Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Nid yw Budd-dal Plant yn cyfri fel incwm ar gyfer budd-daliadau eraill. Ond os ydych chi’n cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor, bydd angen i’r swyddfa sy’n talu’ch budd-dal wybod a ydych yn cael Budd-dal Plant. Diben hyn yw er mwyn iddynt allu cyfrifo faint i’w dalu i chi.
Nid yw Budd-dal Plant yn cael ei ystyried fel incwm os ydych yn gwneud cais am gredydau treth.
Nid yw Budd-dal Plant yn cael ei ystyried fel incwm ar gyfer budd-daliadau eraill.
Os ydych chi'n cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor, ni fydd eich Budd-dal Plant yn cael ei ystyried fel incwm. Ond bydd angen i’r swyddfa sy’n delio â’ch budd-dal wybod eich bod yn cael Budd-dal Plant er mwyn iddynt allu cyfrifo faint i’w dalu i chi.
Pan fyddwch yn hawlio’r rhain am y tro cyntaf, byddant yn gofyn faint o blant rydych chi'n gofalu amdanynt ac a ydych chi'n cael Budd-dal Plant ar eu cyfer. Bydd hyn yn helpu'r swyddfa sy'n delio â'ch Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor i gyfrifo faint i’w dalu i chi.
Weithiau, efallai y byddant yn gofyn i chi ddangos prawf o'ch Budd-dal Plant. Gallai hyn ddigwydd oherwydd bod ansicrwydd ynghylch ble mae’ch plentyn yn byw fel arfer, neu a yw'ch plentyn yn hŷn nag 16 oed.
Os byddwch chi’n dechrau cael Budd-dal Plant am y tro cyntaf, rhowch wybod i’r swyddfa sy'n talu eich budd-dal. Er enghraifft, pan fyddwch yn cael eich plentyn cyntaf. Efallai y bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth i faint o fudd-dal gewch chi.
Mae angen i chi hefyd ddweud wrthynt os bydd eich Budd-dal Plant yn newid neu'n dod i ben. Er enghraifft, os byddwch yn cael plentyn arall neu os bydd eich plentyn yn gadael cartref neu'n gadael yr ysgol neu'r coleg.
Os ydych yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban
I gael gwybod pa newidiadau sy’n effeithio ar eich Budd-dal Tai neu’ch Budd-dal Treth Cyngor, cysylltwch â'ch Cyngor lleol.
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon
I gael gwybod pa newidiadau sy’n effeithio ar eich Budd-dal Tai:
Darparwyd gan HM Revenue and Customs