Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y bwrsari 16-19: y ffeithiau i rieni a gofalwyr

Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg bellach wedi cau i geisiadau newydd yn Lloegr. Nid oes ceisiadau yn cael eu derbyn ar gyfer y cynllun. Mae’r Gronfa Fwrsari 16-19 wedi cael ei sefydlu i bobl rhwng 16 a 19 oed a allai gael anawsterau talu costau addysg neu hyfforddiant llawn-amser.

Helpu eich plentyn i fwrw ymlaen â'i fywyd

Mae llond gwlad o ddewisiadau dysgu ar gael i'ch plentyn os yw'n 16, yn 17 neu'n 18 oed ac wedi gadael addysg orfodol neu ar fin gwneud hynny.

Beth bynnag y mae'n dymuno ei wneud, mae cwrs ar gael sy'n addas i'w uchelgais – o waith gweinyddol mewn swyddfa i gyfryngau digidol, o wyddoniaeth a thechnoleg i deithio, twristiaeth a lletygarwch.

A gall ddod o hyd i ffordd o ddysgu sy'n addas ar ei gyfer hefyd. Gallai hyn olygu aros yn y chweched dosbarth, mynd i'r coleg neu ddysgu yn y gwaith.

Cyngor ar gyrsiau a gyrfaoedd

Oes arnoch eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn cynnig y cyngor iawn? Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Gyrfaoedd i Bobl Ifanc i gael arweiniad ar gyrsiau a dewisiadau gyrfa.

Cyngor ar y Bwrsari 16-19

Mae’n bosib y gall myfyrwyr rhwng 16 a 19 oed mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser gael bwrsari. Bydd y myfyrwyr sydd fwyaf mewn angen yn gymwys i gael bwrsari o £1,200 y flwyddyn. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys:

  • pobl mewn gofal
  • pobl sy’n gadael gofal
  • pobl sy’n hawlio cymhorthdal incwm
  • pobl ifanc anabl sy’n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Lwfans Byw i’r Anabl

Efallai y gall myfyrwyr eraill sy’n wynebu anawsterau ariannol dilys gael bwrsari yn ôl disgresiwn eu hysgol, coleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Yn wahanol i’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, bydd yr ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant yn gyfrifol am roi bwrsarïau i fyfyrwyr. Nhw fydd yn penderfynu’r swm, ac eithrio’r bwrsarïau £1,200 i’r myfyrwyr sydd fwyaf mewn angen. Nhw hefyd bydd yn penderfynu pryd y telir bwrsarïau, a byddant yn pennu’r amodau y dylai’r myfyrwyr eu bodloni i gael bwrsari, er enghraifft, amodau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad neu bresenoldeb.

Allweddumynediad llywodraeth y DU