Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth ariannol i deuluoedd sydd ar incwm isel

Os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael cymorth ariannol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn (y Gronfa Gymdeithasol)

Taliad untro o £500 yw'r Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn, ac nid oes raid talu'r arian yn ôl. Ei bwrpas yw helpu tuag at gostau eitemau mamolaeth ac eitemau i fabanod.

Fe allech fod yn gymwys os ydych ar incwm isel ac yn cael budd-daliadau penodol neu gredydau treth.

Taliad Angladd (y Gronfa Gymdeithasol)

Gall Taliad Angladd helpu gyda chostau hanfodol angladd yr ydych chi neu'ch partner yn gyfrifol am ei drefnu.

Fe allech fod yn gymwys os ydych ar incwm isel, ac mae chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau penodol neu gredydau treth.

Fe ellir hawlio'r arian yn ôl o unrhyw arian sydd ar gael yn ystad yr ymadawedig.

Gofynnwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol am ffurflen hawlio a mwy o wybodaeth.

Grant Gofal yn y Gymuned (y Gronfa Gymdeithasol)

Gall Grant Gofal yn y Gymuned eich helpu gyda’r gost o fyw’n annibynnol yn y gymuned, neu i hwyluso pwysau eithriadol arnoch chi a’ch teulu. Gall y grant fod o £30 hyd at £1,000 ac nid oes raid i chi ei dalu’n ôl.

Fe allech fod yn gymwys, er enghraifft, os ydych yn gadael llety lle rydych yn derbyn gofal i fyw’n annibynnol. Neu efallai bod angen cymorth arnoch i aros yn eich cartref eich hun a pheidio â mynd i’r ysbyty neu symud i lety lle rydych yn derbyn gofal.

Fel rheol, mae angen i chi fod yn cael budd-daliadau penodol, neu’n disgwyl cael budd-daliadau penodol.

Gofynnwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol am ffurflen hawlio ac am fwy o wybodaeth.

Benthyciadau Cyllidebu (y Gronfa Gymdeithasol)

Mae benthyciadau cyllidebu yn ddi-log (cyfanswm o £30 hyd at £1,000) am gost pethau ac eithrio costau rheolaidd. Gall benthyciad cyllidebu eich helpu i dalu am bethau megis dodrefn, offer tŷ, dillad, neu bethau i'ch helpu i gychwyn neu chwilio am waith.

I fod yn gymwys mae gofyn eich bod chi neu'ch partner wedi bod yn cael budd-daliadau penodol am o leiaf 26 wythnos.

Gofynnwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol am ffurflen hawlio a mwy o wybodaeth.

Benthyciadau Argyfwng (y Gronfa Gymdeithasol)

Mae Benthyciadau Argyfwng yn ddi-log a gallant helpu os yw eich iechyd a'ch diogelwch chi neu'ch teulu mewn perygl difrifol yn dilyn argyfwng neu drychineb. Nid yw'n ofynnol eich bod yn cael unrhyw fudd-daliadau ond mae'n rhaid i chi fod dros 16 oed. Mae eich gobaith o gael Benthyciad Argyfwng yn dibynu ar eich amgylchiadau penodol.

Gofynnwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol am ffurflen hawlio a mwy o wybodaeth.

Credydau treth

Taliadau gan y llywodraeth yw credydau treth. Os ydych chi'n gyfrifol am o leiaf un plentyn neu berson ifanc sydd fel arfer yn byw gyda chi, mae'n bosib eich bod yn gymwys i gael Credyd Treth Plant. Os ydych chi’n gweithio, ond ar gyflog isel, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith.

Mae faint o gredydau treth a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’ch incwm. Po isaf yw'ch incwm, y fwyaf o gredydau treth y gallwch eu cael.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU