Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Problemau gyda’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant – ble i ddechrau

Os byddwch chi’n cael unrhyw broblemau gyda’ch Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, mae digon o gyngor a chymorth ar gael i’ch helpu. Cewch wybod, er enghraifft, beth i’w wneud os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i waith papur, os oes taliadau heb eu gwneud neu os nad ydych yn fodlon â darparwr.

Rydych chi wedi colli manylion darparwr eich cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Os byddwch chi’n colli manylion darparwr eich cyfrif, cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Bydd yn ddefnyddiol i chi gael Rhif Cyfeirnod Unigryw eich plentyn pan fyddwch yn galw. Bydd y rhif ar eich taleb neu ar unrhyw waith papur gan Gyllid a Thollau EM.

Os na allwch chi ddod o hyd i’r Rhif Cyfeirnod Unigryw, cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant beth bynnag.

Nid ydych wedi cael taliad ychwanegol y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, a chithau'n ei ddisgwyl

Os ydych chi’n meddwl y dylai eich plentyn gael taliad ychwanegol y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant (er enghraifft, os ydych chi ar incwm isel neu fod eich plentyn yn cael Lwfans Byw i’r Anabl) ond nad ydych chi wedi’i gael, cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Rydych chi’n anfodlon â darparwr cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Dylech gymryd y camau canlynol os nad ydych chi’n fodlon â darparwr eich cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant:

  • cam un: cwynwch wrth y darparwr os nad ydych chi’n fodlon â’r modd y mae'n rheoli'r cyfrif
  • cam dau: cwynwch wrth yr Ombwdsmon Ariannol, os nad ydych chi’n fodlon ag ymateb y darparwr

Gallwch ystyried symud at ddarparwr arall.

Rydych chi’n anfodlon â’r modd y mae Cyllid a Thollau EM wedi ymdrin â chyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Os nad ydych chi’n fodlon â Chyllid a Thollau EM, er enghraifft, os nad ydych chi wedi cael taliad rydych chi'n meddwl bod gennych chi hawl iddo, gallwch ddilyn y camau canlynol:

  • cam un: ffonio Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant – byddant yn ceisio datrys y sefyllfa cyn gynted ag y bo modd
  • cam dau: os nad ydych chi'n fodlon ag ymateb y Llinell Gymorth, ysgrifennwch at:
  • The Customer Service Manager / Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid
    Child Trust Fund Office / Swyddfa’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
    Waterview Park
    Mandarin Way
    Washington
    NE38 8QG
  • cam tri: os ydych chi’n dal yn anfodlon, ysgrifennwch at y Dyfarnwr - mae’r Dyfarnwr yn ganolwr teg a diduedd, sy’n annibynnol ar Gyllid a Thollau EM ac mae ei wasanaeth yn ddi-dâl

Rydych chi'n anghytuno â phenderfyniad a wnaed gan Gyllid a Thollau EM

Weithiau gallwch apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Gyllid a Thollau EM. Er enghraifft, gallwch apelio os bydd Cyllid a Thollau EM yn penderfynu peidio â rhoi taleb i chi.

Er mwyn apelio, bydd angen i chi ysgrifennu llythyr yn esbonio â beth rydych chi'n anghytuno a pham. Dylech ei anfon at:

The Customer Service Manager / Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid
Child Trust Fund Office / Swyddfa’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
Waterview Park
Mandarin Way
Washington
NE38 8QG

Bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi gwybod i chi os nad oes modd i chi apelio yn erbyn y penderfyniad.

Os na allwch chi apelio, gallwch wedyn ofyn i’ch Aelod Seneddol godi'ch achos gyda'r Ombwdsmon Seneddol.

Problemau gyda thaleb y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Efallai fod problem gyda’ch taleb, er enghraifft:

  • efallai eich bod wedi’i cholli
  • mae’r dyddiad gorffen wedi mynd heibio ac nid ydych wedi agor cyfrif
  • mae’r manylion ar y daleb yn anghywir

I gael gwybod sut mae datrys problem sy'n ymwneud â'ch taleb, dilynwch y ddolen ‘Deall taleb y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant’

Darparwyd gan the Child Trust Fund

Allweddumynediad llywodraeth y DU