Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i gwyno am gynnyrch neu gyngor ariannol

Os nad ydych chi'n hapus gyda chynnyrch neu gyngor ariannol a gawsoch, yna gallwch chi gwyno. Rhaid i gwmnïau a reoleiddir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) gael trefn gwyno, a rhaid iddynt ymateb o fewn terfynau amser penodedig.

Cyn gwneud cwyn

Os nad ydych chi'n hapus gyda chynnyrch ariannol neu'r gwasanaeth rydych chi'n ei dderbyn, yna'r peth gorau i'w wneud yw cysylltu â'r cwmni cyn gynted â phosib. Mae gan gwmnïau ddyletswydd i drin eu cwsmeriaid yn deg, a byddant yn awyddus i helpu er mwyn datrys y broblem yn gyflym. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, mae gennych hawl i wneud cwyn ffurfiol er mwyn derbyn ymddiheuriad, cywiriad neu iawndal.

Y camau allweddol wrth wneud cwyn

Cam un

Os nad ydych eisoes wedi derbyn copi o drefn gwyno'r cwmni, yna gofynnwch am gopi. Bydd yn dweud wrthych at bwy y dylech anfon eich cwyn, gwybodaeth am ba bryd i ddisgwyl ymateb a'ch opsiynau os nad ydych yn hapus gyda'r canlyniad terfynol.

Cam dau

Os ydych chi'n anhapus gyda'r ymateb terfynol, neu os nad yw'ch cwyn wedi'i datrys cyn pen wyth wythnos, gallwch gyfeirio'ch cwyn i gynllun cwyno annibynnol. Gwasanaethau diduedd, rhad ac am ddim yw'r rhain sy'n cynnwys y canlynol:

  • Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
  • Cynllun Cyflafareddu'r Gymdeithas Prydlesu a Chyllid
  • Y Gwasanaeth Cyngor ar Bensiynau
  • Yr Ombwdsmon Pensiynau

Bydd trefn gwyno ysgrifenedig y cwmni'n cadarnhau pa gynllun y bydd angen i chi gysylltu ag ef. Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol sy'n delio â'r rhan fwyaf o gwynion am gwmnïau gwasanaethau ariannol.

Gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr erthygl 'Cynlluniau Cwyno Annibynnol' - ewch i 'Yn yr adran hon' isod.

Os ydych chi'n dal yn anfodlon

Os yw Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol wedi ystyried eich cwyn ond eich bod yn dal i fod yn anhapus, gallwch fynd i'r llys os mai dyna yw'ch dymuniad. Ond cofiwch y bydd y Llys, yn y rhan fwyaf o achosion, yn debygol o gytuno â phenderfyniad yr Ombwdsmon.

Os ydych eisoes wedi dilyn cynllun cyflafareddu neu fod yr Ombwdsmon Pensiynau wedi ystyried eich cwyn, fel arfer ni allwch fynd â'ch cwyn i'r llys. (Gallwch fynd yn syth i'r llys heb ddilyn y cynlluniau hyn, ond fe allai hyn arwain at gostau uwch.)

Os ydych chi'n mynd i'r llys, ewch i lys hawliadau bach. Gall systemau eraill y llys fod yn draul ar eich amser ac ar eich poced.

Mewn rhai achosion mae'n bosib y gallwch ddefnyddio'r darpariaethau perthnasau annheg newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 2006. Mae'r rhain yn galluogi benthycwyr i herio cytundebau credyd annheg yn y llys a chael iawndal, os yw'r berthynas gyffredinol yn annheg ar y benthyciwr.

Os yw'r cwmni wedi mynd i'r wal

Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol

Os yw'r cwmni yr ydych chi'n delio ag ef wedi mynd i'r wal, mae'n annhebygol iawn y byddant yn ymateb i gwynion. Serch hynny, os oedd yn cael ei awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, mae'n bosib y bydd gennych hawl i dderbyn iawndal dan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU