Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth ariannol i unig rieni

Os ydych chi'n magu plentyn a chithau'n unig riant ceir ystod eang o gymorth ariannol y gallech fod â hawl iddo. Mae hyn yn berthnasol p'un ai a ydych yn gweithio, yn chwilio am waith neu'n methu gweithio. Yma cewch wybod beth y mae gennych hawl iddo.

Cynhaliaeth Plant

Mae Cynhaliaeth Plant yn gymorth ariannol rheolaidd. Bydd yn cael ei dalu gan y rhiant nad yw'n byw gyda'r teulu i'r rhiant â gofal er mwyn helpu gyda chostau byw bob dydd y plentyn. Gellir ei drefnu drwy'r Asiantaeth Cynnal Plant neu drwy drefniant preifat gyda'r rhiant arall. Nid yw cyfrifoldeb ariannol rhiant dros ei blentyn yn dod i ben os bydd y berthynas gyda'r rhiant arall yn dod i ben.

Os ydych chi (neu'ch partner presennol, yr ydych yn byw gydag ef/hi) yn hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm, ni fydd unrhyw daliadau cynhaliaeth a gewch yn effeithio ar y budd-daliadau hynny.

Taliadau cynhaliaeth os yw'ch cyn bartner yn byw dramor

Mae gan y DU drefniadau gyda dros 100 o wledydd a thiriogaethau, sy'n golygu y gall unigolyn sy'n byw mewn un wlad hawlio taliadau cynhaliaeth gan gyn bartner sy'n byw mewn gwlad arall. Gorfodaeth Ddwyffordd gyda Gorchmynion Cynhaliaeth – neu REMO – yw'r enw a ddefnyddir yn y DU ar gyfer y broses hon. Y llysoedd sy'n delio â hawliadau REMO.

Dilynwch y ddolen isod i weld rhestr o'r holl wledydd y mae gan y DU drefniant REMO â hwy.

Gwneud hawliad yn erbyn rhywun dramor

Os oes gennych eisoes orchymyn llys ar gyfer taliadau cynhaliaeth ers pan oedd eich cyn bartner yn byw yn y DU, dylech gysylltu â'r llys a wnaeth y gorchymyn. Mae'n bosib y bydd y broses REMO yn ceisio gorfodi'r gorchymyn llys sy'n bodoli eisoes yn y wlad arall. Defnyddiwch y ddolen CourtFinder isod i ddod o hyd i fanylion cyswllt llys. Bydd staff y llys yn gallu egluro'r broses y bydd angen i chi ei dilyn.

Os nad oes gennych orchymyn llys ar gyfer cynhaliaeth (os mai dim ond asesiad gan yr Asiantaeth Cynnal Plant sydd gennych chi, er enghraifft), dylech gysylltu â naill ai:

  • eich llys ynadon lleol
  • llys achosion teulu

Gallant eich helpu i wneud cais am gynhaliaeth gan gyn bartner sy'n byw dramor gan na ellir gorfodi asesiadau'r Asiantaeth Cynnal Plant dramor. Defnyddiwch y ddolen CourtFinder isod i ddod o hyd i fanylion cyswllt eich llys lleol.

Lwfans Ceisio Gwaith

Os ydych chi'n gallu chwilio am waith â thâl amser llawn neu ran-amser fe allech chi gael y Lwfans Ceisio Gwaith. Eich amgylchiadau fydd yn penderfynu a fyddwch chi'n gymwys ai peidio a faint gewch chi. Cliciwch y ddolen isod i weld a ydych yn gymwys.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd, mae'n bosib y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cynnig cymorth personol ac ariannol i chi er mwyn i chi allu gweithio os yw'n bosib i chi wneud hynny. Os na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anabledd, cewch elfen gefnogaeth yn ychwanegol at y gyfradd sylfaenol.

Cymhorthdal Incwm

Os nad oes modd i chi weithio'n llawn amser ac nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno, mae'n bosib y gallwch chi gael budd-dal Cymhorthdal Incwm. Eich amgylchiadau fydd yn penderfynu a fyddwch chi'n gymwys ai peidio a faint gewch chi. I gael gwybod a ydych yn gymwys ac i wneud cais ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod.

Credyd Mewn Gwaith

Taliad di-dreth o £40 i unig rieni (£60 i rieni yn Llundain) yw'r Credyd Mewn Gwaith. Fe'i telir i unig rieni sydd wedi hawlio rhai budd-daliadau am flwyddyn neu fwy ac sy'n mynd yn ôl i weithio am o leiaf 16 awr yr wythnos. Telir Credyd Mewn Gwaith am 52 wythnos, a hynny ar ben budd-daliadau gwaith eraill. I gael gwybod mwy, holwch rywun yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Costau gofal plant

Gall y Ganolfan Byd Gwaith hefyd helpu gyda chostau gofal plant ar yr amod y bydd eich plentyn yn cael ei warchod gan ddarparwr gofal plant cofrestredig a'ch bod yn gwneud rhywbeth sy'n gysylltiedig â'r yrfa yr ydych wedi'i dewis. Ar ôl i chi ddechrau gweithio, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith, a allai eich galluogi i hawlio'n ôl hyd at 70 y cant o'ch costau gofal plant cymwys.

Grant Swydd

Mae'r Grant Swydd yn daliad cysylltiedig â gwaith y gallech ei gael pan fyddwch yn symud yn syth o fudd-dal i waith sy'n cynnwys o leiaf 16 awr yr wythnos. Mae'n bosib y byddwch chi hefyd yn gymwys os ydych chi'n gweithio rhagor o oriau mewn swydd bresennol neu os oes gennych gyfuniad o swyddi. Mae'n rhaid eich bod yn disgwyl i'r gwaith bara pum wythnos o leiaf, ac mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Ganolfan Byd Gwaith o fewn 21 diwrnod i'r dyddiad dechrau. Mae gofyn eich bod hefyd yn hawlio un o'r budd-daliadau canlynol, neu gyfuniad ohonynt, am o leiaf 26 wythnos yn union cyn mynd i weithio:

  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • taliadau Lwfans y Fargen Newydd/Canolfan Byd Gwaith lle mae'r lwfans yn seiliedig ar y Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Analluogrwydd neu'r Lwfans Anabledd Difrifol
  • taliadau Ardal Gyflogaeth lle mae'r lwfans yn seiliedig ar Lwfans Ceisio Gwaith

Mae'n bosib hefyd y cewch chi Grant Swydd os bydd eich partner yn dechrau gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos, ac o ganlyniad i hyn bod eich budd-dal yn dod i ben.

Chwilio am waith, gofal plant a chyngor ariannol

Gall y Ganolfan Byd Gwaith roi cyngor i chi ynghylch chwilio am swydd, a rhoi gwybodaeth i chi am gymorth ariannol a gofal plant er mwyn eich helpu naill ai i gael swydd neu i gadw eich swydd.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU