Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwyliau banc a thaliadau Budd-dal Plant

Telir eich taliadau Budd-dal Plant yn wythnosol neu bob pedair wythnos, ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth. Os bydd eich diwrnod talu arferol ar ŵyl y banc, dylech gael eich taliad yn gynharach nag arfer. Ond ni fydd y talid yn gynharach os yw’r gwyliau yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn unig.

Dyddiadau talu gwyliau banc am 2012

O bryd i’w gilydd, efallai y bydd eich diwrnod talu arferol ar yr un diwrnod â gŵyl y banc.

Os yw’r ŵyl y banc yng Nghymru a Lloegr, byddwch yn derbyn eich taliad yn gynharach nag arfer - pa le bynnag yr ydych yn byw yn y DU. Y DU yw Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Os yw’r ŵyl y banc yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn unig, ni fydd eich taliad yn gynharach. Er enghraifft, Gŵyl San Andreas yn y Alban, a diwrnod coffáu Brwydr y Boyne yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r tabl isod yn dweud wrthych ba daliadau a wneir yn gynnar, a phryd y dylech gael eich talu - pa le bynnag yr ydych chi’n byw yn y DU.

Mis Dyddiad gŵyl y banc Dyddiad eich taliad
Ebrill 9 Ebrill 2012 (Dydd Llun y Pasg) 5 Ebrill 2012
Mai 7 Mai 2012 (gŵyl banc cynnar Calan Mai) 4 Mai 2012
Mehefin 4 Mehefin 2012 (gŵyl banc y gwanwyn) 31 Mai 2012
5 Mehefin 2012 (Jiwbilî Diemwnt y Frenhines) 1 Mehefin 2012
Awst 27 Awst 2012 (gŵyl banc yr haf) 24 Awst 2012
Rhagfyr 24 Rhagfyr 2012 21 Rhagfyr 2012
25 Rhagfyr 2012 (Dydd Nadolig) 24 Rhagfyr 2012

Nid ydych wedi cael eich taliad

Os nad ydych wedi cael eich talu, dylech edrych eto ar eich cyfrif banc. Weithiau ni fydd systemau bancio electronig yn gwbl gyfredol. Mae’n bosib bod eich taliad yn eich cyfrif, ond nad yw’n ymddangos ar eich datganiad eto.

Os ydych chi'n bendant nad yw wedi cyrraedd eich cyfrif, dylech gysylltu â’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU