Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Budd-dal Plant os ydych yn byw neu'n gweithio dramor

Rhaid i chi fyw yn y DU i gael Budd-dal Plant fel arfer. Ond efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn byw mewn gwlad Ewropeaidd arall, os ydych yn un o weision y Goron sydd wedi'i anfon dramor, neu os byddwch yn gadael y DU am gyfnod byr. Mynnwch wybod a allwch chi gael Budd-dal Plant a sut i sicrhau eich bod yn cael y taliadau diweddaraf.

Rydych yn byw mewn gwlad Ewropeaidd arall

Efallai y byddwch yn gallu cael Budd-dal Plant os ydych yn gyfrifol am blentyn, a bod y ddau bwynt isod yn gymwys:

  • rydych yn byw yn un o wledydd eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu'r Swistir, ac yn gweithio yn y DU - p'un a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig
  • rydych yn wladolyn un o wledydd yr AEE neu'r Swistir

Gallech hefyd fod yn gymwys i gael Budd-dal Plant os ydych yn byw yn un o wledydd yr AEE neu'r Swistir, a'ch bod yn cael budd-dal sy'n gysylltiedig ag Yswiriant Gwladol gan y DU. Er enghraifft, Pensiwn y Wladwriaeth.

Gwledydd yr AEE yw: Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, Estonia, Ffrainc, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad Pwyl, Gwlad yr Iâ, Hwngari, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithiwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Rwmania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden, yr Almaen, y DU, yr Eidal, y Ffindir, yr Iseldiroedd a'r Weriniaeth Tsiec.

Budd-daliadau teulu gan y wlad lle rydych yn byw

Efallai y bydd gennych hawl i gael budd-daliadau 'teulu' tebyg gan y wlad lle rydych yn byw hefyd. Er enghraifft, os ydych yn byw yng Ngweriniaeth Iwerddon, efallai y byddwch yn gallu cael Budd-dal Plant yno.

Os byddwch yn penderfynu gwneud cais am Fudd-dal Plant y DU, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn penderfynu pa wlad a ddylai dalu'r arian i chi. Os bydd gwahaniaeth rhwng y swm a delir gan y ddwy wlad, efallai y byddwch yn cael swm ychwanegol i sicrhau nad ydych yn colli allan.

Rydych yn byw yn y DU ond yn gweithio mewn gwlad Ewropeaidd arall

Os ydych yn byw yn y DU ond yn gweithio yn un o wledydd eraill yr AEE neu'r Swistir, efallai y byddwch yn gwneud cyfraniadau i gynllun nawdd cymdeithasol y wlad arall. Os felly, efallai y byddwch yn gallu hawlio budd-daliadau 'teulu' gan y wlad honno.

I gael rhestr o wledydd yr AEE, gweler yr adran 'Rydych yn byw mewn gwlad Ewropeaidd arall' uchod.

Os byddwch yn penderfynu gwneud cais am Fudd-dal Plant y DU, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn penderfynu pa wlad a ddylai dalu'r arian i chi. Os bydd gwahaniaeth rhwng y swm a delir gan y ddwy wlad, efallai y byddwch yn cael swm ychwanegol i sicrhau nad ydych yn colli allan.

Rydych yn un o weision y Goron sydd wedi'i anfon dramor

Mae rheolau arbennig ar gyfer gweision y Goron, sef gweision sifil neu aelodau o luoedd arfog y DU sy'n cael eu hanfon dramor ac yn gweithio i'r llywodraeth dramor.

Gallech gael Budd-dal Plant tra byddwch yn gweithio dramor ar yr amod bod un o'r canlynol yn wir ar yr adeg yn union cyn i chi gael eich anfon i weithio dramor:

  • roeddech yn byw yn y DU a'r DU oedd eich prif gartref
  • roeddech yn y DU am resymau'n ymwneud â'ch penodiad - yn hytrach nag ar ymweliad cyn i'ch penodiad ddechrau

Nid oes gwahaniaeth p'un a yw eich plentyn yn mynd gyda chi neu'n aros yn y DU.

Rydych yn byw neu'n gweithio mewn unrhyw wlad y tu allan i Ewrop

Oni bai eich bod yn un o weision y Goron sydd wedi'i anfon dramor, ni fyddwch yn gallu cael Budd-dal Plant os ydych yn byw neu'n gweithio mewn gwlad y tu allan i'r AEE, neu'r Swistir.

I gael rhestr o wledydd yr AEE, gweler yr adran 'Rydych yn byw mewn gwlad Ewropeaidd arall' uchod. Ond os bydd eich plentyn yn aros yn y DU a bod rhywun arall yn dod yn gyfrifol amdano, efallai y bydd yr unigolyn hwnnw am hawlio Budd-dal Plant.

Sut i hawlio Budd-dal Plant

Er mwyn hawlio Budd-dal Plant bydd angen i chi lenwi ffurflen i wneud cais am Fudd-dal Plant. Bydd angen i chi anfon y ffurflen i'r Swyddfa Budd-dal Plant, ynghyd â thystysgrif geni neu fabwysiadu eich plentyn.

Gadael y DU i fynd dramor - sicrhau eich bod yn cael y taliadau Budd-dal Plant diweddaraf

Mynd dramor dros dro

Ystyr 'dros dro' yw nad ydych yn disgwyl bod dramor am fwy na 52 wythnos o'r adeg y byddwch yn gadael. Os byddwch yn mynd dramor dros dro, gallwch barhau i gael eich taliadau Budd-dal Plant:

  • am yr wyth wythnos gyntaf - waeth beth fo'r rheswm dros fynd dramor a pha wlad rydych yn mynd iddi
  • am y 12 wythnos gyntaf - os bydd angen i chi fynd i unrhyw le dramor am eich bod chi neu aelod o'ch teulu (er enghraifft partner, plentyn, brawd, chwaer neu nain neu daid) yn cael triniaeth am salwch, neu anabledd corfforol neu feddyliol
  • am y 12 wythnos gyntaf - os bydd yn rhaid i chi fynd i unrhyw le dramor am fod aelod o'ch teulu wedi marw

Bydd angen i chi fodloni'r rheolau cymhwyso arferol ar gyfer Budd-dal Plant. Er enghraifft, rhaid i'ch plentyn fod o dan 16 oed neu mewn addysg neu hyfforddiant sy'n gymwys ar gyfer Budd-dal Plant.

Rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant os byddwch yn mynd dramor dros dro am fwy nag wyth wythnos. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddefnyddio'r ddolen gyntaf isod, neu gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant.

Gweision y Goron - penodiadau tramor

Gallech barhau i gael eich taliadau Budd-dal Plant os ydych chi neu'ch partner yn un o weision y Goron sy'n cael ei anfon dramor. Gweision y Goron yw gweision sifil neu aelodau o luoedd arfog y DU sy'n cael eu hanfon dramor ac yn gweithio i'r llywodraeth dramor.

Bydd angen i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant os yw hynny'n berthnasol i chi. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddefnyddio'r ddolen gyntaf isod, neu gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant.

Mynd dramor yn barhaol

Ystyr 'yn barhaol' yw eich bod yn gadael y DU am byth, neu rydych yn disgwyl bod dramor am fwy na 52 wythnos pan fyddwch yn gadael.

Efallai y gallech barhau i gael eich taliadau Budd-dal Plant os ydych yn symud i wlad Ewropeaidd arall. Caiff y sefyllfaoedd lle mae hyn yn berthnasol eu hesbonio yn yr adrannau uchod.

Rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant os byddwch chi neu'ch partner yn mynd dramor yn barhaol. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddefnyddio'r ddolen gyntaf isod, neu gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU