adnewyddu ar-lein.

Gwaith papur ynghylch newidiadau yn eich amgylchiadau personol

Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gael y canlynol wrth law cyn mynd ati i adnewyddu:

  • copïau o unrhyw hysbysiadau dyfarnu y mae’r Swyddfa Credyd Treth wedi eu hanfon atoch yn ystod y flwyddyn
  • dyddiadur neu galendr sy’n dangos newidiadau pwysig, megis pryd ddechreuoch chi swydd newydd neu pryd adawodd eich plentyn yr ysgol neu’r coleg
  • biliau neu dderbynebau sy’n dangos faint y gwnaethoch chi ei dalu am ofal plant yn ystod y flwyddyn

Gwaith papur sy’n dangos eich gwir incwm

Bydd rhaid i chi roi manylion cyfanswm eich incwm – gan gynnwys incwm eich partner (os oes gennych bartner) – yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Efallai y bydd arnoch angen y gwaith papur canlynol ar gyfer chi eich hun a’ch partner:

  • ffurflenni P60 neu P45 neu slipiau cyflog sy'n dangos cyfanswm eich cyflog am y flwyddyn
  • ffurflen P11D neu P9D, os ydych wedi cael un, yn dangos gwerth unrhyw ‘fuddion mewn nwyddau’ y mae’ch cyflogwr wedi rhoi i chi yn ystod y flwyddyn dreth (er enghraifft car cwmni)
  • os ydych chi’n hunangyflogedig – cyfrifon eich busnes neu’ch ffurflen dreth
  • nodiadau unrhyw daliadau Cymorth Rhodd neu bensiwn a wnaed gennych – anwybyddwch daliadau i gynlluniau pensiwn galwedigaethol lle mae’ch cyflogwr eisoes wedi tynnu eich taliad o’ch cyflog
  • llythyrau neu ddatganiadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu’r Adran Datblygu Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon, sy’n datgan pa rai o fudd-daliadau'r wladwriaeth neu bensiynau'r wladwriaeth rydych wedi eu cael
  • llythyrau gan gwmnïau pensiwn preifat sy’n dangos faint o incwm pensiwn rydych wedi ei gael
  • cyfriflenni banc a chymdeithas adeiladu, tystysgrifau difidend ac incwm o dystysgrifau ymddiriedolaethau

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Cross & Stitch yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU