Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-dal Plant – budd-daliadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael

Os ydych yn rhiant a'ch bod yn cael Budd-dal Plant, neu os ydych yn disgwyl babi, efallai y gallwch gael budd-daliadau eraill a help ariannol.

Credydau treth

Taliadau gan y llywodraeth i'ch helpu gyda'ch costau bob dydd yw credydau treth.

Bydd faint o gredydau treth a gewch yn dibynnu ar bethau fel:

  • faint o blant sy'n byw gyda chi
  • os ydych yn byw gyda rhywun fel cwpl
  • p'un a ydych yn gweithio - a faint o oriau rydych yn eu gweithio
  • os ydych yn talu am ofal plant
  • os oes gennych chi - neu unrhyw blentyn sy'n byw gyda chi - anabledd

Mae eich taliadau hefyd yn dibynnu ar eich incwm. Y lleiaf yw eich incwm, y mwyaf o gredyd treth y gallwch ei gael.

Nid oes rhaid i chi gael Budd-dal Plant i fod yn gymwys i gael credydau treth.

Y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Cyfrif cynilo di-dreth hirdymor ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011 yw'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Os cafodd eich plentyn ei eni rhwng y dyddiadau hyn, efallai ei fod yn gymwys i gael o leiaf £50 i agor cyfrif Cronfa Cynhaliaeth Plant. Nid yw plant a anwyd ar 3 Ionawr 2011 neu ar ôl hynny yn cael unrhyw daliadau.

Er mwyn bod yn gymwys, fel arfer mae angen i chi fod wedi cael Budd-dal Plant am o leiaf un diwrnod cyn 4 Ionawr 2011. Ceir rhai eithriadau, er enghraifft, os ydych yn cael un o fudd-daliadau teulu Ewrop neu os yw eich plentyn yng ngofal awdurdod lleol.

Prydau ysgol a chludiant am ddim

Gall eich plant gael prydau ysgol am ddim os ydych yn cael budd-dal yn seiliedig ar incwm (er enghraifft Cymhorthdal Incwm), neu Gredyd Treth Plant yn unig. Gallwch weithiau fod yn gymwys os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith hefyd.

Ond mae'n dibynnu ar yr incwm a ddefnyddiwyd i weithio allan eich credydau treth, a ble rydych yn byw yn y DU.

Gallai eich plentyn gael cludiant am ddim i'r ysgol, er enghraifft os ydych ar incwm isel. Ond mae'n bwysig gwybod bod y rheolau'n wahanol yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU.

Mae'n werth holi eich awdurdod lleol am y rheolau yn eich ardal, neu'r Bwrdd Addysg a Llyfrgelloedd yng Ngogledd Iwerddon.

Tâl Mamolaeth Statudol

I'ch helpu i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith cyn ac ar ôl i'ch plentyn gael ei eni, gallech gael Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) gan eich cyflogwr.

Gallwch gael SMP os:

  • ydych wedi gweithio i’r un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn y pymthegfed wythnos cyn y disgwylir i’ch babi gael ei eni
  • oes gennych enillion wythnosol cyfartalog sydd o leiaf gymaint â'r Terfyn Enillion Isaf ar gyfer Yswiriant Gwladol

Nid oes rhaid i chi gael Budd-dal Plant i gael SMP.

Lwfans Mamolaeth

Gallech fod yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth os ydych wedi bod yn ennill £30 yr wythnos neu fwy ar gyfartaledd a bod un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi eich cyflogi, ond ni allwch gael Tâl Mamolaeth Statudol
  • rydych yn ddi-waith ond wedi eich cyflogi neu wedi bod yn hunangyflogedig cyn ac yn ystod eich beichiogrwydd
  • rydych yn hunangyflogedig ac rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu mae gennych dystysgrif Eithrio Enillion Isel

Nid oes rhaid i chi gael Budd-dal Plant i fod yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth.

Help gyda chostau iechyd

Mae'r rhan fwyaf o driniaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) am ddim - gan gynnwys triniaeth y Gwasanaeth Iechyd (GI) yng Ngogledd Iwerddon. Gellir codi tâl am rai pethau. Mae hyn weithiau'n dibynnu ar ble rydych yn byw. Er enghraifft, mae presgripsiynau’r GIG/GI am ddim yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Os codir tâl am eich triniaeth a'ch bod ar incwm isel, gallech gael help, gan gynnwys:

  • presgripsiynau, wigiau a chymhorthion ffabrig y GIG/GI am ddim - os nad ydynt eisoes am ddim
  • triniaeth ddeintyddol a phrofion llygaid am ddim
  • talebau tuag at gost sbectol neu lensys cyffwrdd
  • help gyda chostau teithio i gael rhai triniaeth y GIG/GI

Nid oes rhaid i chi gael Budd-dal Plant i gael yr help hwn, ond mae amodau eraill yn berthnasol.

Rydych yn cael credydau treth

Os ydych yn cael credydau treth am eich bod ar incwm isel, gallech gael help gyda'ch costau iechyd. Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael Tystysgrif Eithrio Credyd Treth yn awtomatig drwy'r post. Gallwch gael mwy o wybodaeth am Dystysgrifau Eithrio Credyd Treth gan y Swyddfa Eithrio Credyd Treth drwy ffonio 0845 609 9299. Os ydych yn defnyddio ffôn testun, deialwch 18001 cyn y rhif hwn er mwyn defnyddio'r gwasanaeth Text Relay.

Rydych yn cael budd-dal yn seiliedig ar incwm

Gallwch gael help gyda chostau iechyd os ydych yn cael budd-dal yn seiliedig ar incwm er enghraifft: Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o'ch budd-dal.

Er mwyn hawlio'r help hwn, llenwch gefn ffurflen eich presgripsiwn neu rhowch wybod i'ch deintydd neu optegydd pan fyddwch yn mynd i apwyntiad. Er mwyn hawlio help ar gyfer costau teithio i driniaeth y GIG/GI, neu ar gyfer wigiau a chymhorthion ffabrig, rhowch wybod i'r ysbyty a dangoswch dystiolaeth o'ch budd-dal.

Rydych ar incwm isel ond nid ydych yn cael credydau treth - na budd-daliadau yn seiliedig ar incwm

Efallai eich bod ar incwm isel ond nad ydych yn cael credydau treth na budd-daliadau yn seiliedig ar incwm. Os felly, efallai y gallwch gael help gyda'ch costau iechyd o hyd o dan un o'r cynlluniau incwm isel.

Cymhorthdal Incwm

Os na allwch weithio'n llawn amser ac nad oes gennych ddigon o arian i'ch cynnal, efallai y gallwch gael Cymhorthdal Incwm.

Mae p'un a allwch gael Cymhorthdal Incwm - a faint ohono y gallwch ei gael - yn dibynnu ar eich sefyllfa, eich incwm a'ch cynilion.

Nid oes rhaid i chi gael Budd-dal Plant i fod yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm.

Cychwyn Iach

Gyda'r cynllun Cychwyn Iach, gallwch gael:

  • cwponau i'w cyfnewid am fitaminau am ddim
  • talebau wythnosol i brynu llaeth, ffrwythau a llysiau ffres wedi'u rhewi, neu laeth powdwr i fabanod

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol, neu os ydych yn cael Credyd Treth Plant a'ch bod ar incwm isel, gallech fod yn gymwys ar gyfer y cynllun. Bydd angen i chi fod yn feichiog ers o leiaf 10 wythnos, neu fod gennych blentyn o dan bedair oed.

Os ydych yn feichiog a'ch bod o dan 18 oed, byddwch yn gymwys yn awtomatig p'un a ydych yn cael budd-daliadau eraill neu Gredyd Treth ai peidio.

Ni fyddwch yn gymwys os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith, oni bai mai dim ond yr estyniad pedair wythnos o'ch taliadau ydyw - gelwir hyn yn daliad estynedig yn aml. Gallech gael taliad estynedig os nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach - er enghraifft os ydych wedi rhoi'r gorau i weithio neu'n gweithio llai o oriau.

I hawlio talebau Cychwyn Iach a chwponau fitaminau, rhaid i chi lenwi ffurflen gais. Gallwch gael ffurflen ar wefan Cychwyn Iach, neu drwy ffonio'r llinell gymorth ar 0845 607 6823.

Nid oes rhaid i chi gael Budd-dal Plant i fod yn gymwys i gael Cychwyn Iach.

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Os ydych ar incwm isel ac yn cael budd-daliadau penodol neu gredydau treth, gallech gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn. Taliad untro yw hwn i'ch helpu gyda chost mamolaeth ac eitemau babanod. Mae'r grant yn ddi-dreth ac nid oes rhaid i chi ei ad-dalu.

£500 yw'r grant a delir fel cyfandaliad. Os ydych wedi cael gefeilliaid neu dripledi er enghraifft, gallwch gael £500 ar gyfer pob babi. Ni allwch gael y grant fel arfer os oes gennych eisoes blant eraill o dan 16 oed, ond mae eithriadau i hyn.

Gallwch fod yn gymwys o hyd os nad chi yw mam y babi neu'r fam sy'n disgwyl y babi - er enghraifft os ydych yn mabwysiadu baban.

Mae'n bwysig gwybod bod terfynau amser o ran hawlio'r grant.

Lwfans Rhiant Gweddw

Gallwch fod yn gymwys i gael y Lwfans Rhiant Gweddw os ydych yn magu plentyn neu berson ifanc a bod eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn marw. Os ydych yn gymwys, gallwch gael y taliad wythnosol hwn ni waeth beth yw eich incwm.

Ond gallai effeithio ar rai o'r budd-daliadau eraill a gewch.

Lwfans Gwarcheidwad

Os bydd dau riant plentyn yn marw (neu weithiau, dim ond un), efallai y gall ei warcheidwad gael Lwfans Gwarcheidwad. Taliad wythnosol di-dreth yw hwn i helpu gyda chostau magu plentyn.

Nid oes rhaid mai chi yw gwarcheidwad cyfreithiol y plentyn, ond mae angen i chi fod yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU