Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cael prawf o daliadau credyd treth os ydych chi'n hawlio budd-daliadau eraill

Efallai bydd yn rhaid i chi ddarparu prawf eich bod yn cael credydau treth os ydych chi’n hawlio budd-daliadau eraill. Felly mae'n syniad da i chi gadw eich holl waith papur credydau treth gyda'i gilydd mewn lle diogel rhag ofn y bydd ei angen arnoch yn nes ymlaen.

Pam gallai fod angen prawf arnoch eich bod yn cael credydau treth

Weithiau bydd faint o gredydau treth y byddwch yn eu cael yn cael ei ystyried os ydych yn hawlio rhai mathau eraill o fudd-daliadau.

Mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi ddangos prawf eich bod yn cael credydau treth os ydych am hawlio budd-daliadau fel:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Cyngor
  • rhai budd-daliadau cyngor lleol penodol - er enghraifft grant dillad, neu ginio ysgol am ddim

Gall rhai o'r swyddfeydd sy'n talu'r budd-daliadau hyn ofyn am gael gweld eich dyfarniad credydau treth. Gellir hyn bod fel prawf o'ch incwm neu er mwyn dangos bod gennych chi hawl i gael credydau treth.

Pa brawf y gallai fod ei angen arnoch chi

Efallai y bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen os ydych yn mynd i hawlio unrhyw fudd-daliadau neu grantiau eraill. Gofynnwch i'r sefydliad yr ydych yn gwneud cais iddo am help gyda'r hyn y mae angen i chi ei ddarparu. Er enghraifft, efallai y byddant eisiau:

  • eich dyfarniad credydau treth - cofiwch anfon eich hysbysiad dyfarniad diweddaraf (ond cadwch gopi) a gofyn amdano'n ôl ar ôl iddynt ddelio â'ch hawliad
  • eich cyfeirnod credydau treth
  • prawf eich bod yn dal i gael credydau treth
  • cadarnhad o faint o gredydau treth rydych yn eu cael

Ble gallwch chi gael prawf

Os ydych chi eisoes yn cael credydau treth, bydd eich hysbysiad dyfarniad yn cynnwys yr holl wybodaeth y mae ei hangen gan gynnwys:

  • prawf bod gennych hawl i gael credydau treth
  • faint o gredydau treth rydych chi'n eu cael

Os ydych chi newydd wneud hawliad credydau treth, efallai nad ydych wedi cael eich hysbysiad dyfarniad eto. Ond dylech gael hwn cyn pen 30 diwrnod o wneud eich hawliad.

Os na allwch ddod o hyd i hysbysiad dyfarniad neu os nad oes gennych chi un

Gallwch ofyn i'r Llinell Gymorth Credyd Treth am gopi o'ch hysbysiad dyfarniad. Dylech ddweud wrthynt pam mae ei angen arnoch chi pan fyddwch yn cysylltu â nhw.

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn anfon un o'r canlynol atoch chi:

  • 'hysbysiad copi' os cafodd yr un gwreiddiol ei golli neu ei ddifrodi ar ôl i chi ei gael - mae hwn union yr un fath â'r un gwreiddiol, gan gynnwys y dyddiad cyhoeddi gwreiddiol
  • 'hysbysiad dyblyg' os na chawsoch chi'r un gwreiddiol - mae hwn yr un fath â'r un gwreiddiol, ond y dyddiad cyhoeddi fydd y dyddiad y cafodd yr un dyblyg ei anfon
  • hysbysiad gwreiddiol os na anfonwyd hysbysiad dyfarniad atoch chi yn y lle cyntaf

Pa mor hir dylech chi gadw’r gwaith papur

Does dim rheol ar gyfer pa mor hir dylech chi gadw eich gwaith papur credydau treth - chi sydd i benderfynu. Ond mae'n syniad da cadw hysbysiadau dyfarniadau a llythyrau pwysig eraill nes i chi stopio cael credydau treth.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU