Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fydd rhywun sy’n agos atoch chi’n marw, gall fod yn ddefnyddiol i chi gael cyngor a chefnogaeth i'ch helpu chi i ddelio â'ch colled. Gallwch chi gael cymorth ymarferol gan y trefnydd angladdau neu gan eich meddyg teulu. Os bydd angen rhagor o arweiniad neu gefnogaeth arnoch chi, fodd bynnag, mae asiantaethau ar gael sy'n gallu eich helpu.
Gallwch chi ofyn am help a chyngor ymarferol ynglŷn â'r hyn a fydd yn digwydd nesaf, a'r hyn y mae angen i chi ei wneud, gan eich twrnai, gan gynghorwr crefyddol cymeradwy, neu gan wasanaethau cymdeithasol.
Os bu ymwelydd iechyd neu nyrs yn gweithio gyda’r person sydd wedi marw, efallai y gallan nhw helpu hefyd.
Os bu farw’r person mewn ysbyty, gall staff yr ysbyty weithiau roi cyngor ymarferol i chi am yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl.
Mae’n syniad da siarad â rhywun sy’n cydymdeimlo ac sy’n deall yr hyn rydych chi’n ei brofi.
Gallwch chi edrych ar wefannau’r mudiadau isod i gael gwybodaeth sylfaenol am yr hyn y maen nhw’n ei wneud, ac i weld rhifau cyswllt cenedlaethol. Gallwch chi hefyd edrych yn y llyfr ffôn neu holi yn eich llyfrgell leol i gael manylion cyswllt eich cangen leol.
Gofal Galaru Cruse
Mae Gofalu Galaru Cruse yn gweithio gyda phobl sydd wedi cael profedigaeth, ac yn eu cefnogi. Mae’n canolbwyntio ar eu helpu nhw i ddeall eu galar, ac i ymdopi â'u colled.
Mae eu gwasanaethau yn rhad ac am ddim. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am eu gwasanaethau drwy fynd i'w gwefan neu ffonio'u llinell gymorth (0844 477 9400).
Age Concern
Elusen genedlaethol yw Age Concern, sy’n canolbwyntio ar helpu a chefnogi’r henoed.
Mae’n gallu cynnig cyngor ymarferol ynglŷn â'r hyn y mae angen i chi ei wneud pan fydd rhywun sy'n agos atoch chi’n marw. Mae’n gallu eich helpu chi i wybod sut mae mynd ati i gofrestru marwolaeth, trefnu angladd a rhoi trefn ar faterion ariannol.
Y Samariaid
Mae’r Samariaid yn cynnig cymorth cyfrinachol, anfeirniadol drwy linell gymorth dros y ffôn. Mae’r llinell ar agor 24 awr y dydd, ac mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n teimlo trallod neu anobaith dwys. Mae’n gallu cynnig cymorth i’r rheini â phroblemau sydd mor ddwys eu bod yn ystyried hunanladdiad.
Mae hefyd yn cynnig cymorth drwy negeseuon e-bost, llythyrau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb.