Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ysgolion gwyrdd: beth y gall rhieni ei wneud

Fel rhiant, gallwch helpu i leihau Fel rhiant, gallwch helpu i leihau effaith diwrnod ysgol ar yr amgylchedd. Un peth uniongyrchol y gallwch ei wneud yw meddwl sut mae'ch plentyn yn mynd i'r ysgol. Efallai y gallech hefyd ddylanwadu ar bolisi'r ysgol drwy chwarae rhan weithredol yn yr ysgol - drwy fod yn rhiant-lywodraethwr er enghraifft.

Mynd i'r ysgol

Un o'r prif feysydd lle gallwch gael effaith yw dewis sut mae eich plentyn yn mynd i'r ysgol. Mae teithio mewn car er diben personol yn ffynhonnell sy'n gollwng llawer iawn o garbon, felly os gallwch ganfod ffyrdd eraill o gyrraedd yr ysgol bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dyma rai o'r pethau y gallech chi eu gwneud:

  • ceisiwch ddefnyddio dulliau mwy gwyrdd o deithio – beicio, cerdded neu drafnidiaeth gyhoeddus
  • penderfynwch ar un diwrnod (neu fwy) yr wythnos i fod yn ddiwrnod cerdded neu feicio i'r ysgol
  • ystyriwch helpu gyda gwasanaeth bws cerdded ar gyfer yr ysgol (cynllun cerdded i'r ysgol dan oruchwyliaeth)
  • awgrymwch wrth eich ysgol y dylai ddarparu siediau diogel i'w disgyblion gadw beiciau ynddynt, a'i bod yn cymryd camau i sicrhau y ceir llwybrau diogel i gyrraedd yr ysgol
  • os oes rhaid i chi deithio mewn car, ceisiwch ganfod a fyddai modd i chi rannu â chymydog neu ffrind

Bwyd a diod yn yr ysgol

Mae cynhyrchu, cludo a bwyta bwyd yn gyfrifol am bron i draean o'n heffaith ar newid yn yr hinsawdd. Gall dewisiadau ynghylch pecynnau bwyd, siopau amser egwyl a'r ffreutur helpu'r amgylchedd, ac yn aml gallant gynnig buddiannau ychwanegol i iechyd plant hefyd:

  • awgrymwch y dylid cadw a defnyddio cynnyrch ffres, tymhorol sydd ar gael yn lleol neu gynnyrch Masnach Deg yn y siop amser egwyl neu'r ffreutur
  • awgrymwch, neu cynigiwch, greu gardd ffrwythau a llysiau yn yr ysgol - gallai hyn gynnig llawer o gyfleoedd dysgu, a gellid cysylltu hyn hefyd â'r cwricwlwm

Lleihau gwastraff yn yr ysgol

Ceir nifer o gyfleoedd i leihau gwastraff yn yr ysgol. Er enghraifft, gallech annog yr ysgol i wneud y canlynol:

  • rhoi biniau ailgylchu yn yr ystafelloedd dosbarth ac annog disgyblion i ailgylchu
  • rhoi llai o fwydydd wedi'u pecynnu mewn bocsys bwyd er mwyn lleihau gwastraff
  • defnyddio dwy ochr dalennau papur er mwyn lleihau gwastraff
  • sefydlu cynllun i annog disgyblion i roi neu werthu hen werslyfrau i ddisgyblion eraill pan fyddant wedi gorffen â nhw
  • ystyried cael bin compost yn yr ysgol er mwyn lleihau gwastraff bwyd
  • trefnu ymweliad â safle tirlenwi neu safle ailgylchu lleol er mwyn i ddisgyblion weld beth sy'n digwydd i'w gwastraff

Arbed ynni yn yr ysgol

Dyma rai awgrymiadau ynghylch sut y gellid arbed ynni yn yr ysgol:

  • annog disgyblion i ddiffodd golau ac offer electronig ar ôl iddynt orffen eu defnyddio
  • diffodd monitorau cyfrifiaduron a pheiriannau argraffu yn hytrach na'u gadael yn y modd segur
  • ystyried defnyddio bylbiau golau rhad-ar-ynni yn yr ysgol, neu hyd yn oed ffynhonellau ynni amgen ar gyfer gwresogi, fel pŵer solar neu ynni'r gwynt

Ewch i wefan Generation Green i weld awgrymiadau a gweithgareddau hwyliog ynghylch sut i ddefnyddio llai fyth o ynni.

Cynlluniau ar gyfer cael ysgolion mwy gwyrdd

Mae'r rhaglen Eco-Ysgolion yn annog ysgolion i fod yn fwy gwyrdd drwy ddarparu amrywiaeth o grantiau i ysgolion cofrestredig er mwyn iddynt wneud newidiadau i wella'r amgylchedd.

Cynlluniau teithio

Mae'r ymgyrch cerdded i'r ysgol yn caniatáu i ysgolion gofrestru i fod yn ysgol WoW; mae hyn yn hyrwyddo cerdded i'r ysgol unwaith yr wythnos, gyda gwobrau am gymryd rhan.

Cynlluniau arbed ynni

  • mae'r cynllun Tystysgrif Ynni i Ysgolion yn helpu ysgolion i arbed arian ar ynni, lleihau allyriadau carbon, a gwella'r amgylchedd

Rhaglenni addysg am yr amgylchedd

  • mae rhaglen Globe yn cefnogi addysg am yr amgylchedd – bydd plant yn mesur amgylchedd eu hysgolion, yn cofnodi'r canlyniadau ac yn cymharu eu canfyddiadau gyda chanfyddiadau ysgolion eraill o bob cwr o'r byd

Allweddumynediad llywodraeth y DU