Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Deall taleb y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Os oes gan eich plentyn hawl i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, bydd taleb yn cael ei hanfon atoch fel arfer. Byddwch yn defnyddio’r daleb i agor y cyfrif. Yma cewch wybod pwy sy’n cael y daleb, pryd i’w disgwyl a beth i’w wneud pan fyddwch chi'n ei chael neu os na fyddwch chi'n ei chael.

Pwy sy'n cael y daleb

Pan fydd eich plentyn yn gymwys i gael cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, bydd y daleb yn cael ei hanfon at y sawl sy’n cael Budd-dal Plant (neu un o fudd-daliadau teulu Ewrop) ar ei ran.

Ni fyddwch yn cael taleb os ganwyd eich plentyn cyn 1 Medi 2002 neu ar 3 Ionawr 2011 neu ar ôl hynny.

Ni fyddwch yn cael taleb os dechreuodd awdurdod lleol (neu ymddiriedolaeth iechyd yng Ngogledd Iwerddon) ofalu am eich plentyn cyn i chi ddechrau hawlio Budd-dal Plant ar ei gyfer, bydd Cyllid a Thollau EM yn agor y cyfrif ar gyfer eich plentyn yn lle hynny.

Cewch fwy o wybodaeth ynghylch pwy all gael cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn ‘Cronfa Ymddiriedolaeth Plant – gwybodaeth sylfaenol’.

Pryd i ddisgwyl y daleb

Fel rheol, byddwch yn cael y daleb o fewn pedair wythnos i gael Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn.

Os byddwch chi’n cael un o fudd-daliadau teulu Ewrop yn hytrach na Budd-dal Plant y DU, mae’n bosib y bydd yn cymryd ychydig mwy o amser i anfon y daleb i chi. Y rheswm am hyn yw y bydd ar Gyllid a Thollau EM angen rhagor o wybodaeth o bosib i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn gymwys i gael Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Os nad yw’ch taleb y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cyrraedd

Os nad ydych chi’n derbyn eich taleb o fewn pedair wythnos, gallwch wneud cais ar-lein neu gysylltu â’r Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i gael un newydd.

Dylech gael taleb newydd o fewn mis. Os na fydd un yn eich cyrraedd, cysylltwch â’r Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant eto.

Os yw’r daleb wreiddiol yn dod i’r golwg, dylech ei dinistrio. Nid yw taleb yr un fath â siec – does dim angen i chi ei chanslo.

Beth i’w wneud pan fyddwch chi’n cael y daleb

Pan fyddwch chi’n cael y daleb, dilynwch y camau canlynol:

  • cam un – gwnewch yn siŵr bod enw a dyddiad geni eich plentyn yn gywir – os nad ydyw, cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn syth
  • cam dau – penderfynwch pwy fydd yn agor y cyfrif – gall fod yn unrhyw un â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, megis rhiant neu lys-riant
  • cam tri – penderfynwch pa fath o gyfrif i’w agor – ceir gwahanol fathau o gyfrif i ddewis o’u plith
  • cam pedwar – dewiswch ddarparwr cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
  • cam pump – cysylltwch â’r darparwr rydych chi wedi'i ddewis i agor y cyfrif

Ceisiwch agor y cyfrif erbyn y dyddiad sydd ar y daleb. Bydd y dyddiad hwn 12 mis o’r dyddiad y cyflwynwyd y daleb. Os na fyddwch chi’n gwneud hyn, fe allech golli allan ar y £3,600 y cewch ei roi yn y cyfrif yn ystod y flwyddyn gyntaf.

Chewch chi ddim talu’r daleb i’r cyfrif y mae Budd-dal Plant yn cael ei dalu iddo. Y rheswm am hyn yw ei bod yn rhaid i’r cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant fod yn enw eich plentyn.

Os na fyddwch chi’n agor cyfrif cyn i’r daleb ddod i ben, bydd Cyllid a Thollau EM yn agor un i’ch plentyn ac yn rhoi gwybod i chi am hyn. Gallwch newid i wahanol fath o gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant os ydych chi’n dymuno.

Mae hefyd yn syniad da gwneud nodyn o'ch Rhif Cyfeirnod Unigryw a’i gadw’n ddiogel. Bydd hyn yn helpu i ganfod cyfrif eich plentyn os oes gennych chi gwestiwn yn nes ymlaen.

Os na fyddwch chi’n defnyddio’r daleb erbyn y dyddiad cau

Mae talebau sy’n cael eu hanfon cyn 1 Ionawr 2012 yn ddilys am 12 mis. Mae’r rhai hynny a ddanfonir ar neu ar ôl 1 Ionawr 2012 yn ddilys am 60 diwrnod.

Mae gennych tan y dyddiad cau a ddangosir i ddewis y math o gyfrif i'w agor.

Os na fyddwch chi’n agor cyfrif erbyn y dyddiad cau, bydd Cyllid a Thollau EM yn agor cyfrif i’ch plentyn yn awtomatig. Bydd Cyllid a Thollau EM yn dweud wrthych ym mhle mae cyfrif eich plentyn wedi cael ei agor.

Rydych chi’n gyfrifol am reoli’r cyfrif y mae Cyllid a Thollau EM wedi’i agor ar gyfer eich plentyn. Bydd angen i chi ddod yn ‘berson cyswllt cofrestredig’.

Os ydych chi wedi colli eich taleb

Os ydych chi’n colli eich taleb neu os yw wedi cael ei dwyn cyn y dyddiad y daw i ben. Gallwch wneud cais ar-lein i gael taleb newydd.

Darparwyd gan the Child Trust Fund

Allweddumynediad llywodraeth y DU