Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Budd-dal Plant os yw'ch plentyn yn byw gyda rhywun arall

Os bydd eich plentyn yn mynd i fyw gyda rhywun arall, mae’n bosib y gallwch ddal i gael Budd-dal Plant am hyd at wyth wythnos. Os byddwch yn dal i gyfrannu at gostau cynhaliaeth eich plentyn mae’n bosib y gallech gael y Budd-dal am fwy o amser.

Yr wyth wythnos gyntaf ar ôl i blentyn adael cartref

Os bydd eich plentyn yn gadael cartref i fynd i fyw gyda ffrind neu berthynas, mae’n bosib y byddwch yn parhau i gael Budd-dal Plant i chi am yr wyth wythnos gyntaf.

Efallai y bydd yn gyfnod llai na hyn os bydd y sawl y mae’ch plentyn wedi mynd i fyw gydag ef hefyd yn gwneud hawliad ar gyfer eich plentyn.

Ar ôl wyth wythnos

Efallai y byddwch yn dal i gael Budd-dal Plant am fwy nag wyth wythnos:

  • os ydych yn cyfrannu at gostau cynhaliaeth eich plentyn (gweler yr adran isod am ragor o wybodaeth ynghylch y mathau o gynhaliaeth sy’n cyfri)
  • os ydych yn cyfrannu swm sydd o leiaf gyfwerth â’r Budd-dal Plant yr ydych yn ei gael ar gyfer eich plentyn
  • os nad yw’r sawl y mae’ch plentyn yn byw gydag ef wedi gwneud hawliad

Rhaid i bob un o’r rhain fod yn berthnasol.

Mathau o gyfraniadau sy’n cyfri

Does dim rhaid i’ch cyfraniad olygu cyfraniad ariannol. Gall gynnwys:

  • dillad
  • anrhegion pen-blwydd a Nadolig
  • bwyd
  • arian poced

Efallai y gallech hefyd gyfrannu drwy ddarparu rhywle i’ch plentyn fyw. Er enghraifft, gallech:

  • drosglwyddo’r tŷ i’ch partner - gallai’r trosglwyddo gyfri fel taliadau cynhaliaeth wythnosol, ond rhaid i chi a’r Swyddfa Budd-dal Plant gytuno ar hyn
  • gyfrannu swm rheolaidd i dalu am eich cyfran chi o’r llog ar y tŷ lle mae’ch plentyn yn byw

Amlder a swm y taliadau neu'r cyfraniadau

Rhaid i chi gyfrannu swm sydd o leiaf gyfwerth â’r Budd-dal Plant yr ydych yn ei gael ar gyfer eich plentyn.

Pa mor aml y mae’n rhaid i chi gyfrannu?

Gallwch gyfrannu bob wythnos, bob mis neu wneud taliad unswm i dalu am gyfnod penodol. Os byddwch yn methu taliad neu ddau dros gyfnod hir, efallai y bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn dal i ystyried eich bod wedi cyfrannu ar gyfer y cyfnod cyfan.

Mwy nag un plentyn

Os ydych yn cyfrannu tuag at fwy nag un o’ch plant, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn rhannu’r cyfraniadau yn gyfartal rhwng eich plant, oni bai eich bod yn gofyn iddynt ystyried gwneud yn wahanol.

Os oes dau neu fwy o bobl yn cyfrannu ar gyfer yr un plentyn

Os ydych chi a rhywun arall, fel eich partner, yn cyfrannu tuag at gostau cynhaliaeth eich plentyn, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn cyfri’r cyfraniadau gyda’i gilydd. Maent yn gwneud hyn i bennu a allwch ddal i gael Budd-dal Plant.

Byddai’n rhaid i gyfanswm y cyfraniadau fod o leiaf gyfwerth â’r Budd-dal Plant yr ydych chi’n ei gael.

Dim ond un unigolyn all gael Budd-dal Plant am blentyn, felly byddai’n well i chi benderfynu rhwng eich gilydd pwy yw’r person hynny.

Taliadau yn unol â chytundeb neu orchymyn llys

Mae’n bosib y byddwch yn gwneud taliadau cynhaliaeth am gost cynhaliaeth eich plentyn, yn unol â gorchymyn llys, gweithred neu gytundeb rhwymo.

Mae’r rhain yn cael eu hymdrin fel cyfraniadau tuag at eich plentyn – cyn belled â bod yr orchymyn neu gytundeb yn gofalu am gynhaliaeth eich plentyn. Os nad ydyw, mae eich taliadau yn cael eu trin fel incwm y person sy’n gofalu am y plentyn, yn hytrach nag fel cyfraniad.

Mae’n bosib y bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn ystyried eich bod yn dal i gyfrannu tuag at eich plentyn hyd yn oed os nad ydynt yn byw gyda’r person yr ydych chi’n talu’r cynhaliaeth iddo. Fodd bynnag, mae’n rhaid eich bod yn dal i gyfrannu tuag at gynhaliaeth eich plentyn. Byddant yn gwneud hyn os oes un o’r amodau canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n trefnu i’r taliadau fynd i’r unigolyn, neu’r cartref - sy’n gofalu am eich plentyn
  • rydych chi’n talu arian yn uniongyrchol i’r sawl sy’n gofalu am eich plentyn

Cysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant i ddweud eich bod wedi rhoi’r gorau i gyfrannu

Mae’n rhaid i chi roi’r gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant os ydych yn rhoi’r gorau i gyfrannu tuag at gostau cynhaliaeth eich plentyn. Gallwch wneud hyn ar ar-lein drwy ddefnyddio’r ddolen isod, neu gallwch ffonio’r Llinell gymorth Budd-dal Plant.

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn gwirio i weld a ddylech chi ddal i gael Budd-dal Plant.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU