Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael cymorth gyda chostau cyn oed ysgol

Mae gan bob plentyn tair a phedair oed yn Lloegr hawl i gael mynd i leoliad dysgu cynnar am ddim. Os ydych chi'n rhiant sy'n gweithio, yn rhiant unigol neu'n fyfyriwr, mae'n bosib bod gennych hawl i gael help ychwanegol gyda chostau dysgu cynnar a gofal plant.

Lleoliadau dysgu cynnar i blant tair a phedair oed

Mae gan bob plentyn tair a phedair oed yr hawl i 15 awr o addysg meithrin am ddim bob wythnos am 38 wythnos o'r flwyddyn. Mae hyn yn gymwys nes ei fod yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol (y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn bump). Gall addysg meithrin am ddim cael eu cynnal mewn meithrinfeydd, cylch chwarae, sefydliadau cyn ysgol neu gyda’u gwarchodwr plant.

Am fwy o wybodaeth ynghylch addysg meithrin am ddim yn eich ardal, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ar yr ystod o wasanaethau plant, teuluoedd a phobl ifanc sydd ar gael yn eu hardal.

Help i rieni sy'n gweithio

Os oes gennych blentyn, efallai y gallwch gael Credyd Treth Plant i helpu gyda chost gofalu amdanynt. Os ydych chi ar incwm isel, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith. Gallai hyn olygu eich bod chi’n cael hyd at 70 y cant o’ch costau gofal plant yn ôl – hyd at derfynau penodol. £122.50 yr wythnos ar gyfer un plentyn a £210 yr wythnos ar gyfer dau blentyn neu fwy yw’r terfynau. Rhaid i chi ddefnyddio darparwr gofal plant cofrestredig neu gymeradwy.

Help i rieni unigol

Gall rhieni unigol nad ydynt yn gweithio gael help drwy raglen gan y llywodraeth a elwir yn Fargen Newydd i Rieni Unigol. Cewch fwy o wybodaeth gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Help i fyfyrwyr

Os ydych chi mewn addysg bellach efallai y cewch gymorth ariannol ychwanegol. Gallai hwn ddod drwy'r Cynllun Gofal i Ddysgu (i fyfyrwyr dan 20 oed) neu drwy Gronfeydd Cefnogi Dysgwyr. Hefyd, ceir cynllun sy'n darparu cymorth gyda chostau gofal plant i fyfyrwyr chweched dosbarth 20 oed neu hŷn.

Fel myfyriwr addysg uwch, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ychwanegol ar ben unrhyw grantiau neu fenthyciadau myfyrwyr safonol a gewch. Gallai hyn gynnwys bwrsari, Credyd Treth Plant, Grant Gofal Plant neu gymorth gan y Gronfa Mynediad at Ddysgu.

Gallai arian fod ar gael hefyd drwy elusennau neu ymddiriedolaethau addysgol. Gofynnwch am gyngor gan eich cynghorydd lles myfyrwyr neu'ch awdurdod lleol.

Help gan gyflogwyr

Mae rhai cyflogwyr yn cynnig talebau neu lwfans gofal plant fel rhan o gynllun 'aberthu cyflog'. Mae'n werth i chi holi'ch rheolwr llinell, neu'ch adran bersonél neu adnoddau dynol a oes gan eich cyflogwr gynllun o'r fath.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU