Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae ysgolion yn cael eu hannog i gynllunio gwaith cartref yn ofalus ochr yn ochr â’r gwaith y mae plant yn ei wneud yn yr ysgol, ac i wneud yn siŵr bod yr holl weithgareddau yn addas ar gyfer plant unigol. Dyma rai canllawiau i roi syniad i chi faint o amser y dylai eich plentyn fod yn ei dreulio ar waith cartref, a sut y gallwch chi ei helpu.
Rhoddir pwyslais ar sut mae gwaith cartref yn helpu eich plentyn i ddysgu, yn hytrach nag ar yr amser y bydd yn ei gymryd.
Er enghraifft, bydd ambell blentyn yn gweithio'n gyflymach nag eraill ac yn gwneud mwy o waith mewn llai o amser. Dyma syniad o'r amser ar gyfer plant ysgol gynradd:
Dyma syniad o'r amser ar gyfer plant ysgol uwchradd:
Ni ddylid disgwyl i’ch plentyn dreulio llawer mwy o amser ar ei waith cartref na’r bras amseroedd hyn. Nid oes ots os nad yw'r gweithgareddau'n cymryd cymaint o amser â’r hyn a nodir, cyn belled â'u bod yn ddefnyddiol. Dylai ysgolion drefnu gwaith cartref yn ofalus fel nad oes gofyn i blant wneud gormod mewn un diwrnod.
Dylai pob gweithgaredd a roddir yn waith cartref fod yn gysylltiedig â’r gwaith y mae’r plant yn ei wneud yn yr ysgol. Fodd bynnag, ni ddylai gwaith cartref fod yn waith ysgrifenedig bob amser. O ran plant iau, bydd yn golygu, i raddau helaeth:
Gallai gweithgareddau gwaith cartref i blant hŷn gynnwys:
Nid oes ots os nad yw'r gweithgareddau'n cymryd cymaint o amser ag y mae’r bras amseroedd yn ei nodi, cyn belled â bod y gweithgareddau’n ddefnyddiol.
Mae ysgolion yn fodlon i chi roi help llaw a chynorthwyo eich plentyn gyda’i waith cartref. Fodd bynnag, byddant hefyd am weld beth y gall eich plentyn ei wneud ar ei ben ei hun. Wrth iddynt fynd yn hŷn, bydd yn arbennig o bwysig i’ch plentyn ddod yn fwy annibynnol wrth ddysgu.
Mae’ch plentyn yn debygol o elwa mwy o weithgaredd os byddwch chi’n ei helpu, cyn belled nad ydych yn gwneud gormod ar ei ran. Os nad ydych yn siŵr beth yw eich rôl, dylech gael sgwrs gydag ysgol eich plentyn am y peth.
Bydd eich plentyn yn cael y cyfle i wneud ei waith cartref naill ai yn yr ysgol neu mewn clybiau sy’n cael eu cynnal y tu allan i oriau ysgol, dan oruchwyliaeth. Gallai hyn gynnwys gwasanaethau cymorth i astudio neu wasanaethau estynedig gan yr ysgol.
Mae disgwyl i ysgolion wneud yn siŵr bod plant yn cael adborth ar eu gwaith cartref. Dylai’r adborth gael ei roi mewn modd sy’n rhoi gwybod i’ch plentyn:
Ni fydd hyn yn digwydd bob amser drwy sylwadau ysgrifenedig gan yr athro. Weithiau, bydd y gwaith yn cael ei drafod yn y gwersi neu efallai y bydd yr athrawon yn rhoi sylwadau ysgrifenedig ar un neu ddau o agweddau ar ddarn o waith. Os ydych chi’n bryderus am yr adborth a roddir i'ch plentyn, dylech drafod hyn gyda'r ysgol.