Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Lle bynnag mae eich plentyn yn mynd - i'r ysgol, i'r coleg neu i'r brifysgol, mae cymorth ar gael gyda chostau eu haddysg.
Mae gan bob plentyn tair a phedair oed yn Lloegr yr hawl i gael addysg gynnar ran amser am ddim.
Os ydych chi'n rhiant sy'n gweithio, yn unig riant neu'n fyfyriwr, mae'n bosibl bod gennych yr hawl i gael help ychwanegol gyda chost addysg gynnar a gofal plant.
Mae gan bob plentyn yn Lloegr rhwng pump ac 16 oed hawl i gael lle am ddim yn un o ysgolion y wladwriaeth.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai bod cymorth ychwanegol ar gael gyda chostau prydau ysgol, gwisg ysgol neu gludiant.
Cinio ysgol a llaeth am ddim
Os ydych chi'n derbyn cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu fudd-daliadau penodol eraill, gallai eich plentyn fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
I gael gwybod mwy a gwneud cais ar-lein, dilynwch y ddolen isod.
Cymorth gyda chostau gwisg ysgol
Gall teuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau neu sydd ar incwm isel fod â'r hawl i dderbyn grantiau gwisg ysgol neu dalebau gan eu hawdurdodau lleol i'w helpu gyda chostau gwisg ysgol.
I gael gwybod mwy a gwneud cais ar-lein, dilynwch y ddolen isod.
Cludiant ysgol am ddim
Os yw'r ysgol addas agosaf ar gyfer eich plentyn yn bellach na phellter pendant, rhaid i'ch awdurdod lleol ddarparu cludiant am ddim.
I gael gwybod mwy a gwneud cais ar-lein, dilynwch y ddolen isod.
Os bydd eich plentyn yn dymuno aros yn yr ysgol, yn y coleg neu ddal ati â hyfforddiant ar ôl TGAU, gallent fod yn gymwys i gael y Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Taliad wythnosol o hyd at £30 yr wythnos, yn dibynnu ar incwm y cartref, yw'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Fe'i telir yn uniongyrchol i gyfrif banc eich plentyn.
Os byddwch yn hawlio budd-daliadau, ni fydd y taliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn effeithio arnynt.
Dilynwch y ddolen isod i ddysgu mwy am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg a chanfod a yw eich plentyn yn gymwys.
Mae mathau eraill o gymorth ariannol i fyfyrwyr ifanc, yn cynnwys nawdd arbennig ar gyfer cyrsiau dawns a drama, cymorth â chostau cludiant, a chymorth i blant y mae angen gofal plant arnynt, neu blant sy'n astudio dramor.
Cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybod am y cymorth sydd ar gael i blant sy'n aros ym maes addysg ar ôl 16.
Os yw eich plentyn rhwng 16 a 19 oed ac yn dal mewn addysg amser llawn neu ar raglen gyflogaeth yn y gwaith, gallwch barhau i hawlio Budd-dal Plant, Credydau Treth Plant ac unrhyw fudd-daliadau eraill yr ydych yn eu derbyn ar gyfer dibynyddion.
Os yw cwrs eich plentyn yn parhau ar ôl iddynt gyrraedd 19 oed, gallwch barhau i gael Budd-dâl Plant a Chredydau Treth Plant. Ond unwaith y byddant yn gorffen eu cwrs neu'n cyrraedd 20 oed, ni fyddwch yn derbyn y rhain nac unrhyw fudd-daliadau dibynyddion eraill rhagor.
Mae cymorth ar gyfer myfyrwyr mewn prifysgolion neu addysg uwch yn cynnwys benthyciadau myfyrwyr, grantiau a bwrsarïau.
I gael gwybod mwy a gwneud cais ar-lein, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi'n rhiant, yn ŵr/gwraig neu'n bartner (a elwir weithiau'n 'noddwr') i fyfyriwr/wraig, efallai y bydd disgwyl i chi gyfrannu tuag at eu costau tra'u bod yn y brifysgol neu goleg.
Cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybod pa ran y bydd yn rhaid i chi ei chwarae pan fydd eich mab neu eich merch yn mynd i addysg uwch.