Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliadau'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant - beth y gallai eich plentyn ei gael

Gallai plant a aned ar neu cyn 2 Ionawr 2011 gael o leiaf £50 i ddechrau eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Efallai y caiff taliadau ychwanegol eu gwneud hefyd mewn rhai amgylchiadau penodol. Er enghraifft, os ydych ar incwm isel neu mae gan eich plentyn anabledd. Mynnwch wybod beth y gall eich plentyn ei gael.

Y taliad cychwynnol i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, ac rydych yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer, gallai fod yn gymwys i gael cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant a chael un o'r symiau a ddangosir yn y tabl isod.

Nid yw plant a aned cyn 1 Medi 2002, neu ar neu ar ôl 3 Ionawr 2011, yn gymwys i gael cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ac ni fyddant yn cael taliadau i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Gallech gael taliad cychwynnol uwch os yw awdurdod lleol yn gofalu am eich plentyn. Gweler yr adran 'Mae awdurdod lleol yn gofalu am eich plentyn - taliadau ychwanegol i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant'.

Y Swm

Pwy sy’n gymwys i gael y swm

£250

Caiff ei dalu os yw'r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • cawsoch Fudd-dal Plant yn gyntaf (neu fudd-dal teulu un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd) ar gyfer eich plentyn ar neu cyn 2 Awst 2010
  • ganed eich plentyn ar neu ar ôl 1 Medi 2002 ond cyn 3 Ionawr 2011
£50

Caiff ei dalu os yw'r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • cawsoch Fudd-dal Plant yn gyntaf (neu fudd-dal teulu un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd) ar gyfer eich plentyn ar neu ar ôl 3 Awst 2010 ond cyn 4 Ionawr 2011
  • ganed eich plentyn ar neu ar ôl 1 Medi 2002 ond cyn 3 Ionawr 2011

Rydych ar incwm isel - taliadau ychwanegol i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Gallai eich plentyn gael taliad ychwanegol o £50 neu £250 ar ben y taliad cychwynnol. Bydd y swm a gewch yr un fath â'r swm a welir ar daleb eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Dylai eich plentyn hefyd gael taliad pellach o £250 os cafodd ei ben-blwydd yn saith oed rhwng 1 Medi 2009 a 31 Gorffennaf 2010 - cyhyd ag yr oedd yn byw yn y DU. Gweler yr adran 'Roedd eich plentyn yn saith oed cyn 1 Awst 2010 - taliadau ychwanegol i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant'.

I gael y taliadau hyn rhaid i'r ddau beth canlynol fod yn berthnasol i chi neu eich partner:

  • rydych yn gymwys i gael Credyd Treth Plant
  • rydych ar 'incwm isel'


Caiff Credyd Treth Plant ei dalu os ydych yn gyfrifol am blentyn sydd fel arfer yn byw gyda chi. Os ydych o'r farn eich bod yn gymwys i gael Credyd Treth Plant, rhaid i chi wneud cais amdano o fewn 12 mis o ddyddiad cyhoeddi taleb eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Fel arall gallai eich plentyn golli allan ar daliad ychwanegol i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Mae 'incwm isel' yn golygu mai cyfanswm eich incwm cyn treth (gan gynnwys incwm unrhyw bartner sydd gennych) oedd:

  • £16,190 neu lai rhwng 6 Ebrill 2010 a 5 Ebrill 2011
  • £16,040 neu lai rhwng 6 Ebrill 2009 a 5 Ebrill 2010

Mae cyfanswm eich incwm yn cynnwys, er enghraifft, yr arian rydych yn ei gael o'ch cyflogaeth, rhai budd-daliadau'r wladwriaeth a chynilion.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn talu'r taliadau ychwanegol hyn yn uniongyrchol i gyfrif eich plentyn ar ôl:

  • i chi adnewyddu eich credydau treth (fel arfer rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf)
  • anfon hysbysiad dyfarnu terfynol eich credydau treth atoch

Gallai eich plentyn hefyd fod yn gymwys i gael taliad ychwanegol i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant os ydych chi, neu eich partner, yn cael unrhyw un o'r canlynol ar gyfer eich plentyn:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os ydych o'r farn bod hawl gan eich plentyn i gael y taliad ychwanegol hwn i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ond nid ydych wedi ei gael, cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Roedd eich plentyn yn saith oed cyn 1 Awst 2010 - taliadau ychwanegol i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Daeth pob taliad saith oed i ben ar 1 Awst 2010.

Cafodd plant a gafodd eu pen-blwydd yn saith oed rhwng 1 Medi 2009 a 31 Gorffennaf 2010 daliad ychwanegol o £250, os oeddent yn byw yn y DU.

Cafodd plant mewn teuluoedd incwm isel £250 yn ychwanegol ar ben y taliad saith oed os cawsant eu pen-blwydd yn saith oed rhwng 1 Medi 2009 a 31 Gorffennaf 2010.

Os nad ydych wedi cael y taliad ychwanegol, cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant os yw'r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • cafodd eich plentyn ei ben-blwydd yn saith oed rhwng 1 Medi 2009 a 31 Gorffennaf 2010
  • roedd eich plentyn yn byw yn y DU pan gafodd ei ben-blwydd yn saith oed

Roedd eich plentyn yn gymwys i gael Lwfans Byw i’r Anabl cyn 6 Ebrill 2011 - taliad ychwanegol i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Daeth taliadau ychwanegol i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i ben ar gyfer plant a oedd yn gymwys i gael Lwfans Byw i'r Anabl o 6 Ebrill 2011.

Efallai bod eich plentyn wedi bod yn gymwys i gael taliadau ychwanegol blynyddol i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant oherwydd ei fod yn cael Lwfans Byw i'r Anabl. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae'n rhaid bod eich plentyn wedi bod yn gymwys i gael Lwfans Byw i'r Anabl rhwng 6 Ebrill 2009 a 5 Ebrill 2011.

Dangosir swm y taliad ychwanegol i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn y tabl isod.

Swm Pwy sy’n gymwys i gael y swm
£200 Plant sy'n gymwys i gael cyfradd uchaf elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl - hyd yn oed ar gyfer rhan o'r flwyddyn dreth
£100 Plant sy'n gymwys i gael unrhyw gyfradd arall o Lwfans Byw i'r Anabl

Dylai Cyllid a Thollau EM fod wedi talu'r taliad ychwanegol yn uniongyrchol i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant eich plentyn erbyn 30 Mehefin 2011.

Os na chawsoch y taliad ychwanegol erbyn y dyddiad hwnnw ac rydych o'r farn bod hawl gan eich plentyn i'w gael, cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Mae awdurdod lleol yn gofalu am eich plentyn - taliadau ychwanegol i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Os dechreuodd yr awdurdod lleol ofalu am eich plentyn cyn i gais am Fudd-dal Plant gael ei wneud, caiff y taliad cychwynnol arferol ei ddyblu fel a ganlyn:

  • £500 - caiff ei dalu os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2002 a 1 Awst 2010
  • £100 - caiff ei dalu os ganed eich plentyn rhwng 2 Awst 2010 a 2 Ionawr 2011

Os dechreuodd yr awdurdod lleol ofalu am eich plentyn ar ôl i gais am Fudd-dal Plant gael ei wneud, ni fydd hawl gan eich plentyn i gael unrhyw arian ychwanegol. Bydd yn cael y taliad cychwynnol arferol yn unig.

Os yw eich plentyn wedi bod yn derbyn gofal am flwyddyn gyfan

Dylai eich plentyn hefyd gael taliad ychwanegol o £100 am bob blwyddyn gyfan mae'r awdurdod lleol, neu ymddiriedolaeth iechyd, wedi gofalu amdano. Mae hyn ond yn berthnasol i blant o oedd yn derbyn gofal rhwng 1 Ebrill 2007 a 31 Rhagfyr 2010. Daeth y taliadau hyn i ben ar 1 Ionawr 2011.

Dylai'r awdurdod lleol neu'r ymddiriedolaeth iechyd fod wedi talu'r taliadau hyn yn uniongyrchol i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant y plentyn. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol, neu'ch ymddiriedolaeth iechyd, os nad yw wedi gwneud hyn.

Darparwyd gan HM Revenue & Customs who administer the Child Trust Fund

Allweddumynediad llywodraeth y DU