Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoi organau

Bydd angen i chi weithredu'n gyflym os mai dymuniad y person sydd wedi marw neu berthynas agosaf y person hwnnw oedd rhoi ei organau i'w trawsblannu, neu roi'r corff i gyd er mwyn iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion dysgu ym maes meddygaeth.

Y drefn

Y drefn arferol yw mynd at y berthynas agosaf er mwyn gwneud yn siŵr nad ydynt yn gwrthwynebu'r syniad o roi organau.

Os mai mewn ysbyty neu sefydliad tebyg y bu'r person farw, yn ôl y gyfraith, mae'r corff ym meddiant pennaeth y sefydliad hwnnw. Gallant barchu dymuniad y person a fu farw, naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar gerbron dau dyst, a gadael i'r corff gael ei roi er mwyn cael ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil meddygol, os nad oes rheswm i gredu y byddai'r person wedi ail-feddwl ar ôl gwneud y cais gwreiddiol.

Os oes angen rhoi gwybod i grwner am y farwolaeth, efallai y bydd angen cael caniatâd y crwner cyn y gellir rhoi'r organau neu'r corff. Mae'n ofynnol bod tystysgrif feddygol wedi cael ei rhoi cyn y gellir tynnu'r organau neu ddefnyddio'r corff.

Mae'n hanfodol bod y galon, yr ysgyfaint a'r pancreas, a'r aren fel arfer hefyd, yn cael eu tynnu o gorff y rhoddwr:

• ar ôl derbyn ardystiad bod ymennydd y person yn farw
• pan fydd anadl, ac yn sgîl hynny, curiad calon y person, yn cael eu cynnal gan beiriant anadlu mewn uned gofal dwys yn yr ysbyty

Gellir tynnu'r arennau hyd at awr ar ôl i'r galon roi'r gorau i guro, er na wneir hynny'n aml. Gellir tynnu organau eraill hyd at yr adegau canlynol ar ôl i'r galon beidio â churo:

• cornbilennau'r llygaid – hyd at 24 awr
• y croen – hyd at 24 awr
• esgyrn – hyd at 36 awr
• falfiau'r galon – hyd at 72 awr

Bydd y meddyg a fydd mewn gofal ar y pryd yn rhoi cyngor ar y drefn. Ar ôl rhoi'r organau, bydd y corff yn cael ei ryddhau i'r perthnasau.

Rhoi'r corff yn ei gyfanrwydd a dysgu meddygol

Cysylltwch â'r Awdurdod Meinweoedd Dynol er mwyn cael manylion ynghylch rhoi'r corff yn ei gyfanrwydd (yng Nghymru a Lloegr):

Human Tissue Authority/Yr Awdurdod Meinweoedd Dynol
Finlaison House
15-17 Furnival Street
London
EC4A 1AB

Ystyrir lle bu'r person farw a beth oedd y rheswm dros y farwolaeth, cyflwr y corff ar adeg y farwolaeth a'r galw mewn ysgolion meddygol. Ar ôl hyn, gellir derbyn y corff. Gallai corff gael ei wrthod os cynhaliwyd post-mortem arno, neu os oes unrhyw brif organau, ac eithrio'r cornbilennau, wedi cael eu tynnu ohono.

Gellir cadw corff at ddibenion dysgu ym maes meddygaeth am hyd at dair blynedd. Bydd yr ysgolion meddygol yn trefnu angladd syml ac yn talu amdano, neu gall y perthnasau wneud hyn eu hunain. Gall yr ysgol feddygol roi cyngor i berthnasau ynghylch pryd fydd y corff ar gael ar gyfer yr angladd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU