Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Budd-dal Plant os byddwch yn mabwysiadu neu'n maethu plentyn

Mae'n bosib y cewch hawlio Budd-dal Plant os ydych yn byw yn y DU ac yn mabwysiadu neu'n maethu plentyn. Os ydych yn cael taliadau tuag at gostau llety neu gostau cynhaliaeth sylfaenol y plentyn gan eich awdurdod lleol, ni fyddwch yn gallu hawlio Budd-dal Plant fel arfer.

Rydych chi’n mynd i fabwysiadu plentyn

Os ydych yn y broses o fabwysiadu plentyn, mae'n bwysig gwneud hawliad am Fudd-dal Plant cyn gynted ag y mae’r plentyn yn dod i fyw gyda chi.

Nid oes yn rhaid i chi aros nes bod y broses fabwysiadu wedi'i chwblhau, ac mewn rhai amgylchiadau, gallech fod yn gymwys i hawlio Budd-dal Plant am gyfnod cyn y mabwysiadu.

Nid yw cenedligrwydd y plentyn yn effeithio ar eich hawl i gael Budd-dal Plant.

Rydych chi’n rhiant maeth

Os ydych chi’n maethu plentyn, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i hawlio Budd-dal Plant ar yr amod nad yw eich awdurdod lleol (neu’ch Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) yn talu dim i helpu gyda chostau llety neu gostau cynhaliaeth y plentyn.

Os nad ydych chi’n siŵr a ddylech chi hawlio Budd-dal Plant, cysylltwch â'r Swyddfa Budd-dal Plant. Gallwch wneud hwn ar-lein drwy ddefnyddio’r ddolen isod, neu ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant.

Rydych chi’n gofalu am blentyn ar ran ffrind neu berthynas

Os oes gennych chi drefniant anffurfiol i faethu plentyn rhywun arall, mae’n bosib y gallech gael Budd-dal Plant. Ond os yw’ch awdurdod lleol yn talu tuag at lety neu gostau cynhaliaeth y plentyn efallai na fyddwch yn gymwys – cysylltwch â’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant i gael gwybod.

Os byddwch yn dymuno hawlio, bydd angen i chi gytuno â'r sawl sy'n cael y Budd-dal Plant ar hyn o bryd (er enghraifft y rhiant) eich bod chi'n cael hawlio yn ei le. Cofiwch na all dau unigolyn gael Budd-dal Plant ar gyfer yr un plentyn.

Os ydych yn gyfrifol am blentyn sydd wedi colli un rhiant neu'r ddau, efallai y gallwch fod yn gymwys i hawlio Lwfans Gwarcheidwad hefyd.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU