Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheoli neu newid cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Os mai chi yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer y cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, gelwir chi yn 'berson cyswllt cofrestredig'. Yma, cewch wybod beth yw’ch cyfrifoldebau, pa waith papur y dylech ei gadw a sut mae newid y math o gyfrif, y darparwr neu'r person cyswllt cofrestredig.

Eich cyfrifoldebau fel y person cyswllt cofrestredig

Y person cyswllt cofrestredig yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer y cyfrif nes bydd y plentyn yn 16 ac yn cymryd rheolaeth dros y cyfrif.

Chi yw’r unig un a all wneud y canlynol:

  • dweud wrth ddarparwr y cyfrif sut i fuddsoddi'r arian a rheoli’r cyfrif
  • symud y cyfrif at ddarparwr arall
  • newid y math o gyfrif

Dylech gadw golwg ar sut mae’r cyfrif yn perfformio. Bydd datganiadau yn cael eu hanfon atoch, a gwybodaeth arall er mwyn eich helpu i wneud hyn.

Pan fydd eich plentyn yn ddigon hen, dywedwch wrtho am y cyfrif. Mae’n ffordd dda i’w helpu i ddysgu am arian a chynilo.

Gwaith papur y mae angen i chi ei gadw

Dylech gadw'r gwaith papur canlynol gyda’i gilydd mewn lle diogel:

  • Rhif Cyfeirnod Unigryw eich plentyn – dangosir y rhif hwn ar y daleb
  • y datganiadau ar gyfer y cyfrif
  • gwybodaeth arall yn ymwneud â’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
  • manylion y math o gyfrif a'r darparwr

Bydd hyn yn ei gwneud yn haws os bydd angen i chi holi am unrhyw beth, neu wneud unrhyw newidiadau i'r cyfrif.

Sut mae newid cyfrifon – neu ddarparwyr

Er mwyn newid i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gwahanol, edrychwch i weld a yw’r darparwr cyfredol yn cynnig y math o gyfrif rydych chi am newid iddo. Os nad yw’n cynnig y math hwnnw, efallai y bydd rhaid i chi ofyn i ddarparwr arall.

Mae’n bosib y byddwch chi hefyd am ofyn i’ch darparwr:

  • a oes ffi am newid y cyfrif
  • faint fydd yn ei gymryd i symud y cyfrif

Er mwyn newid darparwr, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • dewis darparwr newydd
  • cysylltu â’r darparwr newydd er mwyn gweld pa ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi

Bydd y darparwr newydd yn cysylltu â darparwr eich cyfrif cyfredol er mwyn trefnu i symud yr arian. Bydd hefyd yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am y newid.

Sut mae newid y person cyswllt cofrestredig

Mae’n bosib y byddwch am newid y person cyswllt cofrestredig. Er enghraifft, os bydd eich amgylchiadau teuluol yn newid, neu os bydd y person cyswllt cofrestredig yn marw.

Dilynwch y camau canlynol er mwyn newid y person cyswllt cofrestredig:

  • cam un: gofynnwch i’r darparwr am ffurflen gais er mwyn newid y person cyswllt cofrestredig
  • cam dau: mae’n rhaid i chi a’r unigolyn sydd am fod yn berson cyswllt cofrestredig newydd lofnodi'r ffurflen
  • cam tri: dylech roi’r ffurflen yn ôl i’r darparwr

Dim ond rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn all fod yn berson cyswllt cofrestredig, er enghraifft, os mai chi yw’r rhiant arall, y llys-riant neu’r gwarcheidwad cyfreithiol.

Os ydych chi wedi gwahanu oddi wrth y person cyswllt cofrestredig, a'ch bod am gymryd y rôl hon yn ei le, bydd rhaid i'r ddau ohonoch gytuno i hyn.

Pan fydd eich plentyn yn 16

Pan fydd eich plentyn yn 16, bydd yn gyfrifol am reoli ei gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ei hun. Mae hyn yn golygu y bydd angen iddo wneud cais i fod yn berson cyswllt cofrestredig ar gyfer y cyfrif.

Ni fydd yn gallu defnyddio'r arian yn y cyfrif nes ei fod yn 18.

Newidiadau mewn amgylchiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt

Mae rhai newidiadau mewn amgylchiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt, er enghraifft os bydd enw neu gyfeiriad yn newid. Bydd hyn yn eich helpu i reoli a chadw golwg ar y cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Mae’n bosib y bydd rhai o'r newidiadau hyn yn cael effaith ar daliadau Budd-dal Plant hefyd.

Rheoli cyfrif a agorwyd gan Gyllid a Thollau EM

Os na fyddwch yn defnyddio’r daleb erbyn y dyddiad y daw i ben, bydd Cyllid a Thollau EM yn agor cyfrif ar gyfer eich plentyn.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu atoch ac yn dweud wrthych:

  • bod angen i rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn fod yn berson cyswllt cofrestredig.
  • pa ddarparwr sy’n dal y cyfrif

Os ydych chi am fod yn berson cyswllt cofrestredig, gofynnwch i’r darparwr sy’n dal y cyfrif am ffurflen gais.

Os mai chi yw’r person cyswllt cofrestredig, gallwch newid i fath arall o gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant neu ddarparwr unrhyw bryd.

Rhoi arian yn y cyfrif neu dynnu arian o’r cyfrif

O 1 Tachwedd 2011, gall rhieni, teulu a ffrindiau roi arian yn y cyfrif hyd at gyfanswm o £3,600 y flwyddyn.

Ni all neb gymryd arian o'r cyfrif gan mai’r plentyn sy’n berchen ar yr arian. Gall y plentyn ei ddefnyddio pan fydd yn 18 oed. Yr unig eithriad yw os bydd eich plentyn yn angheuol wael ac yn debygol o farw.

Allweddumynediad llywodraeth y DU