Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwybodaeth am gredydau treth os ydych yn rhoi'r gorau i gael budd-daliadau

Os ydych yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod ar fudd-daliadau, efallai y gallwch gael credydau treth i ychwanegu at eich incwm. Gallech hefyd gael taliadau credyd treth i helpu gyda chost gofal plant.

Cymhwyso ar gyfer credydau treth

Os ydych wedi dod o hyd i waith yn ddiweddar neu'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod ar fudd-daliadau, efallai y gallwch gael Credyd Treth Gwaith. I wneud cais, fel arfer rhaid i chi fod yn 25 oed neu'n hŷn ac yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Ond dim ond 16 awr neu fwy yr wythnos y mae angen i chi weithio os ydych:

  • yn 16 oed o leiaf ac yn gymwys i gael taliad Credyd Treth Gwaith ychwanegol am eich bod yn anabl
  • yn 60 oed neu'n hŷn

Dylech ddisgwyl i'ch gwaith â thâl barhau am o leiaf bedair wythnos.

Os oes gennych blant

Os oes gennych blant, gallech gael Credyd Treth Gwaith - nid oes rhaid i chi fod yn gweithio i wneud cais.

Os ydych yn gweithio, gallech hefyd gael Credyd Treth Gwaith. I wneud cais, bydd angen i chi fod yn 16 oed o leiaf, ac yn gweithio'r oriau canlynol:

  • os ydych yn sengl, mae angen i chi weithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • os ydych yn rhan o gwpwl, mae angen i'ch oriau gwaith ar y cyd fod o leiaf 24 awr yr wythnos, gydag un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos

Mae hyn yn golygu os ydych yn rhan o gwpwl ac mai dim ond un ohonoch sy'n gweithio, mae'n rhaid i'r unigolyn hwnnw fod yn gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos.

Weithiau, byddwch yn gymwys o hyd os yw eich oriau ar y cyd yn llai na 24 awr yr wythnos - dilynwch y ddolen isod am wybodaeth fanylach.

Os ydych yn talu am ofal plant

Os ydych yn gweithio ac yn talu am ofal plant, gallech gael hyd at 70 y cant o'ch costau gofal plant drwy'r Credyd Treth Gwaith. Fel arfer, mae'n rhaid i chi a'ch partner (os oes gennych un) weithio am o leiaf 16 awr yr wythnos i fod yn gymwys.

Os ydych yn anabl

Gallech fod yn gymwys i gael swm ychwanegol o Gredyd Treth Gwaith os ydych yn bodloni'r holl amodau hyn:

  • mae'n rhaid eich bod yn gweithio am 16 awr neu fwy yr wythnos
  • mae'n rhaid bod gennych anabledd sy'n ei gwneud yn anodd i chi gael swydd
  • mae'n rhaid eich bod yn cael budd-dal salwch neu fudd-dal sy'n gysylltiedig ag anabledd, neu wedi cael un yn ddiweddar

Faint a gewch?

Gallech gael:

  • hyd at £2,790 y flwyddyn, sef tua £54 yr wythnos, os ydych yn anabl
  • hyd at £3,980 y flwyddyn, sef tua £77 yr wythnos, os oes gennych anabledd difrifol

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm arall sydd gennych yn dod i mewn, fel cyflogau, llog ar eich cynilion a rhai taliadau budd-daliadau.

Sut i wneud cais

Os ydych wedi bod yn cael budd-daliadau, fel Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, neu Lwfans Ceisio Gwaith, byddwch yn cael help gyda'ch cais. Bydd eich Canolfan Byd Gwaith - neu yng Ngogledd Iwerddon, eich swyddfa Nawdd Cymdeithasol - yn eich helpu gyda'ch ffurflen gais credydau treth.

Neu gallwch archebu pecyn cais credydau treth drwy'r Llinell Gymorth Credyd Treth. Gallwch lenwi'r ffurflen eich hun a'i dychwelyd drwy'r post. Os oes angen help arnoch i lenwi'r ffurflen, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth a fydd yn barod i roi rhagor o gyngor i chi.

Ni allwch wneud cais am gredydau treth ar-lein.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU