Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut mae credydau treth yn effeithio ar fudd-daliadau eraill

Fel arfer, ni fydd y ffaith eich bod yn cael credydau treth yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch chi. Ond, bydd rhai budd-daliadau yn ystyried credydau treth wrth gyfrifo'r arian y byddwch yn ei gael. Mae’n werth edrych sut gallai credydau treth effeithio ar fudd-daliadau eraill cyn i chi hawlio.

Budd-daliadau eraill y mae’n bosib yr effeithir arnynt

Bydd ‘prawf modd’ ar gyfer rhai o’r budd-daliadau y gallech fod yn eu cael. Golyga hyn y bydd yr arian a gewch yn dibynnu ar y canlynol:

  • faint o arian sydd gennych yn dod i mewn – eich incwm
  • faint o arian sydd gennych chi o ran cynilion

Pan fydd eich budd-daliadau’n cael eu cyfrifo, mae'n bosib y bydd unrhyw gredydau treth a gewch chi (a'ch partner, os oes gennych bartner) yn eu cael eu hystyried fel incwm. Gall hyn fod yn Gredyd Treth Gwaith neu’n Gredyd Treth Plant, neu’r ddau.

Dyma’r budd-daliadau a fydd, o bosib, yn ystyried credydau treth fel rhan o’ch incwm:

  • Budd-dal Treth Cyngor
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm
  • Credyd Pensiwn

Po fwyaf o arian sydd gennych chi'n dod i mewn, y lleiaf fydd y budd-daliadau hyn. Weithiau, mae’n bosib iddynt leihau’n ddim.

Os nad ydych chi’n cael credydau treth ar hyn o bryd

Os ydych chi’n cael unrhyw rai o’r budd-daliadau sydd wedi’u rhestru uchod, mae’n bosib y byddant yn lleihau i ddim os byddwch yn hawlio – ac yn cael – credydau treth. P’un ai Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant neu’r ddau ydyw, gall effeithio ar eich budd-daliadau eraill.

Hyd yn oed os bydd eich budd-daliadau yn lleihau’n ddim, yn aml gallwch gael o leiaf yr un faint o arian ag yr oeddech yn ei gael o’r blaen. Cyn belled â’ch bod yn gymwys i gael credydau treth, efallai y byddwch dal yn cael cymorth arall, megis cinio ysgol am ddim neu bresgripsiynau am ddim.

Cyn i chi hawlio credydau treth, mae’n syniad da gofyn i’r swyddfa sy’n talu’r budd-daliadau eraill i chi sut gallai eich taliadau cael eu heffeithio.

Os ydych chi eisoes yn cael credydau treth

Os byddwch yn hawlio unrhyw rai o’r budd-daliadau sydd wedi’u rhestru uchod, rhowch wybod i’r swyddfa budd-daliadau eich bod yn cael credydau treth pan fyddwch yn gwneud eich cais i hawlio.

Bydd ar y swyddfa budd-daliadau angen gwybod faint o gredydau treth yr ydych yn eu cael fel y gallant gyfrifo swm y budd-daliadau ddylech chi eu cael.

Fel arfer, ni fydd unrhyw fudd-daliadau newydd y byddwch yn eu hawlio yn cynnwys arian ar gyfer eich plant. Gallai hyn olygu y cewch ragor o Gredyd Treth Plant. Yr eithriadau yw Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor sydd bob amser yn cynnwys lwfans ar gyfer plant.

Bydd y swyddfa budd-daliadau yn eich helpu i roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth eich bod wedi hawlio budd-daliad.

Newidiadau i’ch credydau treth sy’n gallu effeithio ar eich budd-daliadau eraill

Os ydych chi’n cael unrhyw rai o’r budd-daliadau sydd wedi’u rhestru uchod, ac mae’ch credydau treth yn codi, yn gostwng neu'n dod i ben, rhowch wybod i'r swyddfa budd-daliadau sy'n eich talu. Rhowch wybod iddynt mor fuan â phosib.

Yna, gall y swyddfa budd-daliadau sicrhau eu bod yn talu'r swm cywir o fudd-daliadau i chi cyn gynted â phosib.

Os nad ydych yn rhoi gwybod iddynt yn syth, mae’n bosib y byddant yn talu gormod i chi, a bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl. Neu os na fyddant yn talu digon i chi, efallai bydd yn rhaid i chi aros cyn cael yr hyn sy’n ddyledus i chi.

Sut mae credydau treth yn effeithio ar fudd-daliadau o'r tu allan i'r DU

Os byddwch chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau o wlad arall, mae’n bosib yr effeithir ar eich budd-daliadau os byddwch yn hawlio credydau treth yn y DU. Bydd hefyd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth os bydd swm eich budd-daliadau o’r tu allan i’r DU yn newid. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Manylion cyswllt ar gyfer budd-daliadau eraill

Mae gwahanol swyddfeydd budd-daliadau i gysylltu â nhw, yn dibynnu ar lle rydych yn byw a pha fudd-daliadau rydych yn eu cael.

Os ydych yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban

Dylech gysylltu â'r swyddfeydd canlynol:

  • ar gyfer Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – y Ganolfan Byd Gwaith
  • ar gyfer Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor - eich cyngor lleol
  • ar gyfer Credyd Pensiwn - y Gwasanaeth Pensiwn

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon

Dylech gysylltu â'r swyddfeydd canlynol:

  • eich Swyddfa Nawdd Cymdeithasol neu'ch Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau leol ar gyfer Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Gweithrediaeth Dai Gogledd Iwerddon ar gyfer Budd-dal Tai i denantiaid
  • y Gwasanaethau Tir ac Eiddo ar gyfer Budd-dal Tai i berchen-feddiannwyr
  • y Gwasanaeth Pensiwn ar gyfer Credyd Pensiwn

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU