Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Ydy'ch taliadau Budd-dal Plant wedi lleihau neu wedi dod i ben?

Gallai’ch taliadau Budd-dal Plant fod wedi dod i ben am amryw o resymau. Yn syml iawn, efallai fod eich amgylchiadau wedi newid ac nad yw’r Swyddfa Budd-dal Plant yn gwybod am hynny.

Pam mae eich Budd-dal Plant wedi dod i ben?

Gallai’ch taliadau Budd-dal Plant fod wedi dod i ben am amryw o resymau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • mae’r Swyddfa Budd-dal Plant wedi ysgrifennu atoch ond nid ydych wedi ateb eu hymholiad
  • mae’ch plentyn wedi cyrraedd 16 oed ac nid ydych wedi dweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant am ei gynlluniau addysg neu hyfforddiant
  • mae manylion eich cyfrif banc wedi newid ac nid ydych wedi dweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant
  • rydych wedi newid eich cyfeiriad yn ddiweddar ac nid ydych wedi dweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant
  • mae’ch plentyn wedi’i roi mewn gofal
  • mae’ch plentyn yn byw gyda rhywun arall bellach

Os nad ydych wedi ateb ymholiad

Os yw’r Swyddfa Budd-dal Plant wedi ysgrifennu atoch a chithau heb ateb eu hymholiad neu eu negeseuon atgoffa, byddant yn dod â’ch taliadau Budd-dal Plant i ben oherwydd nad ydynt yn siŵr ble rydych chi’n byw.

Os yw’ch plentyn wedi cyrraedd 16 oed

Yn ystod y flwyddyn ysgol pan fydd eich plentyn yn cyrraedd 16 oed, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn cysylltu â chi i ofyn am gynlluniau addysg neu hyfforddiant eich plentyn. Maent yn gwneud hyn i weld os ydych dal yn gallu cael Budd-dal Plant.

Bydd eich taliadau yn dod i ben o ddydd Llun cyntaf mis Medi os naill un o’r canlynol yn gymwys:

  • ni fyddwch yn ateb yr ymholiad
  • os byddwch yn dweud wrthynt nad yw’ch plentyn yn bwriadu aros mewn addysg neu hyfforddiant perthnasol
  • nid yw’ch plentyn yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant sy’n gymwys ar gyfer Budd-dal Plant

Dilynwch y ddolen i osod i weld os yw addysg a hyfforddiant eich plentyn yn gymwys ar gyfer Budd-dal Plant.

Os yw’ch taliadau wedi dod i ben ond eich bod chi’n dal yn credu bod eich plentyn yn gymwys i gael Budd-dal Plant, cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant ar unwaith. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddilyn y ddolen gyntaf isod, neu gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant.

Os yw manylion eich cyfrif banc wedi newid

Os ydych wedi newid manylion y cyfrif y bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn talu’ch Budd-dal Plant iddo yn ddiweddar a chithau heb ddweud wrthynt, bydd eich taliad wedi’i anfon i’ch hen gyfrif. Bydd angen i chi rhoi’ch manylion newydd ar unwaith i’r Swyddfa Budd-dal Plant.

Os ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar

Os ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar a heb ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant, mae’n bosib y bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben oherwydd ni allant gysylltu â chi. Bydd angen i chi rhoi’ch manylion newydd ar unwaith i’r Swyddfa Budd-dal Plant

Os yw’ch plentyn wedi’i roi mewn gofal

Mae’n bosib y gall y Swyddfa Budd-dal Plant dalu Budd-dal Plant am yr wyth wythnos gyntaf y bydd eich plentyn mewn gofal. Mae hyn yn gymwys os yw’ch plentyn mewn gofal awdurdod lleol (neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon).

Os yw’ch plentyn yn byw gyda rhywun arall bellach

Os yw’ch plentyn yn byw gyda rhywun arall, mae’n bosib y bydd yr unigolyn hwnnw hefyd yn penderfynu gwneud hawliad am Fudd-dal Plant

Weithiau bydd rhywun arall yn gwneud hawliad ac ni fyddwch yn gwybod bod hyn wedi digwydd nes bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn dweud wrthych.

Er hynny, ni allant ddweud wrthych pwy sydd wedi gwneud yr hawliad. Mae’n bosib y caiff eich taliadau eu hatal nes bydd yn amlwg pwy ddylai gael yr arian.

Beth i’w wneud os nad ydych wedi cael eich taliad

Os nad ydych wedi cael eich taliad ac rydych yn credu y dylech fod wedi, holwch eich banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa’r Post ® yn gyntaf. Mae’n bosib y bydd eglurhad syml.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU