Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yn Lloegr, efallai y bydd eich plentyn yn gymwys i gael prydau neu laeth am ddim, neu y caiff ffrwythau a llysiau am ddim yn yr ysgol. Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cinio am ddim i blant cymwys, prydau y telir amdanynt os gofynnir am hynny, a goruchwyliaeth a chyfleusterau da er mwyn i blant fwyta'n ddiogel.
Rhaid i'r holl fwyd a ddarperir gan awdurdodau lleol yn Lloegr gyrraedd y safonau maeth cenedlaethol. Mae'r rhain yn sicrhau bod plant yn derbyn deiet iach a chytbwys. Mae'r canlynol yn ofynnol dan y safonau, a gyflwynwyd ym mis Medi 2006:
Hefyd, ceir rheolyddion ar y bwydydd canlynol:
Does dim rhaid i rieni yn Lloegr dalu am brydau ysgol os ydyn nhw'n derbyn unrhyw un o'r canlynol:
O 6 Ebrill 2012 newidiodd y rheolau ar gyfer Credyd Treth Gwaith i gyplau, ac efallai y bydd rhai teuluoedd wedi colli eu hawl i Gredyd Treth Gwaith oherwydd y mae’r oriau y bydd yn rhaid i gwpl weithio er mwyn bod yn gymwys wedi codi. Efallai y bydd y teuluoedd hyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os ydynt yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf uchod bellach.
Ewch at eich ysgol yn gyntaf i gael gwybod a oes arnoch angen gwneud cais drwy’r ysgol neu eich awdurdod lleol.
I'ch helpu i baratoi pecyn bwyd iach a chytbwys i'ch plentyn, gallwch ddod o hyd i gynghorion ac awgrymiadau gan NHS Choices, Change4Life a’r Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol.
Gall awdurdodau lleol ac ysgolion benderfynu p’un ai i ddarparu llaeth ai peidio. Os byddant yn gwneud hynny, rhaid iddo fod am ddim i blant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Dylai pob plentyn o dan bump sydd mewn gofal dydd am ddwy awr y dydd neu fwy gael diod o laeth am ddim. Mae hyn yn cynnwys rhai plant pedair oed mewn dosbarthiadau derbyn yn ysgolion cynradd. I blant o dan flwydd oed, rhoddir hyn fel fformiwla babanod.
Mae’r Cynllun Ffrwythau a Llysiau mewn Ysgolion yn rhoi hawl i blant rhwng pedair a chwech oed gael ffrwyth neu lysieuyn am ddim bob dydd, os yw eu hysgol wedi ymuno â’r cynllun.