Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cefnogi penderfyniadau gyrfa eich plentyn

Mae gwneud penderfyniadau gyrfa yn rhan bwysig o dyfu’n hŷn, ond fe all fod yn her. Fel rhiant, mae digon o bethau y gallwch eu gwneud i gefnogi eich plentyn a’u helpu i ddod o hyd i yrfa sy’n addas iddyn nhw.

Eich plentyn a’u cynlluniau gyrfa

Bydd angen i’ch plentyn wneud penderfyniadau yn ystod gwahanol gyfnodau, felly mae’n werth sôn am yrfaoedd o bryd i’w gilydd dros y blynyddoedd.

Does dim rhaid i chi gael trafodaeth ffurfiol am y peth – yn enwedig pan maent yn ifanc. Efallai yr hoffech siarad am y mathau o swyddi sydd yn y newyddion, neu am ddewisiadau gyrfa rhywun y mae'ch plentyn yn ei edmygu.

Gallech hefyd drafod mathau o yrfaoedd a all gyd-fynd â’u diddordebau, ac a yw cyflog uchel yn flaenoriaeth ai peidio.

Trafod syniadau am yrfaoedd

A chithau’n siarad o brofiad, gall fod yn demtasiwn rheoli’r sgwrs. Os nad ydych chi’n ofalus, mae perygl i'ch plentyn feddwl eich bod yn diystyru eu syniadau.

Mae’n werth cofio’r canlynol:

  • yn y pen draw, penderfyniad eich plentyn fydd pa yrfa y mae am ei dilyn, felly dylech fod yn barod i drafod gyrfaoedd posib sy’n wahanol i’r rhai sydd gennych chi mewn golwg
  • bydd cadw meddwl agored hefyd yn annog eich plentyn i ddod atoch gyda’u syniadau gyrfa
  • ni fydd gan bawb syniad clir o’r hyn yr hoffent ei wneud pan maent yn ifanc, ac mae uchelgeisiau’ch plentyn yn debygol o newid wrth iddo fynd yn hŷn

Annog eich plentyn i feddwl am yrfaoedd

Gallwch helpu’ch plentyn i ddechrau meddwl am yrfaoedd drwy eu cyfeirio at ffynonellau defnyddiol o wybodaeth. Does dim i’w rhwystro rhag dechrau ymchwilio pryd bynnag y maen nhw’n barod.

Mae digonedd o wybodaeth ar-lein i helpu’ch plentyn i gael gwybodaeth am wahanol fathau o yrfaoedd – mae adran pobl ifanc Cross & Stitch yn lle da i ddechrau.

Gwybodaeth am yrfaoedd yn yr ysgol neu’r coleg

Mae hefyd yn werth annog eich plentyn i drafod eu syniadau gydag athrawon neu gynghorwyr gyrfa yn yr ysgol neu’r coleg.

Gall eich plentyn ddisgwyl cael addysg gyrfaoedd yn ystod Blynyddoedd 9, 10 ac 11, ac ym Mlwyddyn 10 neu 11 mae'n debyg y cânt fynd ar brofiad gwaith. Holwch nhw beth maen nhw wedi’i ddysgu am fyd gwaith.

Helpu’ch plentyn i gynllunio gyrfa

Pan fydd eich plentyn wedi cael rhywfaint o syniadau am yr hyn y mae’n dymuno'i wneud â'i yrfa, dylech ei annog i edrych beth mae angen iddo’i wneud i gyrraedd yno.

Yn ogystal â’u helpu i benderfynu ar eu camau nesaf, bydd hyn yn eu hannog i feithrin sgiliau gwneud penderfyniadau a fydd yn bwysig pan fyddant yn oedolion. Bydd angen iddynt bwyso a mesur manteision ac anfanteision gwahanol ddewisiadau, gwneud penderfyniad ar sail y wybodaeth sydd ar gael – ac yna rhoi eu cynllun ar waith.

Cael y cymwysterau iawn

Mae sgiliau a chymwysterau’n fwyfwy pwysig mewn gweithleoedd y dyddiau hyn, ac mae mwy o ddewisiadau nag erioed ar gyfer pobl ifanc sy’n dymuno dal ati i ddysgu ar ôl iddynt gyrraedd 16 oed.

Gall mynd i addysg uwch arwain at amrywiaeth eang o ddewisiadau gyrfa cyffrous i’ch plentyn.

Gwella siawns eich plentyn o gael dilyn gyrfa o’i ddewis

Bydd cyflogwyr yn gweld gwerth mewn profiad gwaith yn ogystal â chymwysterau.

Os ydy’ch plentyn yn anelu at ddilyn gyrfa mewn maes cystadleuol, mae’n werth awgrymu iddo ystyried gwneud gwaith gwirfoddol, neu gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol sy’n berthnasol i’r gwaith hwnnw.

Additional links

Y Diploma

Cymhwyster newydd i bobl ifanc 14 i 19 oed

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU