Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Diben cynlluniau cwyno annibynnol yw ceisio datrys anghydfodau am gynnyrch neu wasanaethau ariannol yn ddiduedd. Mae eu gwasanaethau'n rhad ac am ddim i ddefnyddwyr. Fel arfer, dim ond gan un o'r cynlluniau hyn y cewch ofyn am help gyda'ch cwyn, a hynny ar ôl ceisio datrys eich cwyn dan drefn gwyno fewnol y cwmni.
Cofiwch, rhaid i chi gysylltu'n uniongyrchol gyda'r cwmni dan sylw yn gyntaf i geisio datrys eich cwyn. Darllenwch 'Sut i gwyno am gynnyrch neu gyngor ariannol' wrth gwt yr erthygl hon.
Bydd cynllun annibynnol yn:
Dyma nhw:
Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol sy'n delio fwyaf gyda chwynion am gynnyrch a gwasanaethau ariannol, ond ni all ddelio gyda chwynion am y canlynol:
Ni all Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol gamu i mewn oni fyddwch eisoes wedi cwyno i'r cwmni drwy ei drefn gwyno fewnol a bod:
Gallwch gyflwyno cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol hyd at chwe mis ar ôl y dyddiad ar ymateb ysgrifenedig terfynol y cwmni.
Mae'r cynllun hwn yn delio gyda chwynion am unrhyw un o'r gwasanaethau canlynol, os cawsant eu darparu gan aelodau o'r Gymdeithas Prydlesu a Chyllid (Finance & Leasing Association):
Y cam cyntaf yw cysylltu â'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Byddant hwy yn ceisio cymodi a datrys yr anghydfod rhyngoch chi a'r cwmni. Os nad ydynt yn llwyddo i wneud hynny, gallwch gyfeirio'ch cwyn at y Cynllun Cyflafareddu - neu at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol os ydych yn cwyno yn erbyn banc neu gymdeithas adeiladu.
Mae'r Gwasanaeth yn delio gyda chwynion am sut mae cynlluniau pensiwn cwmnïau (galwedigaethol) a chynlluniau pensiwn personol yn cael eu rhedeg (ond nid sut maent yn perfformio).
Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau os na lwyddwyd i ddatrys eich cwyn yn uniongyrchol gyda gweinyddwr neu reolwr y cynllun pensiwn a bod un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol sy'n delio gydag anghydfodau'n ymwneud â gwerthu neu farchnata pensiynau.
Mae'r Ombwdsmon Pensiynau, yn debyg i'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau, yn archwilio cwynion am sut y caiff cynlluniau pensiwn eu rhedeg.
Cyn cysylltu â'r Ombwdsmon Pensiynau, dylech wneud y canlynol:
Fel rheol, ni fydd yr Ombwdsmon Pensiynau'n archwilio i'ch cwyn hyd nes eich bod wedi siarad â'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau.
Cofiwch y bydd angen i chi gysylltu â'r Ombwdsmon Pensiynau o fewn tair blynedd (fel arfer) o'r digwyddiad yr ydych yn cwyno amdano.