Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai fod gennych rywfaint o gwestiynau os yw eich plentyn yn ystyried mynd i addysg bellach - yn enwedig os nad oes gennych chi brofiad o hynny eich hun. Mae digon o wybodaeth am gyrsiau, gyrfaoedd, costau a mwy ar gael.
Mae addysg uwch yn golygu mynd ag addysg eich plentyn i'r lefel nesaf a chyflawni ei botensial. Yn ogystal â chreu cyfleoedd gyrfa newydd, mae addysg uwch yn golygu cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau cymdeithasol a chwaraeon.
Gall hefyd helpu i ddatblygu ymdeimlad o annibyniaeth - heb bwysau gwaith amser llawn yn syth.
Gall addysg uwch helpu i agor y drws i amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous
Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am weithwyr sgilgar ac addysgedig. Gall cymhwyster addysg uwch arwain eich plentyn at amrywiaeth o ddewisiadau gyrfa cyffrous.
Ac ar gyfartaledd, mae graddedigion yn tueddu i ennill cryn dipyn yn fwy na phobl sydd wedi cael Safon Uwch ond heb fod mewn prifysgol. Dros gyfnod o oes rhywun ym myd gwaith, mae’r gwahaniaeth yn rhywbeth fel £100,000 cyn treth, yn ôl ffigurau heddiw.
Mae mwy o lwybrau i addysg uwch nag erioed o'r blaen
Mae mynd i'r brifysgol neu'r coleg yn ddewis i bawb sydd â'r gallu i lwyddo mewn addysg uwch.
Ar un adeg, roedd mynd i'r brifysgol yn cael ei ystyried yn rhywbeth ar gyfer y rheini o deuluoedd mwy cyfoethog, ond nid yw hyn yn wir bellach. Mae mwy o bobl yn mynd i addysg uwch nag erioed o'r blaen - gan gynnwys myfyrwyr o bob cefndir, ac o bob oed.
Mae mwy o ffyrdd o gael eich troed i mewn nag erioed o'r blaen. Gall cymwysterau NVQ, BTEC neu gymwysterau eraill sy'n gysylltiedig â gwaith - ac, yn y dyfodol, y Diploma 14-19 - fod yn llwybr i addysg uwch, yn ogystal â'r cymwysterau Safon Uwch traddodiadol.
Felly hyd yn oed os nad oes unrhyw un arall o'ch teulu wedi bod yn y brifysgol, does dim rheswm pam na all eich plentyn fynd.
Mae amrywiaeth eang o gyrsiau ar gael, o hanes yr henfyd i reolaeth ym maes lletygarwch i nyrsio milfeddygol.
Mae'n bwysig bod eich plentyn yn astudio pynciau y mae'n eu mwynhau, ond os yw'n bwriadu mynd i'r coleg neu'r brifysgol, dylai edrych i weld pa bynciau fydd eu hangen arno i ddilyn y cwrs yr hoffai ei ddilyn.
Er enghraifft, os oes ganddo ddiddordeb mewn cwrs neu yrfa ym maes gwyddoniaeth mae'n bosibl y bydd angen TGAU, Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol mewn pynciau gwyddoniaeth arno.
Mae llawer o rieni yn poeni sut gall eu plentyn dalu am addysg uwch, ond mae digon o gymorth ariannol ar gael. Defnyddiwch y dolenni isod i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael a beth fydd yn rhaid i rieni a phartneriaid ei wneud fel rhan o gais am gyllid myfyrwyr.
Ddim o reidrwydd: mae llawer o golegau lleol yn cynnig cyrsiau addysg uwch erbyn hyn. Mae llawer o bobl yn aros gartref tra'u bod yn astudio, a gall fod yn gyfleus - ac yn rhatach hefyd.
Ar y llaw arall, mae symud i ffwrdd yn golygu mwy o ddewis o gyrsiau - a gall helpu i ddatblygu ymdeimlad o annibyniaeth.
Mae blynyddoedd bwlch yn dod yn fwy a mwy poblogaidd, a gall cymryd seibiant o astudio helpu i ehangu profiad eich plentyn.
Os yw eich plentyn am gymryd blwyddyn fwlch, anogwch ef/hi i wneud cynlluniau fel y gall fanteisio i'r eithaf ar y flwyddyn honno. Dylai hefyd sicrhau bod y colegau a'r prifysgolion y mae'n gwneud cais amdanynt yn derbyn cais am fynediad wedi’i ohirio.
Mae gan 'Helpu eich plentyn i addysg uwch', canllaw Aimhigher i rieni, fwy o wybodaeth am addysg uwch - gan gynnwys pa fudd all eich plentyn ei gael o addysg uwch, sut y gall fynd i brifysgol neu goleg a sut beth yw bywyd myfyriwr.
Gallwch lwytho copi oddi ar y we isod, neu archebu un drwy:
Nodwch y cyfeirnod 'URN 09/1159'. Mae fersiwn sain ar gael hefyd (nodwch 'URN 09/1336').
Gellir cael cyngor gan athrawon neu ddarlithwyr a chan gynghorwyr gyrfa yn yr ysgol neu gan y Llinell Gymorth i Bobl Ifanc. Ewch i 'Lle i fynd, beth i'w astudio' i gael arweiniad ar sut i gael rhagor o wybodaeth am brifysgolion, colegau a chyrsiau.