Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwisg ysgol

Corff llywodraethu pob ysgol fydd yn penderfynu beth yw polisi'r ysgol o ran gwisg neu ffordd o wisgo. Os oes gennych unrhyw gŵyn am y polisi gwisg ysgol neu ffordd o wisgo, siaradwch â chorff llywodraethu'r ysgol.

Cost gwisg ysgol

Wrth benderfynu ar bolisi gwisg ysgol, disgwylir i bob ysgol roi blaenoriaeth uchel i ystyriaethau cost. Ni ddylai unrhyw wisg ysgol fod mor ddrud nes bod disgyblion neu eu teuluoedd yn teimlo'n wahanol.

Ni ddylai cost gwisg ysgol atal rhieni rhag anfon eu plentyn i'w dewis ysgol. Dylai cyrff llywodraethu ymgynghori â rhieni ynghylch eu barn a'u pryderon cyn newid polisi gwisg ysgol neu benderfynu ar bolisi newydd.

Yn Lloegr, mae rhai awdurdodau lleol yn darparu grantiau dewisol i'ch helpu i brynu gwisg ysgol. Mae'r awdurdodau lleol sy'n cynnig y grantiau hyn yn gosod eu meini prawf eu hunain ar gyfer pendefynu pwy sy'n gymwys.

Gall ysgolion helpu i gyfyngu prisiau gwisg ysgol drwy ddewis lliwiau penodol yn hytrach na gwisg ysgol lawn neu drwy sicrhau bod y wisg a ddewisir ar gael mewn siopau ar y stryd fawr yn hytrach na darparwyr unigol.

Gwneud cais am gymorth gyda chostau dillad ysgol

Gall teuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau neu sydd ar incwm isel fod â'r hawl i dderbyn grantiau gwisg ysgol neu dalebau gan eu hawdurdodau lleol i'w helpu gyda chostau gwisg ysgol.

I gael gwybod mwy gan wefan eich awdurdod lleol ynghylch gwneud cais i gael help gyda chostau gwisg ysgol, dewiswch y ddolen a theipiwch eich cod post a manylion lle'r ydych chi'n byw.

Addysg gorfforol (AG)

Bydd gwisg ysgol yn aml yn cynnwys y dillad sydd eu hangen ar gyfer gwersi AG. Dylai ysgolion ddewis dillad Addysg Gorfforol sy'n ymarferol, yn gyfforddus ac yn addas ar gyfer y gweithgarwch dan sylw. Rhaid hefyd ystyried materion gwahaniaethu ar sail rhyw a hil. Fel sy'n wir am y wisg ysgol ei hun, disgwylir i gyrff llywodraethu ysgolion ystyried y gost i rieni wrth benderfynu ar bolisi dillad AG.

Torri polisi gwisg ysgol

Os bydd eich plentyn yn torri rheolau gwisg ysgol, mae'n bosib y caiff gosb gan y pennaeth. Dim ond os bydd y disgybl wedi diystyru polisi gwisg yr ysgol yn gyson ac mewn modd herfeiddiol yr ystyrir bod cosbau mwy difrifol megis gwahardd neu atal o'r ysgol yn dderbyniol.

Dylai ysgolion fod yn ystyriol os nad yw disgybl yn cadw at ofynion y polisi gwisg ysgol, a cheisio cael gwybod pam fod hyn yn digwydd. Os yw teulu'n wynebu anawsterau ariannol, dylai'r ysgol ganiatáu ar gyfer hyn a rhoi amser i'r rhieni brynu'r eitemau cywir.

Ni ddylai disgyblion orfod teimlo'n anghyfforddus neu fod rhywun yn gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd na all eu rhieni roi'r wisg ysgol iawn iddyn nhw.

Hawliau dynol a materion gwrth-wahaniaethu

Er bod rhaid i ddisgyblion lynu wrth bolisi gwisg ysgol, dylai ysgolion ddangos agwedd ystyriol tuag at anghenion gwahanol ddiwylliannau, hiliau a chrefyddau. Rhaid i ysgolion ymddwyn mewn modd rhesymol a chall bob amser wrth iddynt ystyried gofynion crefyddol, ar yr amod nad yw'r gofynion hynny yn fygythiad i ddiogelwch a dysgu, nac yn peryglu lles cymuned yr ysgol.

Rhaid i ysgolion beidio â gwahaniaethu ar sail rhyw/rhywedd, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu gred.

Teithio o'r cartref i'r ysgol

Dylai ysgolion fod yn ymwybodol bod angen iddynt annog plant i gerdded a beicio i'r ysgol. Dylai llywodraethwyr ysgolion ystyried hyn, ac os oes modd dylid cynnwys lliwiau golau a deunyddiau adlewyrchol fel rhan o'r wisg.

Am ragor o wybodaeth am gerdded a seiclo i'r ysgol yn ddiogel, edrychwch ar 'Cludiant ysgol'.

Canllawiau newydd ar bolisïau gwisg ysgol

Ym mis Hydref 2007, cyhoeddodd y llywodraeth ganllawiau newydd i ysgolion ar wisg ysgol a pholisïau perthnasol. Mae'r canllawiau hyn yn darparu cyngor clir i ysgolion a chyrff llywodraethu er mwyn eu helpu i lunio polisïau gwisg ysgol teg, rhesymol a chost-effeithiol. Gallwch weld y canllawiau newydd drwy glicio’r ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU