Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch chi ac unigolyn arall yn gwneud hawliad Budd-dal Plant ar wahân ar gyfer yr un plentyn, dim ond un ohonoch all gael y Budd-dal. Dylech geisio dewis gyda'ch gilydd pwy ddylai gael y budd-dal.
Os ydych chi'n gyfrifol am blentyn, gallwch hawlio Budd-dal Plant. Ond efallai fod rhywun arall yn talu tuag at gost gofalu am y plentyn a'u bod hwythau yn dymuno hawlio hefyd.
Er enghraifft, os yw eich plentyn:
Os ydych chi ac unigolyn arall yn dymuno hawlio Budd-dal Plant, mae'n well i chi drefnu rhwng eich gilydd pwy ddylai hawlio.
Fel arfer, bydd y Budd-dal Plant yn cael ei dalu i'r sawl y mae'r plentyn yn byw gydag ef. Ystyrir bod plentyn yn byw gyda chi fel arfer hyd yn oed os byddant oddi cartref am gyfnod byr. Bydd hyn ar yr amod nad yw hynny'n fwy na 56 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 16 wythnos.
Mae'n bosib nad ydych chi - neu'ch partner - yn gweithio digon o oriau i dalu'r cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn llawn.
Felly, efallai y byddai'n well i'r unigolyn hwnnw hawlio Budd-dal Plant, oherwydd gall hyn helpu i ddiogelu eu hawl i Bensiwn y Wladwriaeth.
Efallai eich bod eisoes yn cael Budd-dal Plant a bod rhywun arall yn penderfynu hawlio hefyd. Er enghraifft:
Mewn rhai achosion ni fyddwch yn ymwybodol o'r hawliad arall hwn nes bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn ysgrifennu atoch i ddweud eu bod wedi cael yr hawliad. Ni fydd modd iddynt ddweud wrthych pwy sydd wedi gwneud yr hawliad. Ond os ydych chi'n gwybod bod rhywun arall wedi gwneud cais am Fudd-dal Plant, ceisiwch benderfynu gyda'ch gilydd pwy ddylai gael y taliad.
Os byddwch yn penderfynu nad oes arnoch eisiau parhau â'ch hawliad, rhowch wybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosib. Gallwch roi wybod iddynt ar-lein drwy ddefnyddio’r ddolen isod, neu gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant.
Os na allwch benderfynu pwy ddylai gael y taliad a bod y ddau ohonoch yn dal yn dymuno hawlio, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn penderfynu pwy y byddant yn ei dalu. Os byddant yn penderfynu y bydd rhywun arall yn cael y Budd-dal Plant, bydd eich taliadau chi yn dod i ben.
Os ydych chi a'r unigolyn arall wedi gwneud hawliad, efallai na fyddwch yn gallu penderfynu pwy ddylai gael y Budd-dal Plant. Yn yr achos hwn, efallai y bydd yn rhaid i'r Swyddfa Budd-dal Plant benderfynu i bwy y byddant yn talu'r budd-dal. Byddant yn cysylltu â chi am ragor o wybodaeth.
Ni fydd y penderfyniad ynghylch pwy gaiff y Budd-dal Plant o reidrwydd yr un fath a'r penderfyniad ynghylch pwy gaiff y credydau treth - os ydych chi'n cael nhw.
Os ydych yn anghytuno ynghylch pwy ddylai gael y taliad, gallwch ofyn i’r Swyddfa Budd-dal Plant am eglurhad o sut y gwnaethant y penderfyniad.
Os oes arnoch eisiau i rywun arall hawlio Budd-dal Plant, er enghraifft i helpu i ddiogelu eu pensiwn, bydd angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant:
Os byddwch yn newid eich meddwl eto nes ymlaen gallwch wneud cais arall am Fudd-dal Plant.
Os bydd eich amgylchiadau yn newid, er enghraifft bod eich plentyn yn mynd i fyw gyda rhywun arall, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant ar unwaith.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs