Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth gyda'r pecyn adnewyddu credydau treth

Bob blwyddyn, cewch becyn adnewyddu credydau treth. Bydd angen i chi edrych dros eich ffurflenni adnewyddu a gwneud yn siŵr eich bod yn rhoi'r wybodaeth gywir i'r Swyddfa Credyd Treth. Yma, cewch wybod beth fydd yn eich pecyn, yr wybodaeth y bydd angen i chi ei gwirio, sut mae cyfrifo eich incwm, a sut mae osgoi rhai camgymeriadau cyffredin.

Eich pecyn adnewyddu

Mae’n bosib y bydd eich pecyn adnewyddu yn cynnwys y canlynol:

  • hysbysiad o Adolygiad Blynyddol (TC603R) yn unig
  • hysbysiad o Adolygiad Blynyddol (TC603R) a ffurflen Datganiad Blynyddol (TC603D neu TC603D2)

Gallwch ddisgwyl i’ch pecyn gyrraedd rhwng 17 Ebrill 30 Mehefin. Nid yw’r Swyddfa Credyd Treth yn anfon yr holl becynnau'r un amser, ac efallai na fydd eich un chi yn cyrraedd tan ddiwedd y cyfnod hwn.

Mae angen i chi adnewyddu erbyn 31 Gorffennaf neu ba bynnag ddyddiad a ddangosir ar eich pecyn.

Gallwch gael gwybod mwy ynghylch pryd y gallech ddisgwyl cael y ffurflenni, sut mae adnewyddu a beth fydd yn digwydd os na chewch nhw yn y canllaw ‘Adnewyddu eich credydau treth - gwybodaeth sylfaenol.

Nid yw’r ffurflenni adnewyddu ar gael ar-lein.

Gwybodaeth bwysig y dylech ei gwirio ar eich hysbysiad o Adolygiad Blynyddol

Dylech sicrhau’r canlynol ar eich hysbysiad o Adolygiad Blynyddol (TC603R):

  • bod yr amgylchiadau personol a gaiff eu dangos yn gywir
  • bod yr holl newidiadau rydych chi wedi rhoi gwybod amdanynt dros y flwyddyn dreth ddiwethaf wedi’u cynnwys

Mae blwyddyn dreth yn dechrau ar 6 Ebrill un flwyddyn ac yn dod i ben ar 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Rhowch wybod i’r Llinell Gymorth Credyd Treth ar unwaith os yw unrhyw beth yn anghywir ar eich hysbysiad neu os oes rhywbeth wedi newid.

Os gwnaethoch hawliad credydau treth fel person sengl – neu fel cwpl

Bydd eich hysbysiad yn dangos y wlad rydych chi’n gweithio ynddi y rhan fwyaf o’r amser, a nifer yr oriau rydych chi’n gweithio bob wythnos, fel arfer.

Mae’n bosib y bydd hefyd yn dangos a ydych chi’n cael budd-daliadau penodol, er enghraifft Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Lle rydych chi’n byw

Bydd eich hysbysiad yn datgan pa wlad rydych yn byw ynddi y rhan fwyaf o'r amser. Does dim ots os byddwch weithiau’n ymweld â gwledydd eraill ar wyliau am gyfnodau llai nag wyth wythnos (a llai na 12 wythnos mewn rhai achosion). Efallai y gallwch hefyd gael credydau treth os ydych chi’n byw y tu allan i'r DU.

Eich gwaith neu fudd-daliadau

Bydd eich hysbysiad yn dangos y wlad rydych chi’n gweithio ynddi y rhan fwyaf o’r amser, a nifer yr oriau rydych chi’n gweithio bob wythnos, fel arfer.

Mae’n bosib y bydd hefyd yn dangos a ydych chi’n cael budd-daliadau penodol, er enghraifft Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Os oes gennych anabledd

Bydd eich hysbysiad yn dweud wrthych a gawsoch elfen anabledd – neu anabledd difrifol – Credyd Treth Gwaith.

Os oes gennych blant

Bydd eich hysbysiad yn dangos gwybodaeth i chi am unrhyw blant y gwnaethoch hawlio ar eu cyfer, gan gynnwys a oes anabledd gan eich plentyn.

Fel arfer, gallwch gael Credyd Treth Plant ar gyfer eich plentyn hyd nes y bydd yn 20 os yw mewn addysg amser llawn neu hyfforddiant cymeradwy.Mae hwn cyn belled â bod yr addysg neu’r hyfforddiant yn cyfrif at ddibenion Credyd Treth Plant.

Os byddwch chi'n talu costau gofal plant

Os ydych chi’n gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos ac yn talu am ofal plant cymeradwy neu gofrestredig, mae’n bosib y gallech gael taliad Credyd Treth Gwaith ychwanegol i’ch helpu gyda’r costau.

Bydd eich hysbysiad yn rhoi gwybod i chi a ydych chi’n gymwys i gael y taliad hwn.

Os yw eich amgylchiadau wedi newid

Bydd eich hysbysiad yn dweud wrthych am unrhyw newid yn eich amgylchiadau y rhoddoch chi wybod amdano.

Sut mae cyfrifo cyfanswm eich incwm ar gyfer eich Datganiad Blynyddol

Daw canllawiau gyda'r Datganiad Blynyddol, er mwyn eich helpu. Mae’r rhain yn cynnwys taflen waith lle gallwch nodi eich incwm.

Mae’r adrannau canlynol yn egluro pa incwm y mae angen i chi ei gynnwys wrth adnewyddu.

Budd-daliadau nawdd cymdeithasol

Mae rhai budd-daliadau nawdd cymdeithasol yn drethadwy, er enghraifft Lwfans Profedigaeth neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau, ac maent yn cyfrif fel incwm pan fyddwch yn gwneud hawliad credydau treth.

Ni fydd eraill, megis Lwfans Byw i’r Anabl, yn cyfrif fel incwm.

Os ydych chi’n gyflogedig

Os ydych chi'n gyflogedig dylech gael ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar ddiwedd y flwyddyn dreth, sy’n dangos faint rydych chi wedi'i ennill. Bydd angen i chi gynnwys incwm o bob swydd roeddech chi’n ei dal.

Os na chawsoch ffurflen P60, bydd eich slip cyflog ar gyfer mis Mawrth yn dangos faint rydych chi wedi'i ennill dros y flwyddyn dreth ddiwethaf. Fel arall, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • darparu amcangyfrif o faint rydych chi wedi’i ennill
  • rhoi ffigur gwirioneddol eich incwm i’r Swyddfa Credyd Treth yn ddim hwyrach na 31 Ionawr 2013

Bydd angen i chi hefyd gynnwys:

  • unrhyw ‘fuddion mewn nwyddau’ a gawsoch, megis taliadau lwfans milltiroedd am ddefnyddio car eich hunain, neu gar cwmni – dylai’ch cyflogwr rhoi ffurflen P11D neu P9D i chi a bydd yn nodi’r gwerth trethadwy
  • unrhyw arian arall a gawsoch, er enghraifft o gildyrnau neu dâl streicio

Os ydych chi’n hunangyflogedig

Eich incwm fydd yr elw a wnaethoch, a dylech ddefnyddio’r swm oddi ar eich ffurflen dreth. Os nad ydych chi wedi anfon eich ffurflen dreth, bydd angen i chi roi amcangyfrif o’ch elw.

Os byddwch yn rhoi amcangyfrif o’ch incwm, bydd rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth beth yw ffigur gwirioneddol eich incwm erbyn 31 Ionawr 2013 fan hwyraf.

Os wnaethoch golled, dylech roi’r ffigwr ‘0’. Ond os cawsoch unrhyw incwm yn ystod y flwyddyn, gallwch dynnu’r colled busnes o’r incwm hwn. Gallwch lwytho taflen waith i’ch helpu i gyfrifo hwn – dilynwch y ddolen isod.

Incwm arall

Bydd rhaid i chi gyfrifo unrhyw incwm arall a gewch hefyd. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, pensiynau, incwm o eiddo, incwm a gewch o dramor ac o gynilion

Sut mae osgoi camgymeriadau cyffredin ar eich Datganiad Blynyddol

Er mwyn osgoi oedi, mae’n bwysig eich bod yn gwneud y canlynol:

  • defnyddio inc du
  • ysgrifennu y tu mewn i’r blychau
  • gadael unrhyw flychau nad ydynt yn berthnasol i chi yn wag – peidiwch â rhoi llinell drwyddynt nac ysgrifennu ‘amherthnasol’
  • rhoi tic yn y blychau ar gyfer ‘hawlydd 1’ yn unig os ydych chi’n adnewyddu eich hawliad fel person sengl
  • rhoi tic yn y blychau budd-daliadau nawdd cymdeithasol ar gyfer yr unigolyn sydd wedi bod yn cael y budd-daliadau yn unig – mae hyn yn berthnasol os ydych chi'n adnewyddu fel rhan o gwpl
  • rhoi tic ym mlwch y budd-dal nawdd cymdeithasol sy’n berthnasol i chi (neu’ch partner) yn unig – peidiwch â rhoi tic ym mhob un ohonynt oni bai eich bod wedi bod yn cael pob un ohonynt
  • peidio â chynnwys gwybodaeth yn 'Incwm Arall' (blwch 2.5) sydd eisoes wedi'i chynnwys rhywle arall ar y ffurflen

Allweddumynediad llywodraeth y DU