Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth ariannol ar gyfer rhieni mewn addysg

Os ydych chi'n fyfyriwr â phlant, neu'n rhiant sy'n dymuno mynd yn ôl i fyd addysg, mae digon o gymorth ariannol ar gael i chi.

Cymorth ariannol i rieni ifanc

Cymorth gyda chostau gofal plant: Gofal i Ddysgu

Os ydych chi dan 20 oed, gall y cynllun Gofal i Ddysgu (Care to Learn) dalu hyd at £160 am bob plentyn bob wythnos (£175 yn Llundain) ar gyfer gofal plant a chostau teithio cysylltiedig tra'ch bod chi mewn addysg.

Gallwch hawlio arian Gofal i Ddysgu os ydych chi dan 20 oed ac os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych chi'n dechrau ar gwrs dysgu neu hyfforddi mewn ysgol neu goleg, neu fel hyfforddai gyda darparwr dysgu yn y gwaith sy'n derbyn rhywfaint o arian cyhoeddus
  • rydych chi'n gofalu am eich plentyn eich hun (mae tadau hefyd yn gymwys os mai nhw yw'r prif ofalwr)
  • rydych chi'n byw yn Lloegr
  • rydych chi'n defnyddio darparwr gofal plant a gofrestrwyd gydag Ofsted

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am Gofal i Ddysgu.

Y Lwfans Cynhaliaeth Addysg a mathau eraill o gymorth ariannol i bobl ifanc

Taliad o £10, £20 neu £30 yr wythnos yw'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gyda'r swm yn dibynnu ar incwm eich cartref. Ei bwrpas yw eich helpu gyda chostau o ddydd i ddydd pan fyddwch yn dal ati i ddysgu ar ôl cyrraedd 16 oed. Fe'i telir i'ch cyfrif banc.

Efallai y gallwch hefyd gael cymorth gyda chostau cludiant i fynd i'r coleg neu'r chweched dosbarth. Mae cymorth ychwanegol ar gael os ydych chi'n astudio oddi cartref neu'n cael trafferth wrth ariannu costau'ch cwrs.

Cliciwch ar y ddolen 'Arian i ddysgu' isod i gael mwy o fanylion. Fe welwch hefyd wybodaeth am y Grantiau Dawns a Drama, sef ysgoloriaethau cenedlaethol ar gyfer y myfyrwyr mwyaf talentog ym maes dawns a drama.

Am fwy o wybodaeth am eich opsiynau ac i drafod beth yw'r gorau ar eich cyfer chi, gallwch hefyd sgwrsio â Chynghorydd Gyrfa:

  • Cyngor ar yrfaoedd: 0800 100 900 (rhadffôn)

Cymorth ariannol i oedolion sy'n dysgu

Cymorth gyda chostau gofal plant

Os ydych chi'n 20 oed neu'n hŷn efallai y cewch gymorth gyda chostau gofal plant tra'ch bod yn y coleg neu'r chweched dosbarth, efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gyda chostau gofal plant o un o nifer o ffynonellau. Cliciwch ar y botwm isod i gael gwybod mwy.

Mathau eraill o gymorth ariannol i oedolion sy'n dysgu

Mae mathau eraill o gymorth ariannol sydd ar gael i ddysgwyr dros 18 oed yn cynnwys y Grant Dysgu i Oedolion a'r Benthyciadau Datblygu Gyrfa. Gweler 'Cymorth gyda chostau dysgu' am fwy o fanylion.

I gael cyngor am eich holl opsiynau dysgu ac i gael gwybod mwy am gymorth ariannol, ewch i wefan Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol. Gallwch hefyd siarad â chynghorydd ar 0800 100 900 (rhadffôn) neu drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb gyda chynghorydd.

Cymorth gyda chostau prifysgol neu gostau addysg uwch

Grant Gofal Plant a Lwfans Dysgu i Rieni

Os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn gyda phlant, gallwch fod â'r hawl i dderbyn cymorth ychwanegol drwy'r Grant Gofal Plant, y Lwfans Dysgu i Rieni neu gredydau treth. Gall myfyrwyr amser llawn sydd ag oedolyn dibynnol fod â'r hawl i dderbyn cymorth ychwanegol gan y Grant Oedolion Dibynnol.

Benthyciadau myfyrwyr, grantiau a mathau eraill o gymorth

Telir cymorth ychwanegol i fyfyrwyr a chanddynt blant ar ben y Benthyciadau myfyrwyr, y grantiau a'r bwrsarïau a allai fod ar gael i bob myfyriwr amser llawn.

I edrych yn gyffredinol ar gymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr mewn addysg uwch, dilynwch y dolenni isod.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU